Leah Davies

Dinbych, Denbighshire

Fel rhywun sydd wedi cael ei magu mewn ardal wledig yng Ngogledd Cymru, mae Leah Davies o Nantglyn, Sir Ddinbych, yn cyfaddef bod y byd amaethyddol mor naturiol ag anadlu iddi. Er iddi gael ei magu ar y fferm deuluol lle mae’n cadw ei diadell ei hun o ddefaid Texel pur, y mae hi’n gobeithio ei ehangu yn y blynyddoedd i ddod, mae Leah hefyd yn gobeithio dilyn gyrfa ym maes dylunio graffeg yn y brifysgol ym mis Medi ar ôl cwblhau ei hastudiaethau Safon Uwch yn Ysgol Glan Clwyd yn ddiweddar. 

Fel rhywun creadigol, mae gan Leah ddiddordeb mawr mewn ffotograffiaeth ac mae hi’n mwynhau tynnu lluniau o’r ddiadell Texel ar y fferm. Mae Leah hefyd wrth ei bodd â chwaraeon ac mae hi’n mwynhau chwarae hoci a rygbi. Yn sgil ei diddordeb mewn chwaraeon, mae hi’n cael cyfle i hyfforddi plant, gweithgaredd y mae hi’n ei fwynhau’n fawr ac yn ddiweddar dechreuodd weithio mewn clwb ar ôl ysgol i blant. 

Mae Leah bob amser yn hapus i gyfrannu i’r gymuned leol a chafodd ei hethol yn Brif Ferch yn ei blwyddyn olaf ond un yn y chweched dosbarth. Mae hi hefyd yn chwarae rhan bwysig yng Nghlwb Ffermwyr Ifanc Nantglyn (CFfI) fel dirprwy ysgrifennydd. 

Gyda’r nod o astudio dylunio graffeg a darluniad yn y brifysgol, mae Leah yn bwriadu dilyn y llwybr hwn a datblygu gyrfa yn y maes. Fodd bynnag, dydy hi ddim am droi ei chefn ar ei gwreiddiau gwledig yn llwyr ac mae Leah yn gobeithio cyfuno ei hangerdd tuag at ddylunio graffeg ag amaethyddiaeth a gwaith yn y diwydiant. 

“Rwy’n siŵr y bydd y sgiliau a’r gweithdai sy’n cael eu cynnig gan yr Academi Amaeth yn werthfawr tu hwnt, nid yn unig yn yr ystyr broffesiynol ond hefyd ar lefel mwy personol er mwyn dod yn aelod mwy crwn o’m cymdeithas. Mae hwn yn sicr yn gyfle euraidd i gyfarfod pobl newydd ac i ddod i ddeall mwy am ardaloedd eraill o Gymru.”