Aled Davies

Y Drenewydd, Powys

Aled Davies

Yn fab fferm o Fwlch y Ffridd, y Drenewydd, mae Aled Davies fyfyriwr blwyddyn gyntaf y chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd Caereinion ac yn astudio ar gyfer ei Lefel A a Diploma Genedlaethol mewn Busnes ac Amaethyddiaeth. Ar ôl cwblhau ei arholiadau, mae Aled yn gobeithio mynd i’r brifysgol i astudio amaethyddiaeth ac yn gobeithio teithio dramor i ehangu ei ddealltwriaeth gyda phwyslais penodol ar ffermio defaid a glaswelltir. 

Ar hyn o bryd, tu allan i’w astudiaethau academaidd, mae Aled yn treulio ei amser rhydd ar y fferm deuluol sydd gydag uned cynhyrchu wyau maes, a hefyd, mae’n llwyddo i gyflawni ei rôl fel cynorthwyydd godro rhan-amser yn gweithio yn ôl trefn rota.

Pan nad yw’n gweithio’n galed, mae Aled yn chwarae rygbi i’w glwb lleol, COBRA, ym Meifod, a bu am gyfnod yn chwarae i glwb Rygbi Gogledd Cymru. Mae cariad Aled tuag at chwaraeon yn parhau wrth iddo ddefnyddio ei sgiliau pêl droed i hyfforddi myfyrwyr ar sail wirfoddol I fyfyrwyr yn Ysgol Uwchradd Caereinion. 

Yn y pen draw, nod hir dymor Aled yw dychwelyd adref i’r fferm deuluol i ganolbwyntio ar ehangu’r busnes trwy gynyddu nifer yr erwau a lefelau stocio yn y sector defaid a thrwy fod yn agored i gyfleoedd ecogyfeillgar. 

“Credaf y bydd yr Academi Amaeth yn rhoi’r cyfle i mi siarad gydag arbenigwyr o fewn y sector amaeth a fydd yn fy mentora, yn fy nghefnogi, yn fy herio ac yn fy arwain trwy’r rhaglen a chael gwared a chanfyddiadau negyddol sy’n ymwneud a’r  sector amaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rwy’n hyderus y bydd y profiad yma yn fy narparu gyda’r sgiliau a’r offer cywir i helpu i warantu llwyddiant trwy ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a chysylltiadau newydd.”