Holly Page

Yr Ystog, Powys

Mae Holly Page yn fyfyriwr yng Ngholeg y Drenewydd lle mae’n astudio Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth. Yn ogystal â bod yn fyfyriwr mae hi’n gweithio adref ar y fferm, gan helpu gyda’r defaid a’r fenter pesgi moch. 

Mae Holly yn aelod gweithgar ac yn swyddog gyda’i Chlwb Ffermwyr Ifanc lleol, CFfI Sarn, ac ar hyn o bryd hi yw Stocmon Ifanc y Flwyddyn. Wrth dyfu i fyny roedd Holly yn nofwraig frwd, a bu’n aelod o Glwb Nofio Llwydlo am chwe blynedd a byddai’n cystadlu’n rheolaidd mewn galas yng Nghanolbarth Lloegr, gan gynrychioli ei chlwb a’i sir. 

Does gan Holly ddim ofn gwaith ac mae hi wedi bob amser wedi gweithio yn ystod y tymor academaidd gan ymgymryd â’i chyfrifoldebau eraill ar yr un pryd. Mae hi’n parhau i adeiladu ar ei phrofiad gwaith a bob dydd Sadwrn bydd Holly naill ai wrth ei desg yn swyddfa’r gwerthwr tai lleol neu’n cyflawni ei dyletswyddau yn y gwerthiannau da byw ar ddyddiau gwerthu prysur, yn helpu gwerthwyr a phrynwyr yn y farchnad da byw leol. 

Oherwydd ei chefndir, a dylanwad gwaith ei thad fel prynwr ŵyn, mae Holly yn awyddus i ddilyn gyrfa yn y diwydiant osciynau da byw. Yn ogystal â hyn, byddai Holly yn hoffi cael ei diadell ei hun o ddefaid o Texel pur. 

“Rwy’n gobeithio y bydd yr Academi Amaeth yn fy helpu i wneud y camau cyntaf i gynllunio fy ngyrfa yn y dyfodol ac y byddaf yn cael fy ysbrydoli gan arweinwyr yn y diwydiant amaethyddiaeth. Rwy’n edrych ymlaen at ehangu fy ngwybodaeth am systemau gwahanol a dysgu mwy am bolisïau amaethyddol. Rwy’n edrych ymlaen hefyd at greu rhwydwaith newydd o gysylltiadau a chyfarfod ffermwyr ifanc tebyg i mi o bob rhan o Gymru.”