Charlotte Wilson

Hwlffordd, Sir Benfro

Wedi cael ei magu ar fferm laeth yn Sir Benfro, mae Charlotte Wilson, neu ‘Lottie’ Wilson fel y caiff ei hadnabod yn lleol, yn cyfaddef mai ers ei phlentyndod, mae hi wedi bod yn treulio rhan fwyaf o’i hamser yn gweithio ar ffermydd. Wedi ennill profiad o weithio gyda’r sectorau llaeth, gwartheg bîff a defaid ar lawer o ffermydd ac adref, mae hi bellach yn gweithio tuag at ennill Diploma Estynedig mewn Amaethyddiaeth yng Ngholeg Hartbury. I ategu at ei hastudiaethau a’i gweledigaethau ar gyfer y dyfodol, mae Lottie yn cyfaddef bod ei phen o hyd mewn llyfr neu bapur ymchwil yn chwilio am syniadau newydd ar gyfer y fferm.

Unwaith mae ei chyfrifoldebau dyddiol wedi’u cwblhau, hoff weithgarwch Lottie yw mynychu ei Chlwb ffermwyr Ifanc (CFfI) lleol ble mae’n cystadlu mewn amryw o gystadlaethau sirol, ac mae hefyd wedi cyrraedd lefel genedlaethol am feirniadu stoc. Mae Lottie hefyd yn farchoges frwdfrydig ac yn mwynhau marchogaeth fel aelod o’r helfa leol. Trwy ei phleser o farchogaeth, mae Lottie wedi mynd ymlaen i gwblhau hyfforddiant Marchogaeth a Diogelwch Ffordd Lefel 2 gyda’r Gymdeithas Geffylau Prydeinig ac mae hefyd yn cynnig ei hamser a’i gwybodaeth yn helpu marchogwyr anabl.

Mae Lottie yn ymrwymo llawer o ystyriaeth am ddyfodol y fferm a'i dyhead yw cyflwyno diadell o famogiaid magu i’r fenter laeth bresennol. Yn fwy na dim, mae’n rhestru bridio ar gyfer gwella trwy ddefnydd o eneteg a genomeg fel ei diddordeb mwyaf wrth weithio gyda stoc. Yn y dyfodol, wedi iddi ddychwelyd adref i weithio ar y fferm deuluol ar ôl bod yn teithio, mae Lottie yn gobeithio addysgu ei hun ar ddefnyddio defaid a gwartheg i wneud defnydd effeithlon o’r tir ac er mwyn sicrhau’r effeithlonrwydd mwyaf posib.

“Roedd y cyfle i gyfarfod â chyfoedion a chysylltiadau newydd o’r diwydiant yn apêl fawr wrth ymgeisio ar gyfer yr Academi Amaeth. Rwy’n credu fod y cyfleoedd yma yn bwysig er mwyn rhedeg busnes amaethyddol yn ystod y newid mewn hinsawdd yr ydym yn ei brofi ar hyn o bryd. Mae amaethyddiaeth eisoes mewn lle gwahanol o’i gymharu â’r adeg pan gamodd fy nheulu i’r diwydiant. Fy ngobaith felly yw y byddaf yn dysgu syniadau newydd, heb ddibynnu ar genedlaethau blaenorol, sy’n gallu cael eu hymgorffori i’r busnes teuluol i helpu ffurfio dyheadau newydd ac ysbrydoliaethau i’n busnes.”