Owain John

Llanelli, Sir Gaerfyrddin

Yn byw ym Maesybont, Sir Gâr, mae Owain John yn rhedeg ei fenter bîff a defaid ei hun ar dros 200 o erwau. Mae Owain wedi bod yn ffodus i sicrhau’r denantiaeth i ffermio ar ei liwt ei hun er mwyn parhau i sefydlu ei fusnes.

Gan gyfaddef fod ganddo frwdfrydedd na ellir ei wadu am ffermio ers yn ifanc, o’r ysgol, aeth Owain yn naturiol i astudio amaethyddiaeth yn y coleg. Gan ddatblygu gwybodaeth werthfawr, mae bellach yn manteisio ar ei astudiaethau trwy reoli ei fusnes ei hun a’i rôl fel arbenigwr iechyd anifeiliaid i gwmni cyflenwadau amaethyddol blaenllaw. 

Ynghyd a bod yn fwy hunanhyderus, mae Owain yn datgan mai ei brofiad yn y rôl hon sydd wedi’i helpu i ddatblygu ei ddealltwriaeth o ochr broffesiynol y diwydiant amaethyddol. Mae Owain bellach yn gweithio tuag at ennill statws SQP (Unigolyn sydd wedi’i Gymhwyso’n Briodol) o AMTRA (Awdurdod Hyfforddi a Rheoleiddio Meddyginiaethau Anifeiliaid) er mwyn datblygu ei yrfa ymhellach.  

Gan ganolbwyntio ar ei fusnes ei hun, prif flaenoriaeth Owain ar hyn o bryd yw deall y gofynion angenrheidiol er mwyn gwneud y fenter gyffredinol i redeg yn fwy effeithlon ac yn broffidiol. Yn ddiolchgar i’w dad am ei gefnogaeth i gwblhau tasgau ar y fferm o ddydd i ddydd ers ei ymddeoliad, mae Owain yn gobeithio manteisio ar y cyfleoedd ac mae’r gefnogaeth hyn yn caniatáu iddo roi amser i’w ddatblygiad personol. 

Yn y pen draw, nod Owain yw ehangu’r busnes i’r pwynt ble mae mewn sefyllfa i brynu fferm ei hun.  

“Trwy fod yn rhan o’r Academi Amaeth, rwy’n gobeithio gwrando a siarad ag arbenigwyr o’r diwydiant er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r pwysau maen nhw’n ei wynebu. O hyn, rwy’n gobeithio cael gwell gafael ar yr hyn sydd ei angen gan berchnogion busnes i sicrhau ein bod ni gyd yn gweithio gyda’n gilydd er mwyn sicrhau gwell dyfodol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o fewn y diwydiant amaethyddol.”