Fiona Hunt

Y Fenni, Sir Fynwy

Astudiodd Fiona Hunt weithgareddau agored yng Ngholeg Gwent yn bennaf oherwydd ei chariad tuag at chwaraeon a’r awyr agored. Ond yr hyn a ddylanwadodd ar ei gyrfa bresennol mewn amaethyddiaeth yw ei phrofiad o dyfu i fyny ar y fferm deuluol yn Sir Fynwy. 

Pan adeiladodd ei theulu uned ieir dodwy bach, treuliodd Fiona bob penwythnos rhydd a gwyliau ysgol yn casglu wyau er mwyn iddi allu prynu trampolîn. Nid yw ei mwynhad o chwaraeon a ffermio wedi lleihau a phan nad yw’n gweithio yn ei rôl fel arbenigwraig perfformiad dofednod gyda chwmni cyflenwadau amaethyddol blaenllaw, gallwch ddod o hyd iddi naill ai’n helpu ar fferm y teulu, yn beicio mynydd neu’n mwynhau ei hangerdd arall, sef saethyddiaeth ar gefn ceffyl

Ar ôl gadael Coleg Gwent, mynychodd Fiona Goleg Amaethyddol yr Alban (SRUC) ble astudiodd berfformiad dofednod. Enillodd hefyd statws SQP (Unigolyn sydd wedi’i Gymhwyso’n Briodol) o AMTRA (Awdurdod Hyfforddi a Rheoleiddio Meddyginiaethau Anifeiliaid).

Cyn gwneud y newid i’w rôl bresennol, gweithiodd Fiona ar fferm organig y teulu yn rheoli’r ieir dodwy ac yn gweithio gydag anifeiliaid llaeth a bîff.

Mae Fiona yn credu y bydd cymryd rhan yn y Rhaglen Busnes ac Arloesedd Academi Amaeth yn gyfle gwych i ffermwyr ifanc, i ddatblygiad eu gyrfa a’u datblygiad personol. 

“Fy nod hirdymor yw cyfrannu tuag at wneud ein diwydiant amaethyddol yn un o’r goreuon yn y byd, i ddatblygu fy sgiliau ac, yn ei dro, darparu gwell gwasanaethau i’ng nghwsmeriaid.

Rwyf hefyd eisiau dysgu am dechnolegau newydd a fydd yn gallu gwthio ein fferm i fod mor effeithlon ac amgylcheddol gyfeillgar â phosib."