Charlie Baldwyn

Aberhonddu, Powys

Mae Charlie Baldwyn o Sir Frycheiniog yn rhannu ei amser rhwng ei gyfrifoldebau ar fferm ucheldir y teulu a gweithio i ennill ei Ddiploma mewn Amaethyddiaeth yn seiliedig ar Waith. Cafodd awydd Charlie i ddatblygu gyrfa ym myd amaeth yn y dyfodol ei gadarnhau yn 2017 pan symudodd y teulu o Loegr i redeg darn o dir 299 hectar (ha) yn Sir Frycheiniog. O fwydo a gofalu am y fuches sugno a’r mamogiaid, i helpu i redeg y busnes saethu ffesantod masnachol, mae Charlie yn cymryd rhan yn y gwaith bob dydd o redeg y busnes. 

Does gan Charlie ddim ofn gwaith ymarferol, ac mae ganddo ddiddordeb defnyddiol iawn mewn gwaith peirianyddol. Bydd Charlie yn aml yn ei weithdy yn defnyddio ei sgiliau i gynnal a thrwsio’r offer a bydd hyd yn oed yn dylunio offer a pheiriannau. 

Y tu hwnt i fyd gwaith, mae Charlie yn ddyledus iawn i’r Clwb Ffermwyr Ifanc (CFfI) am roi cyfle iddo wneud ffrindiau newydd ac ehangu ei wybodaeth am ffermio a diwylliant Cymru ers iddo symud i’r wlad. Fel aelod o CFfI Pontfaen, mae wedi datblygu ei sgiliau ymarferol drwy gystadlu mewn cystadleuaethau plygu gwrychoedd ac mae hyd yn oed wedi camu ar lwyfan, diolch i’r gystadleuaeth ddrama flynyddol. 

Mae Charlie yn cydnabod ei fod yn lwcus bod ei deulu wedi rhoi cyfle iddo reoli rhai agweddau ar y fferm ers iddo adael yr ysgol ac mae hyn wedi bod o fudd i’w astudiaethau. Yn y dyfodol, byddai’n hoffi rhedeg y busnes teuluol ei hun yn llwyddiannus.

“Trwy gymryd rhan yn Academi Amaeth 2021, rwy’n gobeithio gallu ymateb i’r heriau ym myd amaeth ac elwa ar gyngor da gan fentoriaid ac arbenigwyr yn eu maes. Hoffwn hefyd ddefnyddio’r cyfle hwn i drafod fy mhrofiadau o weithio adref ar y fferm deuluol gyda phobl debyg i mi. Rwy’n hyderus y bydd y cyngor y byddaf yn ei gael drwy’r Academi o fudd i’m dyfodol ac yn gwella fy natblygiad proffesiynol.”