Scott Robinson

Clunderwen, Sir Benfro

Wedi’i fagu ar fferm laeth deuluol yng Nghlunderwen, mae Scott Robinson bellach yn bartner yn y busnes godro 140 o wartheg. Cyn dychwelyd adref i redeg y busnes ochr yn ochr â’i dad, mentrodd Scott dros y ffin i astudio Amaethyddiaeth yng Ngholeg Hartpury, cwrs a oedd yn cynnwys blwyddyn o leoliad mewn fferm laeth, bîff, âr a thatws.

Ers cymryd mwy o gyfrifoldebau yn y busnes, mae Scott wedi rhoi ffocws cadarn ar sicrhau bod y fferm yn cyrraedd ei llawn botensial o ran effeithlonrwydd a phroffidioldeb. 

Yn ogystal ag aros yn driw i’w weledigaeth o aros yn fferm deuluol yn hytrach na ehangu, mae Scott ar hyn o bryd yn arwain newid mewn cyfeiriad strategol i ddod yn fuches odro sy’n prynu stoc cyfnewid. Yn cofleidio newid unwaith eto, mae’r fferm am y tro cyntaf eleni wedi tyfu haidd cnwd cyfan, penderfyniad mae Scott yn gobeithio a fydd yn gweithredu fel catalydd i dyfu mwy o borthiant wrth symud i fod yn llai dibynnol ar gyfansoddion.

Yn awyddus i ddatblygu ffrwd ariannol ychwanegol, yn 2020, fe ddechreuodd Scott ei fenter newydd ar y fferm a sefydlu peiriant gwerthu llaeth hunanwasanaeth. Gyda rhagor o botensial i ehangu ac ychwanegu gwerth i’r fenter trwy siop fechan, mae Scott yn awyddus i hwyluso’r twf mewn gwerthiant llaeth a chyflawni targedau personol. 

“Trwy fod yn rhan o’r Academi Amaeth, rwy’n gobeithio cyfarfod â phobl o’r un anian wrth ehangu fy ngorwelion trwy glywed gwahanol safbwyntiau a phrofiadau sydd, rwy’n gobeithio, am sbarduno syniadau newydd a phosibiliadau i’r fferm. Rwy’n hyderus y bydd cyfarfod â phobl wahanol gydag uchelgeisiau tebyg o ystod o sectorau yn helpu i fy ysbrydoli a’n ysgogi i symud ymlaen a chyflawni mwy.”