Hari Roberts

Llanefydd, Conwy

Gyda diddordeb brwd mewn ffermio ers pan yn ifanc ac wedi’i fagu ar fferm ddefaid yn Sir Ddinbych, mae Hari Roberts yn ddiweddar wedi cwblhau ei astudiaethau yng ngholeg amaethyddol Glynllifon. Yn ddim ond 19 oed, ond gyda saith mlynedd o brofiad mewn gwaith amaethyddol, nid yw Hari’n un sy’n ofni gwaith caled. Ar ôl dewis i adael ei astudiaethau chweched dosbarth i ddilyn gyrfa yn gweithio ar ffermydd llaeth o amgylch Gogledd Cymru, mae Hari wedi ennill llawer o brofiad wrth weithio mewn gwahanol systemau llaeth.  

Pan nad yw’n gweithio, byddwch yn debygol o ddod o hyd i Hari o gwmpas y caeau gyda’i gi Huntaway neu’n gweithio gyda chriw hela gyda’i sbaniel. 

Mae ei diddordeb mewn cŵn gweithio yn debygol o fod yn ffordd ddoeth o hwyluso ei gynllun i gynyddu ei ddiadell bresennol o 360 o famogiaid Aberfield yn sylweddol, gyda phwysigrwydd arbennig ar flaenoriaethu iechyd y ddiadell. Trwy fod yn ofalus a dysgu am yr heriau sy’n wynebu menter ddefaid bresennol y fferm, mae gan Hari ragolwg diwygiedig ar arferion hwsmonaeth defaid ac mae’n ymrwymedig i roi ymdrech sylweddol i fonitro perfformiad y ddiadell a chadw cofnodion manwl. 

Mae gan Hari uchelgeisiau mawr i ehangu’r busnes ffermio tu hwnt i’w ffrydiau incwm presennol trwy archwilio dulliau eraill ac mae’n ystyried defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau a ddatblygodd yn y sector llaeth i fagu heffrod llaeth. Yn ymwybodol o’r cyfleoedd a all godi o ganlyniad i newid, mae Hari yn benderfynol o wneud y mwyaf o botensial y busnes.  

“Rwy’n gobeithio ehangu fy ngwybodaeth o’r sector amaethyddol a chyfarfod â busnesau sydd ar y blaen ac yn arwain ffyrdd newydd o ffermio, megis ymgorffori arferion amgylcheddol cynaliadwy i mewn i arferion a strategaeth busnes. Rwy’n edrych ymlaen at gael siarad â phobl o’r un anian sy’n rhannu’r un awydd i wella eu busnes ac sydd ddim yn ofni cymryd risgiau. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn gymorth i mi fynd â’n busnes i’r cam nesaf.”