Marged Gruffudd Jones

Llanarth, Ceredigion

Saith mlynedd yn ddiweddarach ers ei hamser gyda Rhaglen yr Ifanc yr Academi Amaeth, mae Marged Gruffudd Jones, ymgynghorydd amaethyddol dan hyfforddiant o Lanarth yn ymuno â’r Rhaglen Busnes ac Arloesi gyda’r bwriad o gael gwell dealltwriaeth o’r heriau ehangach a’r cyfleoedd sy’n wynebu busnesau amaethyddol yng Nghymru heddiw. Ar ôl hyn, mae’n gobeithio defnyddio’r wybodaeth a’r rhagwelediad hwn yn ei gwaith o ddydd i ddydd wrth iddi gynnig cymorth i ffermwyr. 

Tu allan i’r gwaith, mae Marged yn byw ar fferm laeth a defaid ac yn aelod brwdfrydig o Glwb Ffermwyr Ifanc (CFfI) Mydroilyn. Ym mis Ionawr 2020, oherwydd ei hymglymiad â’r CFfI, cafodd Marged ei dewis i deithio i Seland Newydd mewn cydweithrediad â FfCCFfI ac Ymddiriedolaeth C. Alma Baker i dreulio pedwar mis yn gweithio ar fferm laeth, bîff a defaid yn Ynys y Gogledd.

Mae natur gwaith Marged yn golygu ei bod yn dod ar draws gwahanol fusnesau a chyfleoedd. Yn symud ymlaen, mae’n gobeithio datblygu ei gwybodaeth o gynllunio busnes a chwblhau cwrs FACTS (Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau) er mwyn rhoi cyngor ar wasgaru gwrtaith a slyri/tail buarth.

Gydag edmygedd o bobl mewn busnes sy’n barod i drafod methiannau’r busnes yn ogystal â’r llwyddiannau, mae Marged yn gobeithio ehangu ar ei sgiliau rheoli ymarferol y gellir eu rhoi ar waith rhyw ddiwrnod yn ei busnes ei hun. 

“Rwy’n edrych ymlaen at gael cyfarfod â phobl ysbrydoledig a brwdfrydig o fewn y diwydiant sy’n ymdrechu i wella eu busnesau. Trwy gyfarfod â phobl newydd ac arweinwyr o fewn y diwydiant, hoffwn gael mewnwelediad i’w syniadau o ran arloesedd a sut i fynd i’r afael â’r heriau.”