Ellie Beavan

Chirbury, Maldwyn

Magwyd Ellie Beavan tra’n helpu ar fferm laeth ei theulu yn Sir Drefaldwyn, felly i rywun sy’n amlwg yn gystadleuol – Gwobr Aur Dug Caeredin, rhedwr hanner marathon, her y tri chopa ac yn y blaen - efallai nad yw’n syndod mai sefydlu busnes ei hun oedd ei swydd ddelfrydol. Yn uchelgeisiol a’i meddwl ar fusnes, ers haf 2020, mae wedi bod yn gwerthu llaeth ffres y teulu wedi’i basteureiddio ac ysgytlaeth i ddiwydiannau manwerthu a lletygarwch yn ogystal â gwerthu’n uniongyrchol i’r cyhoedd trwy boteli gwydr a pheiriannau gwerthu llaeth hunanwasanaeth.

Mae cynaliadwyedd yn holl bwysig iddi ac mae’n angerddol am leihau’r defnydd o blastigion untro ac addysgu pobl, yn arbennig plant, am fuddion iechyd cynnyrch ffres a lleol.

Graddiodd Ellie gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Marchnata Bwyd a Busnes ac Economeg o Brifysgol Reading. Roedd y cwrs yn cynnwys blwyddyn yn gweithio yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd, ac ar ôl graddio, derbyniodd swydd yn gweithio i’r enwog Daylesfrod Organig, ble dysgodd sut i fod yn weinydd gwin ynghyd â phethau eraill. 

“Taniodd yr holl brofiadau hyn fy angerdd am gefnogi ffermwyr Prydeinig, am gynnal ein lefelau uchel o les anifeiliaid ac arferion gweithgynhyrchu ac am harnesu arloesedd a thechnoleg a fydd, yn fy meddwl i, yn holl bwysig i lwyddiant y diwydiant.

Mae pa farchnadoedd i fynd i mewn iddynt, sut i fuddsoddi a’r lle gorau i gael cynnyrch fferm ffres yn gwestiynau y byddaf yn eu gofyn i’r bobl y byddaf yn cyfarfod â nhw trwy’r Rhaglen Busnes ac Arloesedd, pobl a fydd yn sicr yn fy ysbrydoli ac yn fy helpu i wneud y penderfyniadau heriol hyn ac i berfformio yn gyfrifol, yn effeithlon ac yn effeithiol.”