Tudur Evans

Y Trallwng, Powys

Yn byw ar ei fferm deuluol yn Llangadfan, Powys, roedd Tudur Evans yn ddisgybl yng Ngholeg Llanfair Caereinion cyn symud ymlaen i Goleg Glynllifon, Grŵp Llandrillo a Mennai. Gan gyfuno mwynhad Tudur o fecaneg ac amaethyddiaeth yn berffaith, ar hyn o bryd mae e’n astudio Peirianneg Amaethyddol ac er ei fod eisoes wedi cyflawni'r oriau profiad gwaith craidd y cwrs, mae Tudur yn parhau i weithio i Teme Valley Tractors gan ei fod yn awyddus i fanteisio o’r holl brofiadau sydd ar gael.

Pan nad yw Tudur wrth ei waith, mae e’n mwynhau ei amser fel aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc (CFfI) Dyffryn Banw ac yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau a chystadlaethau ar lefel sirol a chenedlaethol. Dros y blynyddoedd mae Tudur hefyd wedi bod yn gystadleuydd brwd mewn Eisteddfodau gan gymryd rhan yn unigol ac fel rhan o grŵp.

Yn fwy na dim, mae Tudur yn ffynnu wrth dreulio amser yn ei sied gartref ac mae wrth ei fodd yn gwneud gwaith atgyweirio mecanyddol a chwblhau prosiectau personol ei hun. Ar hyn o bryd, mae ei ffocws wedi'i sianelu ar ailadeiladu Massey Ferguson 35x. Yn y dyfodol, mae Tudur yn gobeithio y bydd y sgiliau y mae wedi'u datblygu trwy ei waith yn arwain at yrfa mewn peirianneg, gyda'r nod o redeg ei fusnes ei hun ryw ddydd.

“Rwy’n gobeithio cael nifer o wahanol brofiadau yn ystod fy amser gyda’r Academi Amaeth ac rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â phobl newydd o bob rhan o Gymru. Trwy rannu'r cyfleoedd newydd hyn ag eraill, rwy'n bwriadu datblygu fy sgiliau a fy hyder a darganfod yr allwedd i redeg busnes llwyddiannus yn y dyfodol. ”