Llyr Thomas
Llanwrda, Sir Gaerfyrddin
Cafodd Llyr Thomas ei fagu ar fferm ddefaid yn Sir Gaerfyrddin ac yn ddiweddar cwblhaodd ei astudiaethau Safon Uwch yng Nholeg yr Iesu, Aberhonddu. Llwyddodd i gwblhau ei astudiaethau tra’n cynorthwyo â’r gwaith corfforol a gweinyddol ar y fferm deuluol, ynghyd â rheoli ei ddiadell fach o famogiaid Blueface Leicester. Mae gan Llyr ddiddordeb angerddol a gweithredol yn y diwydiant amaeth a’r rôl bwysig mae’n ei chwarae i sicrhau cynaliadwyedd yr amgylchedd a’r ecosystem leol.
Fel capten nifer o dimau chwaraeon yn yr ysgol, gan gynnwys y tîm rygbi, mae Llyr yn hyderus wrth arwain o’r blaen. Mae’r hyder mae wedi ei feithrin drwy ei weithgareddau academaidd ac allgyrsiol yn cael ei adlewyrchu yn ei swydd fel pennaeth cymdeithas siarad cyhoeddus yr ysgol, sgil y mae wedi llwyddo i’w drosglwyddo i’w waith gyda’r Clwb Ffermwyr Ifanc (CFfI). Fel aelod o CFfI Troedrhiwdalar, mae Llyr yn mwynhau barnu stoc a chneifio ond ei hoff gystadlaethau yw’r rhai siarad cyhoeddus.
Mae Llyr yn gobeithio chwarae rhan flaenllaw yn y diwydiant yn y dyfodol. Gan gynrychioli’r sector amaeth, byddai’n hoffi dangos pwysigrwydd y sector i’r cyhoedd yn ehangach a hyrwyddo hyfywedd a chynaliadwyedd cynnyrch Cymreig.
“Bydd bod yn rhan o’r Academi Amaeth yn gyfle gwych nid yn unig i wella fy sgiliau a’m datblygiad personol, ond hefyd er mwyn dod i gysylltiad ag arweinwyr y diwydiant a thrafod syniadau gyda phobl debyg i mi sydd hefyd yn gysylltiedig â byd ffermio. Rwy’n gobeithio y bydd yr Academi hefyd yn agor fy llygaid i’r holl gyfleoedd gyrfa a dulliau/technolegau amaethyddol blaengar newydd sydd bellach ar gael yn ein diwydiant.”