Angharad Thomas

Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin

Angharad Thomas

Wedi graddio mewn Marchnata Bwyd-Amaeth o Brifysgol Harper Adams, mae Angharad Thomas yn byw ar fferm bîff a defaid ei theulu yn Nyffryn Tywi. Yn gweithio ar hyn o bryd yn yr adran dda byw Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, mae Angharad bob amser wedi cael ymglymiad cryf â’r diwydiant amaethyddol ac mae hynny i’w weld yn glir trwy ei chyfranogiad helaeth â mudiad Clwb y Ffermwyr Ifanc (CFfI).  

Yn ymgorffori’r mantra o wneud y gorau o bob cyfle a ddaw, mae Angharad, cystadleuydd llwyddiannus yng nghystadleuaeth Pesgi Moch Menter Moch Cymru a CFfI Cymru, wedi parhau i ddatblygu’r fenter a sefydlu busnes yn gwerthu blychau cig moch wedi’u magu ar y fferm.  

Gyda’r nod o gyfuno gwybodaeth o’i hastudiaethau, sy’n fwyaf diweddar yn cynnwys astudio cwrs MSc mewn Polisi Bwyd ac Amaethyddiaeth Gynaliadwy yn rhan amser, ynghyd â phrofiad ymarferol o fagu stoc a gwaith blaenorol o fewn y diwydiant cynhyrchu bwyd, uchelgais Angharad yw ehangu’r busnes gwerthu blychau cig wedi’u magu ar y fferm.   

Yn un sydd ddim yn ofn sialens, mae Angharad ar hyn o bryd yn gwasanaethu fel Llysgennad etholedig ar gyfer CFfI Sir Gaerfyrddin ac mae’n gynrychiolydd gweithredol ar bwyllgor Materion Gwledig. Yn edrych i’r dyfodol, mae Angharad yn dyheu am weithio ar ran ffermwyr a’u helpu i oresgyn yr heriau mae’r diwydiant yn ei gyflwyno ac i hwyluso gwelliannau busnes. 

“Ers bod yn rhan o Raglen yr Ifanc yn 2016, mae datblygiad cynnar fy ngyrfa wedi elwa llawer o’r cysylltiadau a’r rhwydweithiau a ddatblygais yn ystod y cyfnod hwnnw.

Nawr fy mod i wedi sefydlu fy musnes fy hun ac yn gobeithio ei ehangu, rwy’n credu y bydd Rhaglen Busnes ac Arloesedd Academi Amaeth yn gymorth i roi hwb ychwanegol i’n natblygiad trwy ddysgu am y llwyddiannau a’r heriau mae eraill wedi eu hwynebu yn y diwydiant. Rwy’n hyderus y bydd rhannu’r profiadau hyn yn gymorth i reoli’r heriau sy’n wynebu’r diwydiant nawr ac yn y dyfodol.”