Hefin Owen

Llanrwst, Conwy

Mae Hefin Owen yn fyfyriwr yng Ngholeg Glynllifon, Grŵp Llandrillo Menai, ac yn ddiweddar fe gwblhaodd ei flwyddyn gyntaf yn astudio ar gyfer ei Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth. Mae Hefin yn cael digon o gyfleoedd i roi ei astudiaethau ar waith ar fferm laeth y teulu ger Llanrwst. Mae Hefin yn gobeithio parhau â’i astudiaethau academaidd a mynd i’r brifysgol i astudio amaethyddiaeth. 

Pan nad yw’n astudio, prif ddiddordebau Hefin yw chwarae rygbi i’r tîm lleol ac mae hefyd yn mwynhau mynd ar ei feic mynydd ym mynyddoedd prydferth Gogledd Cymru. Yn ystod y pandemig, mae Hefin wedi chwarae rhan bwysig yn gwasanaethu’r gymuned drwy weithio’n amser llawn yn y siop gig leol yn ogystal â chyflawni ei ddyletswyddau amrywiol. 

Yn y dyfodol, mae Hefin yn gobeithio ymweld â busnesau ffermio llwyddiannus ar draws y byd i ddysgu arferion gorau o brofiadau pobl eraill a gwella ei ddealltwriaeth o amaethyddiaeth. Ei nod y tu hwnt i hyn yw gallu godro ei fuches ei hun. 

“Trwy fod yn rhan o’r Academi Amaeth, rwy’n gobeithio gallu ehangu fy nealltwriaeth o’r byd amaethyddol drwy ddysgu gan arbenigwyr y diwydiant a’m cymheiriaid. Rwy’n gobeithio gallu defnyddio’r wybodaeth a’r profiadau newydd hyn ar fferm y teulu”.