Bryn Perry

Hwlffordd, Sir Benfro

Yn ffermwr cenhedlaeth gyntaf, mae Bryn Perry, sydd ar hyn o bryd yn denant ar fferm Gyngor yn Sir Benfro, yn rhedeg menter llaeth defaid fechan. Gyda gradd mewn rheoli busnes ac wedi gweithio mewn amrywiol ddiwydiannau a rolau yn y gorffennol, uchelgais Bryn erioed oedd gweithio yn y byd amaethyddol ar ei fferm ei hun.  

Ynghyd â’i bartner a’i ferch chwe mis oed, mae’r teulu yn cadw 60 o famogiaid godro ac yn eu godro ddwywaith y dydd ynghyd â gyr bychan o alpacaod, sy’n cael eu defnyddio am eu cnuoedd. 

Yn awyddus i ehangu’r busnes, mae Bryn yn bwriadu cynyddu maint y ddiadell i tua 120 o famogiaid yn godro’r flwyddyn, penderfyniad sy’n seiliedig ar y gofod sydd ar gael ar hyn o bryd gan ddefnyddio cynllun pori cylchdro. Y nod cyffredinol yw profi a datblygu model y gall ffermydd eraill ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu llaeth dafad oddi ar laswellt.

Fel rhan o’r fenter llaeth dafad, mae Bryn wedi ffurfio partneriaeth gyda chynhyrchwr llaeth presennol yng Nghrymych ac yn cynhyrchu caws, hufen ia a chynhyrchion eraill sy’n cael eu gwneud o laeth dafad ac sy’n cael eu gwerthu mewn marchnadoedd a sefydliadau lleol. 

Ar hyn o bryd, mae dwy fferm yn darparu llaeth i’r busnes ac maent yn bwriadu dod â fferm arall i mewn. Y nod cyffredinol yw sefydlu busnes llaeth dafad cydweithredol cyntaf yng Nghymru a fydd yn galluogi ehangiad ac uwchraddiad mewn cynhyrchiant, tra hefyd yn darparu opsiwn cynaliadwy hyfyw i ffermydd teuluol bychan allu ennill bywoliaeth. 

“Rwy’n gobeithio defnyddio’r Academi Amaeth i wella fy sgiliau o bersbectif busnes a’r ochr ffermio ymarferol. Rwy’n awyddus i wella’r sector llaeth dafad yng Nghymru trwy ein busnes cydweithredol ac ehangu fy ngwybodaeth am amaethyddiaeth - o’r fferm i’r plât. Rwyf hefyd yn gobeithio trwy gyfarfod ag arbenigwyr o’r diwydiant a phobl o’r un anian i ddatblygu rhwydweithiau newydd a dysgu gan eraill.”