Anwen Hardwick

Llandrindod, Powys

Wedi cael ei geni a’i magu ar fferm bîff a defaid yng Nghanolbarth Cymru, cwblhaodd Anwen Hardwick ei arholiadau TGAU yn ddiweddar ac mae’n gobeithio dychwelyd i gwblhau ei arholiadau Lefel A. Gyda diddordeb arbennig mewn geneteg, diddordeb sydd wedi dod trwy weithio gyda diadell y teulu o ddefaid Texel pedigri, mae Anwen yn dyheu am gael mynd i’r brifysgol i astudio amaethyddiaeth a gwyddor anifeiliaid. 

Pan nad yw hi’n astudio neu’n brysur yn cyflawni ei dyletswyddau ar y fferm deuluol, sy’n ddiweddar yn cynnwys magu lloeau heffrod Friesian croes British Blue i ymuno â’r fuches sugno, mae Anwen yn cydnabod Clybiau Ffermwyr Ifanc (CFfI) fel rhan fawr o’i bywyd. Yn hapus i wneud y gorau o bob cyfle sy’n cael ei daflu ati, rhai o hoff weithgareddau CFfI Anwen yw beirniadu stoc, trefnu blodau a’r gystadleuaeth adloniant. Mae ei hymrwymiad i’r sgiliau hyn wedi sicrhau’r cyfle iddi gynrychioli sir Faesyfed ar lefel genedlaethol.

Wrth edrych tuag at y dyfodol, mae Anwen yn ystyried ei magwraeth ar fferm gyda’i gysylltiad amlwg i heriau posibl fel rhagofyniad perffaith i ddilyn gyrfa yn cefnogi a chynghori ffermwyr i helpu i oresgyn rhwystrau. Mae’n gobeithio gwneud hyn trwy gyflwyno technolegau newydd a darganfod ymarferion gwell sy’n gymorth i yrru’r busnes ymlaen. 

“Rwy’n teimlo mai’r rhwystr mwyaf sylweddol y bydd yn rhaid i’r sector amaethyddol ei oresgyn yn y blynyddoedd sydd i ddod yw gwella cynaliadwyedd trwy leihau allyriadau carbon a gwella cynnyrch a defnydd o dir amaeth. Trwy fod yn rhan o’r Academi Amaeth, rwy’n gobeithio cyfarfod â phobl a gwneud cysylltiadau o fewn y diwydiant a fydd yn ehangu fy nealltwriaeth o’r problemau hyn a chyfarfod ag arbenigwyr er mwyn dysgu mwy am y datblygiadau a’r technolegau mwyaf diweddaraf sy’n gallu bod yn gymorth i oresgyn yr heriau hyn.”