Dylan Nutting

Y Drenewydd, Powys

Cwblhaodd Dylan Nutting ei astudiaethau Safon Uwch yn Ysgol Uwchradd Caereinion yn ddiweddar. Yn y dyfodol mae’n gobeithio y bydd ei angerdd a’i frwdfrydedd tuag at amaethyddiaeth o gymorth iddo wrth astudio Amaethyddiaeth a Gwyddor Anifeilaid ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n gobeithio y bydd y cwrs yn ei alluogi i archwilio’r wyddoniaeth y tu ôl i gynhyrchu da byw yn well, pwnc y mae gan Dylan ddiddordeb mawr ynddo. 

Trwy gyfuno ei gefndir o gael ei fagu ar fferm bîff a defaid yng Nghanolbarth Cymru â’i brofiadau o weithio mewn sawl sector, fel bîff, defaid, llaeth a dofednod, mae Dylan yn teimlo ei fod eisoes wedi datblygu dealltwriaeth dda o systemau amaethyddol y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, mae Dylan yn awyddus i ddysgu mwy ac mae’n bwriadu teithio i wledydd fel Seland Newydd i ddarganfod systemau ac arferion gwahanol. 

Yn ei amser hamdden, mae Dylan yn mwynhau chwarae rygbi i’w dîm ieuenctid lleol a chymdeithasu gyda’r Clwb Ffermwyr Ifanc (CFfI) lleol. Mae Dylan wedi cymryd rhan mewn pob math o gystadlaethau amrywiol, o farnu stoc a thynnu rhaff, i actio a chanu’r piano a’r gitâr yn Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc a’r ŵyl ddrama flynyddol. 

Yn y dyfodol, mae Dylan yn gobeithio y gall gyfuno ei ddiddordeb byw mewn amaethyddiaeth â gyrfa ym maes ymchwil da byw neu waith ymgynghorol. Mae hefyd yn gobeithio gwella ei ddealltwriaeth o ddulliau rheoli porfa a dysgu rhagor am gofnodi perfformiad diadelloedd a geneteg. 

“Rwy’n credu y bydd yr Academi Amaeth yn brofiad gwerthfawr iawn i mi gan fy mod wedi cyrraedd pwynt lle rwy’n dechrau ystyried fy ngyrfa yn y dyfodol. Rwy’n ffodus iawn fy mod i wedi cael profiad o weithio mewn sawl sector amaethyddol gwahanol. Fodd bynnag, mae pob diwrnod yn ddiwrnod ysgol ac rwy’n edrych ymlaen i ddysgu mwy drwy gyfarfod ffermwyr ac arbenigwyr y diwydiant i ehangu fy ngwybodaeth a’m sgiliau i ddatblygu fy syniadau busnes a’m gyrfa fy hun.”