Ifan Llwyd Owen
Llanrwst, Conwy
Wedi’i eni a’i fagu ar fferm deuluol ger Llanrwst, mae Ifan Llwyd Owen wedi datblygu cymwysterau a sgiliau eang yn gweithio yn y sector amaethyddol ers gadael Prifysgol Aberystwyth yn 2013. Gyda diddordeb brwd mewn iechyd anifeiliaid a’r diwydiant llaeth, mae Ifan bellach yn gweithio i gwmni rhyngwladol arloesol blaenllaw ym myd geneteg llaeth.
Pan nad yw’n teithio o gwmpas Gogledd Cymru yn cefnogi ffermwyr a’u busnesau i gyflawni’r fuches ddelfrydol a sicrhau ansawdd, gellir dod o hyd i Ifan allan yn y cae yn hyfforddi cŵn defaid neu’n canu fel aelod o grwpiau corawl lleol.
Yn ganwr ac yn stocmon, daw prif bleser arall Ifan o fridio diadell y teulu o ddefaid Wyneblas Caerlŷr, sy’n cael eu dangos gan y teulu ac yn cael eu gwerthu’n llwyddiannus mewn arwerthiannau bridio.
Yn y pendraw, nod hirdymor Ifan yw rheoli fferm ei hun ac ystyrir y cyfnod yma yn ei yrfa fel amser i feithrin a datblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn gymorth i’w ddatblygiad yn y diwydiant.
Yn ofalus, mae Ifan yn deall yr heriau y bydd yn rhaid i’r diwydiant ei oresgyn yn y dyfodol agos ac yn credu fod gan y genhedlaeth bresennol o ffermwyr ifanc ran fawr i’w chwarae mewn siapio’r cyfleoedd a allai ddod o ganlyniad i newid.
“Rwy’n gobeithio y bydd yr Academi Amaeth yn caniatáu i mi ddatblygu fy nealltwriaeth o strwythurau busnes a chael mynediad at fentoriaid i gefnogi fy nysgu. Rwy’n edrych ymlaen at gael rhannu syniadau gydag entrepreneuriaid y diwydiant a datblygu’r hyder i roi’r feddylfryd yma ar waith yn fy musnes fy hun.”