Pethau i'w hystyried wrth gychwyn ar unrhyw dasg ar Fferm
1. TRAFNIDIAETH
CYN DECHRAU UNRHYW WAITH AR ATV, ARHOSWCH A MEDDYLIWCH...
- Sicrhewch mai personau sy’n gymwys ac wedi cael hyfforddiant swyddogol gyda gweithio’n ddiogel neu’r rheiny sy’n derbyn hyfforddiant o dan oruchwyliaeth sy’n gweithio’r ATV.
- Ydych chi wedi cael yr hyfforddiant briodol? Pam na wnewch chi fynychu cwrs hyffordiant achrededig Cyswllt Ffermio?
- Ydych chi’n gwisgo helmed bob tro? Os na, pam ddim? Does dim cab na bar gwrthrolio ar ATV, felly eich dillad yw’r unig beth sy’n eich diogelu.
- Ydy’ch ATV yn cael ei gynnal a’i gadw’n ddigonol? Pryd oedd y tro diwethaf i chi edrych dros eich ATV cyn ei ddefnyddio?
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma
2. MACHINERY
CYN DECHRAU UNRHYW WAITH AR BEIRIANT Y FFERM, AROSWCH A MEDDYLIWCH...
- Ydych chi’n gymwys ac yn gyfarwydd â gweithio’r peiriant a’r PTO rhwng y tractor a’r peiriant yn ddiogel?
- Ydych chi wedi cofio i AROS YN DDIOGEL os ydych chi angen edrych dros yr offer, gwneud gwaith cynnal a chadw neu glirio rhwystrau?
AROS YN DDIOGEL
- Gosodwch y brêc llaw yn gywir.
- Rhowch bob rheolydd yn niwtral.
- Stopiwch y peiriant.
- Tynnwch yr allwedd o’r cerbyd.
Ydych chi’n defnyddio’r cyflymder cywir ar gyfer y peiriant a’r siafft?
- Os yw peiriant yn cael ei ddefnyddio ar gyflymder uwch nag a gynlluniwyd ar ei gyfer, bydd gormod o bwysau arno a gallai chwalu. Gallai hyn gael ei achosi gan gyflymder anghywir ar gyfer y siafft neu gyflymder rhy uchel wrth ddefnyddio addaswr.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma
3. DA BYW
CYN DECHRAU UNRHYW WAITH GYDA DA BYW, ARHOSWCH A MEDDYLIWCH...
- Sicrhewch mai personau sy’n gymwys ac yn gyfarwydd â gwartheg, neu’r rheiny sy’n derbyn hyffprddiant o dan oruchwyliaeth sy’n cael mynd i mewn i barlwr/lloc/sied wartheg a thrin y gwartheg, yn enwedig os yw’n golygu gweithio gyda theirw.
- Pan fo’n bosib, sicrhewch bod dau berson yn bresennol yn enwedig os ydych chi’n ceisio gwahanu anifail oddi wrth weddill y fuches neu’n trin teirw.
- Ystyriwch y peryglon ar gyfer pobl dros 65 oed neu’r rheiny sy’n llai ystwyth- efallai na fyddant yn medru symud o’r ffordd mor gyflym pan fyddai angen.
- Ni ddylai plant o dan 13 oed gael mynediad i sied wartheg neu gyfleuster trin gwartheg.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma
4. CWYMPO
CYN DECHRAU UNRHYW WAITH, ARHOSWCH A MEDDYLIWCH...
- Oes modd OSGOI gweithio o uchder?
- Os yw’r gwaith yn eich gorfodi i fod ar ysgol sy’n pwyso neu ysgol fach am fwy na hanner awr ar y tro, dylech chi ddefnyddio offer gwahanol.
- Sicrhewch mai’r gweithwyr sy’n gymwys ac wedi arfer â gweithio’n ddiogel gyda’r offer, neu’r rheiny sydd o dan oruchwyliaeth hyfforddiant yn unig sy’n cael defnyddio’r ysgol neu’r ysgol fach.
- Dewisiwch yr ysgol orau ar gyfer y gwaith. Cofiwch ystyried y cyfyngiad pwysau a’i uchder hefyd. Mae nifer o anafiadau yn digwydd gan fod ysgolion yn rhy fyr ar gyfer tasg benodol ac yn hytrach na dewis ysgol newydd ar gyfer gwneud y gwaith, mae gweithwyr yn gosod yr ysgol ar ben rhywbeth er mwyn ymestyn ei gyrhaeddiad, neu’n sefyll ar y gris uchaf er mwyn cyrraedd yr uchder angenrheidiol. Nid dyma’r ffordd gywir.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma