Gwobrau Lantra 2024

 

Gwobr Cyflawniad Oes

Sy'n cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad 'eithriadol a sylweddol' i amaethyddiaeth Cymru.  

Peter Rees, FRAgS Llanymddyfri

Roedd y panel beirniadu'n unfrydol wrth gytuno bod Peter Rees – cyn-ddarlithydd coleg ac arweinydd blaenllaw hynod boblogaidd o fewn sectorau tir a llaeth Cymru – yn enillydd rhagorol a haeddiannol iawn o Wobr Cyflawniad Oes Lantra eleni.  

Talwyd teyrnged i'w record eithriadol o addysgu cenedlaethau o bobl ifanc sy'n gweithio yn y sectorau gwledig, am ei waith yn datblygu Gelli Aur yn ganolfan ragoriaeth i'r diwydiant llaeth yng Nghymru, ac am ei waith parhaus gyda Lantra Cymru, yr oedd yn gadeirydd arno am wyth mlynedd; Cyswllt Ffermio, lle bu'n gwasanaethu ar y Bwrdd Cynghori Strategol a'r is-grŵp hyfforddi; a'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB).

Wedi'i fagu ar fferm fawr ger Llanymddyfri, mae Mr Rees yn parhau i ymwneud yn agos â phartneriaeth laeth ei deulu yn ogystal â'u menter carafanau teithiol a thwristiaeth. Yn ysgolhaig Nuffield Farming, cafodd cyfraniad Mr Rees i addysg a throsglwyddo technoleg i'r sector llaeth yng Nghymru ei gydnabod gyda gwobr Cymrodoriaeth y Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol (FRAgS

Gwobr Goffa Brynle Williams

Sefydlwyd y wobr hon yn 2011 er anrhydedd cyfraniad sylweddol y diweddar Mr. Williams i amaethyddiaeth yng Nghymru fel Aelod Cynulliad a ffermwr uchel ei barch. Wedi'i chario ymlaen heddiw gan weddw Mr. Williams, Mrs Mary Williams, mae'r wobr yn cydnabod cyflawniadau ffermwr ifanc sydd wedi dod o hyd i’w ffordd i mewn i fusnes ffermio trwy raglen Mentro Cyswllt Ffermio.

Enillydd: Sean Jeffreys, Llandeilo

Yr enillydd eleni yw’r newydd-ddyfodiad Sean Jeffreys o Ffairfach ger Llandeilo. Ar ôl helpu ar dyddyn ei dad-cu a’i fam-gu o oedran ifanc, roedd Sean yn gwybod pa yrfa yr oedd ei heisiau. Yn anffodus, ac yntau heb gael ei eni i deulu ffermio, roedd yn meddwl nad oedd fawr o obaith i’r freuddwyd honno gael ei gwireddu. Ond diolch i raglen Mentro Cyswllt Ffermio a wnaeth ei baru ag Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru ar hyn o bryd, mae bellach yn bartner busnes ar fferm ucheldir 84 hectar Mr Rickman ger Llandeilo. Mae Mr Rickman wedi gallu tynnu'n ôl o ffermio o ddydd i ddydd i ganolbwyntio ar ei ymrwymiadau niferus eraill. O dan reolaeth ddoeth Sean, mae niferoedd y mamogiaid wedi cynyddu'n sylweddol, ac mae'r ddau bartner busnes eisoes yn canolbwyntio ar dyfu'r busnes ymhellach a chynllunio 'mwy o ddefaid'!

Roedd y panel o feirniaid yn unfrydol wrth ddewis Sean, gan gytuno ei fod yn enillydd rhagorol a haeddiannol o wobr Goffa Brynle Williams eleni.

Gwobr Arloeswr Ffermio Cyswllt Ffermio

Enillydd: Tony Davies, Rhaeadr Gwy, Powys

Mae Tony yn ffermwr tenant organig pumed cenhedlaeth yng Nghwm Elan, ac mae ganddo angerdd hirsefydlog dros ffermio’n gynaliadwy a lleihau allyriadau carbon yn ei fusnes amaethyddiaeth ‘oddi ar y grid’.

Darganfu bio-olosg yn gyntaf wrth chwilio am ddull cynaliadwy o ddefnyddio glaswellt Molinia sydd nid yn unig yn effeithio ar amrywiaeth rhywogaethau a chynefinoedd ond hefyd yn lleihau cynhyrchiant amaethyddol y tir.

Mynychodd Tony gynhadledd gan yr International Biochar Institute yn y Ffindir drwy Raglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio a bu’n ymwneud ag un o Brosiectau Arloesi Ewrop Cyswllt Ffermio (EIP Wales) yn treialu compost a gwlân wedi’i ychwanegu at fio-olosg.  Mae wedi creu cyfleoedd cyflogaeth newydd ar gyfer casglu glaswellt a changhennau i’w prosesu i fio-olosg, mae’n rheoli gwerthiannau o wefan, yn gweithgynhyrchu odynau’n lleol gyda chynnyrch yn gwerthu i gynghorau, ystadau, garddwyr a ffermwyr ledled y DU.  Dywedodd y beirniaid fod ymrwymiad Tony i ffermio arloesol a chynaliadwy yn ei wneud yn enillydd rhagorol a haeddiannol y wobr Arloeswr Ffermio eleni. 

Gwobr Arloeswr Ffermio Cyswllt Ffermio

Yn ail: Brigitte Rowlands, Pontardawe, Abertawe

Magwyd Brigitte ar fferm bîff a defaid a dechreuodd ffermio’n annibynnol yn 23 oed fel ffermwr tenant yng Nghwm Tawe.  Heddiw, mae’r fam brysur hon i dri yn ffermio ochr yn ochr â’i phartner.  Mae hi’n gynghorydd sir ac yn gweithio fel gweinyddwr i gwmni lleol sy’n darparu hyfforddiant a chymorth i’r diwydiant dronau.

Ar ôl mireinio ei sgiliau cadw cyfrifon, TAW a 'gwneud treth yn ddigidol' trwy hyfforddiant busnes Cyswllt Ffermio, mae Brigitte yn gyfrifol am holl waith cadw cyfrifon y fferm yn ogystal â rheoli da byw.  Buan iawn y sylweddolodd Brigitte y potensial o ddefnyddio technoleg ddrôn o fewn ffermio.  Bellach yn beilot drôn cymwysedig, mae hi ar hyn o bryd yn datblygu cynnwys ar gyfer ei chwrs hyfforddi ei hun. Dywedodd y beirniaid fod gallu Brigitte i 'feddwl yn greadigol', gweld cyfle newydd a buddsoddi amser mewn sgiliau sy'n ei galluogi i greu ffynhonnell incwm newydd yn ei gwneud yn deilwng iawn i dderbyn yr ail wobr ar gyfer y Wobr Arloeswr Ffermio.

Gwobr Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio

Enillwyr: Dianna ac Iestyn Spary, Cas-gwent, Blaenau Gwent

Mae’r fam, Dianna Spary a’i mab Iestyn, yn ffermwyr ymarferol sy’n awyddus i gyflawni’r safonau uchaf o ran iechyd a lles anifeiliaid.  'Ansawdd o flaen nifer' yw eu mantra a thrwy feithrin y sgiliau angenrheidiol trwy Cyswllt Ffermio, mae eu buches o wartheg Henffordd pedigri yn cyflawni'r perfformiad a'r lefelau cynhyrchiant gorau posibl.

Dianna yw’r bumed genhedlaeth i ffermio yng Ngoetre, ac mae Iestyn yn benderfynol pan ddaw’n amser iddo gamu i’r adwy, ei fod yn barod!  Ar ôl mynychu'r 'nifer mwyaf o weithdai iechyd anifeiliaid Cyswllt Ffermio mewn blwyddyn' eisoes, mae'r ddau ohonynt yn eiriolwyr argyhoeddiadol dros ddysgu gydol oes, gan arwain drwy esiampl.

Gyda phynciau'n cynnwys hwsmonaeth anifeiliaid, maeth, bioddiogelwch, lleihau eu dibyniaeth ar gyffuriau gwrthficrobaidd a llu o ffactorau hanfodol eraill bellach yn rhan annatod o'u trefn ddyddiol o 'gynllunio iechyd anifeiliaid', mae eu hymrwymiad i ddysgu a rhoi eu gwybodaeth ar waith yn eu gwneud yn enillwyr teilwng y wobr hon.

Gwobr Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio

Yn ail: James Price, Pont-y-pŵl, sir Fynwy 

Mae James yn ffermio gyda’i deulu yn Sir Fynwy lle maen nhw’n cadw diadell o 250 o famogiaid a buches o 50 o wartheg sugno, gyda lloi rhwng wyth a 12 mis oed yn cael eu gwerthu fel gwartheg stôr.  Mae James hefyd yn rhedeg ei fusnes ei hun, JP Mole Control.  Mae gwahaddod yn berygl arbennig i ffermwyr, maen nhw’n difetha silwair, yn achosi listeria ac yn lleihau arwynebedd pori caeau.  Mae ei restr gynyddol o gleientiaid yn amrywio o ffermydd ac ystadau i westai, meysydd chwaraeon, ysgolion, mynwentydd a pherchnogion tai. Mae James wedi cryfhau llawer o arferion ffermio ar ôl mynychu gweithdai iechyd anifeiliaid Cyswllt Ffermio, yn enwedig ar Ddolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD).  Mae bellach yn gwirio statws BVD yr holl wartheg a brynir i mewn, yn tagio ac yn profi pob un, gan gymryd pob gofal i osgoi haint.

Gwnaeth ymrwymiad James i ddatblygiad personol parhaus argraff ar y beirniaid a chanmolwyd ei agwedd 'mae rhywbeth i'w ddysgu bob amser' sydd wedi ei alluogi i sefydlu busnes llwyddiannus ochr yn ochr â rhoi safonau uchel o iechyd a lles anifeiliaid ar waith

Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio - 40 oed ac iau

Enillydd: Richard Wilding, Llanandras, Powys

Dychwelodd Richard i ffermio defaid yn llawn amser yng nghanol ei ugeiniau, ar ôl gweithio i asiantaeth llywodraeth am chwe blynedd ac fe ddilynodd hynny gyda thaith waith 18 mis i ffermydd mawr yn Awstralia a Seland Newydd.  Dychwelodd i Gymru mewn pryd i ddod o hyd i waith yn ystod tymor wyna 2013, sefydlodd fusnes bugeilio contract yn fuan a sefydlodd ei ddiadell ei hun ar y fferm deuluol lle mae bellach yn ffermio mewn partneriaeth â’i dad.

Fodd bynnag, oherwydd nad oedd wedi astudio amaethyddiaeth ar ôl ysgol, teimlai Richard fod bylchau yn ei set sgiliau ac aeth ati i unioni’r fantol drwy Cyswllt Ffermio. Dywedodd y beirniaid fod awydd amlwg Richard am ddysgu a’i benderfyniad i ddatblygu sgiliau ychwanegol mewn meysydd megis costau cynhyrchu, rheoli glaswelltir a da byw, cadwraeth, rheoli coetiroedd a charbon, yn dangos ymrwymiad rhagorol i ddatblygiad personol, gan ei wneud yn enillydd teilwng iawn y Wobr Dysgwr y Flwyddyn. 
 

Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio – 40 oed ac iau

Yn ail: Alicia Jones, Y Fenni, Sir Fynwy

Mae Alicia yn fyfyriwr israddedig sydd yn ei hail flwyddyn yn astudio ar gyfer BSc mewn Busnes Amaeth ym Mhrifysgol Harper Adams. Mae'r rhan fwyaf o'i hamser rhydd yn cael ei dreulio'n helpu ar fferm laeth a thir âr gymysg ei theulu.  Yn ei harddegau, llwyddodd i redeg ei menter moch maes ei hun, gan ddod yn hyddysg nid yn unig fel bridiwr a thriniwr moch ond gan ennill sgiliau busnes hefyd. Ers hynny, yn ogystal â’i hastudiaethau prifysgol, mae Alicia wedi ymgymryd â nifer o gyrsiau Cyswllt Ffermio mewn pynciau sy’n cynnwys marchnata, Iechyd a Diogelwch, asesu risg a nifer o gyrsiau cysylltiedig â da byw – gan ennill sgiliau ymarferol y mae’n eu defnyddio ar y fferm gartref.  Yn egnïol, yn canolbwyntio ar ddysgu ac yn benderfynol o lwyddo yn yr hyn a fu’n draddodiadol yn sector ‘gwrywaidd’ yn bennaf, cytunodd y beirniaid i gyd fod gan Alicia yrfa ddisglair iawn o’i blaen ac y bydd ei hymrwymiad i ddatblygiad personol yn sicr yn mynd â hi ymhell.

Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio – 40 oed ac iau

Yn ail: Jonathan Jones, Wyddgrug, Sir y Fflint

Mae Jonathan nid yn unig yn weithiwr caled, ond yn ddysgwr brwd ac ymroddedig hefyd, gan ddefnyddio’r hyfforddiant a’r sgiliau y mae wedi’u hennill trwy Cyswllt Ffermio ar y fferm deuluol yn ogystal â busnesau lleol eraill y mae’n darparu gwasanaethau contractio ar eu cyfer. Mae ganddo hefyd rôl ran-amser fel porthmon i Farchnad Rhuthun lle mae’n mwynhau cyfarfod a dysgu gan ffermwyr profiadol eraill sy’n hapus i rannu eu persbectif ar ‘bopeth yn ymwneud â ffermio’!

Drwy Cyswllt Ffermio, mae Jonathan wedi sicrhau ei drwydded chwistrellu plaladdwyr ac wedi cael hyfforddiant mewn pynciau sy’n amrywio o gymorth cyntaf i ddipio defaid, tocio traed gwartheg a sganio defaid.  Mae'r cyrsiau hyn nid yn unig wedi rhoi sgiliau iddo sy'n lleihau gwariant y fferm gan leihau dibyniaeth y fferm ar gontractwyr allanol, ond mae ei wybodaeth gynyddol yn boblogaidd iawn gyda darpar gyflogwyr hefyd. Dywedodd y beirniaid fod ymrwymiad Jonathan i ddatblygiad personol parhaus yn drawiadol a bod ei ddatblygiad gyrfa yn sicr yn y dyfodol.      
     

Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio – 40 oed ac iau

Canmoliaeth uchel: Matthew Roderick, Aberhonddu, Powys 

Magwyd Matthew ar fferm ac mae fwyaf cartrefol pan fydd yn y caeau neu ymhlith y coed. Ymhlith y coed mewn gwirionedd, yn hytrach na ffermio da byw, yw lle mae'n gweld ei ragolygon gyrfa yn y dyfodol. Mae ganddo eisoes rôl amser llawn y mae'n ei charu gyda chwmni coedamaeth lleol.   Yn ymwybodol nad oes ganddo radd berthnasol, mae Matthew yn benderfynol o ychwanegu at y profiad ymarferol y mae'n ei gael o'i swydd trwy gyrsiau hyfforddi achrededig Cyswllt Ffermio.

Mae astudio 'Archwilio coed sylfaenol', 'Hyfforddiant ac archwilio coed canolig', cyrsiau plaladdwyr, gweithredu llif gadwyn, hyfforddiant gwiwerod llwyd a Chymorth Cyntaf i gyd yn feysydd gwybodaeth y mae'n eu defnyddio nid yn unig yn ei swydd, ond hefyd ar y fferm deuluol.  Roedd y beirniaid i gyd wedi eu plesio gan awydd Matthew i ddysgu sgiliau arbenigol a fydd yn cefnogi ffermwyr sydd am ddod yn fwy gwybodus am reoli coetir yn gynaliadwy ar yr adeg dyngedfennol hon pan fo materion amgylcheddol yn ffocws allweddol i bawb.  
 

Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio – 41 oed a throsodd

Enillydd: Julie Davies, Clifford, ger Henffordd  

Roedd y beirniaid yn gweld hwn yn gategori arbennig o gryf, gan fod yr holl enwebiadau o safon uchel. Roeddent yn unfrydol wrth ddyfarnu’r wobr fuddugol i Julie gan ddweud bod ei hymrwymiad diwyro i sgiliau a hyfforddiant, am ei datblygiad personol ei hun yn ogystal â datblygiad gweithlu’r fferm yn arbennig o ganmoladwy.  Yn raddedig o Brifysgol Harper Adams, mae Julie wedi helpu ei gŵr i sefydlu busnes porthiant anifeiliaid llwyddiannus 'gan ychwanegu gwerth at yr hyn rydym yn ei dyfu' sy'n cael ei redeg ochr yn ochr â'r fferm tir âr, bîff a defaid. Dim ond rhan o'i set sgiliau drawiadol yw datblygu cynnyrch, datblygu systemau achredu ac ansawdd, marchnata a rheoli busnes.

Mae agwedd ymroddedig Julie at ddatblygiad personol yn rhagorol ac ar hyn o bryd mae'n canolbwyntio ar ystod o gyrsiau amgylcheddol yn ogystal â hyfforddiant 'rheoli pobl' sydd, meddai, yn cryfhau arferion fferm.  Dywedodd y beirniaid fod Julie wedi dangos gallu, brwdfrydedd a sgiliau blaengynllunio eithriadol yn gyson, gan ei gwneud yn enillydd haeddiannol y wobr hon.  
 

Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio – 41 oed a throsodd

Yn ail: Alison Harvey, Tregaron, Ceredigion

Mae Alison yn cydbwyso bywyd prysur rhwng ei rôl fel cynghorydd gwledig llawn amser a gweithio ar y fferm deuluol.  Mae hi wedi dilyn amrywiaeth o gyrsiau busnes ac amgylcheddol – llawer ohonynt i loywi’r sgiliau oedd ganddi eisoes – drwy Cyswllt Ffermio, yn ogystal â hyfforddiant proffesiynol arall.  Roedd y beirniaid yn teimlo bod ei hymrwymiad i ddysgu gydol oes, ac i ddefnyddio’r wybodaeth a gafwyd bron bob dydd, yn enwedig o ran rheoli tir yn gynaliadwy, yn ei gwneud yn ail orau teilwng ar gyfer y wobr hon.

Yn eiriolwr brwd dros gefnogi pobl ifanc sy’n gweithio gyda’r sectorau tir, mae Alison yn hwyluso myfyrwyr ar Raglen Arweinyddiaeth Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ac mae’n gynghorydd ar gyfer dosbarth meistr Cyswllt Ffermio ar gig coch. Yn angerddol am gynaliadwyedd a diogelu'r amgylchedd, mae rhan fawr o'i gwaith yn ymwneud â helpu cleientiaid i ddeall a chydymffurfio â'r Rheoliadau Llygredd Amaethyddol newydd. 
 

Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio – 41 oed a throsodd 

Canmoliaeth uchel: Eirlys Owen, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin 

Dywedodd y beirniaid fod brwdfrydedd, dynamigrwydd a ffocws Eirlys yn ysbrydoledig.  Disgrifiwyd ei hymagwedd at ddysgu fel un sy’n rhoi ‘enghraifft ragorol’ o ennill sgiliau newydd sydd wedi ei gwneud hi hyd yn oed yn fwy penderfynol i gadw ei thaith ‘datblygiad proffesiynol parhaus’ i fynd wrth iddi helpu i dyfu’r busnes fferm ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Yn bartner ac yn ffermwr ymarferol, mae ei rôl yn cyfuno dyletswyddau hwsmonaeth anifeiliaid â'r holl waith papur busnes ac ariannol sydd ei angen nid yn unig i redeg busnes 'diddos' ond i arallgyfeirio hefyd.  Cwblhaodd Eirlys hyfforddiant 'Gwneud treth yn ddigidol', 'Deall cyfrifon', 'Llif arian' Cyswllt Ffermio a chwrs arallgyfeirio o fewn 12 mis.  Mae'n defnyddio ei sgiliau newydd bob dydd, ac er nad yw 'byth eisiau ymddeol', mae'n bwriadu trosglwyddo ei gwybodaeth i blant y cwpl. Mae hi wedi helpu i sefydlu busnes llety hunanarlwyo newydd a'r nesaf ar ei rhestr o bethau i'w gwneud yw datblygu siop fferm neu gaffi!   
 

Gwobr Garddwriaeth Cyswllt Ffermio

Enillydd ar y cyd: Jonathan Tiller, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro

Arweiniodd diddordeb hirsefydlog Jonathan mewn cynaliadwyedd a diogelu’r amgylchedd ef at newid ei yrfa’n llwyr!  Gadawodd ei yrfa flaenorol o fewn y diwydiannau olew a nwy i ddechrau meithrinfa 'nid-er-elw' yn tyfu coed yn fasnachol yn Sir Benfro.  Cymerodd risgiau wrth sefydlu menter coetir newydd ond gwnaeth ei waith ymchwil, nododd ei farchnad a diolch i ddysgu sgiliau newydd o hyfforddiant parhaus trwy Cyswllt Ffermio, mae'r gambl yn talu ar ei ganfed.

Ar hyn o bryd yn ymchwilio i gyfleoedd ariannu, mae Jonathan yn bwriadu gweithio gydag ysgolion, ffermydd gofal, grwpiau niwroamrywiol ac eraill y mae'n gobeithio eu hysbrydoli i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd. 

Cwblhaodd Jonathan amryw o gyrsiau hyfforddi gorfodol gan gynnwys PA1, PA6, trin tractor a llif gadwyn ac mae hefyd wedi dilyn nifer o gyrsiau cynllunio busnes. Dywedodd y beirniaid fod ei ymrwymiad clir i adeiladu ei sylfaen wybodaeth a hyrwyddo newid yn yr hinsawdd yn ei wneud yn gyd-enillydd haeddiannol iawn y wobr garddwriaeth eleni.
 

Gwobr Garddwriaeth Cyswllt Ffermio

Enillydd ar y cyd: Marie Pope, Aberhonddu, Powys 

Ddwy flynedd yn ôl, cyflawnodd Marie ei huchelgais hirdymor o sefydlu ei gardd farchnad ei hun ar ôl rhentu darn bach o dir gan ffermwr lleol. Mae Alfie Dan's wedi'i enwi ar ôl ei thaid, garddwriaethwr brwd a drosglwyddodd iddi ei wybodaeth a'i gariad at dyfu llysiau.

Cwblhaodd Maria ei Lefel 2 City & Guilds mewn garddwriaeth mewn coleg lleol ac mae bellach yn gweithio tuag at ei chwrs Twf, Lluosogi a Datblygu Planhigion Lefel 2 y Royal Horticultural Society. Mae hi hefyd yn manteisio ar yr holl gymorth sydd ar gael gan raglen garddwriaeth Cyswllt Ffermio. Wedi’i hysbrydoli gan ei llwyddiant cynnar, mae Marie eisoes wedi cymryd perchnogaeth o leiniau ychwanegol o dir gan ei galluogi i gynyddu cynhyrchiant a maint ei busnes, sydd bellach yn rhedeg i bedair erw.  Mae hi hefyd yn dechrau trosi organig.   Dywedodd y beirniaid fod cariad Marie at arddwriaeth, a’i phenderfyniad i ddatblygu a thyfu ei menter sydd eisoes yn llwyddiannus yn ei gwneud yn gyd-enillydd teilwng.  
 

Gwobr Garddwriaeth Cyswllt Ffermio

Yn ail: Andrew Gethin, Y Drenewydd, Powys

Mae Andrew yn bartner yn y fferm tir âr, gwartheg a moch deuluol ger y Drenewydd. Mae ei fenter garddwriaeth amrywiol lewyrchus hefyd yn ffocws allweddol i Andrew.  Dechreuodd y teulu gyda chae pwmpenni 'dewis eich hun', maen nhw’n tyfu blodau haul ac mae ganddynt gae blodau hefyd.

Astudiodd Andrew amaethyddiaeth ac amaeth-fecaneg yn ei goleg lleol ond ers hynny, mae wedi bod yn dysgu popeth o fewn ei allu am arddwriaeth.  Mae'n gefnogwr brwd o raglen garddwriaeth Cyswllt Ffermio, ac mae wedi elwa'n fawr o ddysgu gan gymheiriaid trwy fod yn rhan o grŵp 'Rhwydwaith Tyfwyr' ac mae wedi bod ar nifer o deithiau astudio.  Gwnaeth penderfyniad Andrew i ddod o hyd i ddatrysiadau effeithiol i ddelio â phatrymau tywydd cyfnewidiol a rheoli chwyn argraff fawr ar y beirniaid.  Eisoes yn edrych ar gnydau newydd i 'aros ar y blaen' yn y gystadleuaeth a chadw diddordeb sylfaen cwsmeriaid ffyddlon y fenter, roedd ymrwymiad parhaus Andrew i ddysgu wedi creu argraff ar y beirniaid. 
 

Gwobr Dysgwr Ifanc y Flwyddyn – 20 oed ac iau 

Enillydd ar y cyd: Benjamin Jones, Y Drenewydd, Powys

Pan yrrodd triniwr coed lleol heibio i Benjamin a oedd yn torri glaswellt a gwrychoedd i gymydog, tynnodd i mewn a chynnig swydd iddo fel coedwigwr dan hyfforddiant!  Ac mae’r gweddill yn hanes. Mae Benjamin yn ennill profiad ymarferol o'r swydd y mae'n ei charu bob dydd.

Ochr yn ochr â hyn, diolch i hyfforddiant cymorthdaledig gan Cyswllt Ffermio, mae wedi cwblhau ei gwrs llif gadwyn sylfaenol, cwrs coed canolig, dringo coed, defnyddio llif o raff a harnais, cymorth cyntaf brys yn y gwaith a choedwigaeth, gan roi set sgiliau a gwybodaeth bwysig iddo y mae'n eu defnyddio y rhan fwyaf o ddyddiau.

Cafodd agwedd Benjamin at ddysgu sgiliau newydd, gan gynnwys arferion gwaith diogel, argraff fawr ar y beirniaid. Mae eisoes yn cynllunio ei gyfres nesaf o gyrsiau – gyda phob un yn gysylltiedig â thorri coed – ac mae’n gobeithio trosglwyddo ei sgiliau i eraill ryw ddydd. Yn uchelgeisiol ac yn awyddus, mae hefyd yn gwneud yn dda mewn cystadlaethau cwympo coed! Dyma un i'w wylio ac enillydd ar y cyd haeddiannol! 

Gwobr Dysgwr Ifanc y Flwyddyn – 20 oed ac iau 

Enillydd ar y Cyd: Siwan Owen, Llanon, Ceredigion

Mae Siwan yn astudio am Ddiploma Technegol y Sefydliad Dinas ac Urddau mewn Amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr, campws Gelli Aur, lle enillodd yr anrhydedd o 'fyfyriwr y flwyddyn'. Wedi’i magu ar fferm bîff a defaid y teulu ger yr arfordir, mae ganddi uchelgais ers tro i ddod yn ffermwr llwyddiannus, ac mae hi eisoes yn breuddwydio am y diwrnod pryd y caiff hi fwrw’r maen i’r wal gyda’i chynlluniau arallgyfeirio i gynhyrchu trydan ar gyfer y fferm a throi ysguboriau yn fannau gwyliau!

Mae Siwan yn gobeithio darllen amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth nesaf. Yn y cyfamser, mae hi'n ennill profiad ymarferol ar y fferm bob munud y gall hi ei sbario. Trwy Cyswllt Ffermio, mae hi wedi astudio tocio traed a chwistrellu plaladdwyr. Nesaf ar ei rhestr mae dysgu mwy am brofi pH y pridd i leihau dibyniaeth y fferm ar wrtaith. Dywedodd y beirniaid fod Siwan yn haeddu cydnabyddiaeth am ei gwaith caled, ei ffocws a'i huchelgais – dyma enillydd ar y cyd teilwng.   

Gwobr Dysgwr Ifanc y Flwyddyn – 20 oed ac iau

Ail Orau: Carwyn Thomas, Meidrim, Sir Gaerfyrddin

Cytunodd y beirniaid fod rhinweddau ac agwedd Carwyn tuag at waith yn ei wneud yn ymgeisydd teilwng ar gyfer gwobr yr ail orau. Mae wedi cadw cofnod academaidd rhagorol yng Ngholeg Sir Gâr, campws Gelli Aur, ac roedd yn 'fyfyriwr y flwyddyn' yn 2022/23. Mae'n cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau'r coleg, gan roi llawer o'i wybodaeth newydd ar waith ar y fferm gartref.

Yn y coleg, mae'n amlwg bod Carwyn wedi dangos dealltwriaeth fanwl o'r gwyddorau amaethyddol, a wnaeth argraff ar y beirniaid. Trwy Cyswllt Ffermio, mae wedi astudio tocio carnau, a nesaf ar ei restr astudio mae DIY AI, chwistrellu a thrin 'cerbyd sy'n addas ar gyfer pob math o dir'. Yn uchelgeisiol ac yn awyddus, canmolodd y beirniaid ymrwymiad Carwyn i ddysgu a'i barodrwydd i roi cynnig ar ffyrdd arloesol o weithio.   

Gwobr Dysgwr Ifanc y Flwyddyn – 21 oed a throsodd 

Enillydd: Owain Roberts, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin

Mae'r cyn-seiclwr lled-broffesiynol, Owain, yn ei flwyddyn olaf o astudio am BSc mewn Astudiaethau Amaethyddol yng Ngholeg Sir Gâr, campws Gelli Aur. Yn ddysgwr cyflym a galluog, mae eisoes yn cyflwyno ffyrdd arloesol o weithio a defnyddio technolegau newydd i gynyddu effeithlonrwydd ar fferm laeth ei deulu. Mae'n cyfuno ei astudiaethau academaidd â gweithio fel gweithiwr fferm cyffredinol i'w ewythr ac mae'n odrwr achlysurol yng Ngelli Aur. Ar frig ei ddosbarth yng Ngelli Aur, cafodd amser i gwblhau ei gwrs PA1, PA6 a Telehandler trwy Cyswllt Ffermio.  Nesaf ar ei restr sgiliau yw cwblhau DIY AI a thocio traed gwartheg.

Dywedodd y beirniaid fod y ddisgyblaeth, y sgiliau a'r ymrwymiad a ddaeth â llwyddiant i Owain fel seiclwr wedi trosglwyddo'n glir i'w rolau ffermio a'i astudiaethau academaidd, gan ei wneud yn enillydd haeddiannol iawn y wobr hon.    

Gwobr Dysgwr Ifanc y Flwyddyn – 21 oed a throsodd 

Ail Orau (Enillydd ar y Cyd): Ffion Jenkins, Caerdydd

Ar hyn o bryd mae Ffion yn astudio ar gyfer ei Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) mewn Cadwraeth Amgylcheddol yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr. Cyn hyn, enillodd ei Diploma Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid (Rhagoriaeth), ac yna Diploma 90 Credyd Lefel 3 mewn Rheoli Cefn Gwlad (Rhagoriaeth). Teimlai'r beirniaid y gallai fod 'Rhagoriaethau' pellach eto i ddod gan y fyfyrwraig hon sydd â diddordeb arbennig mewn ffermio, da byw a chadwraeth bywyd gwyllt. Mae hi'n awyddus i gyrraedd ei nodau academaidd – yn gyntaf BSc ac yna MSc os aiff popeth yn iawn – a'i nod hirdymor yw gweithio yn y sector cadwraeth natur.

Arweiniodd parodrwydd Ffion i gefnogi ei chyfoedion at ei phenodiad yn gynorthwyydd 'cymorth dysgu', swydd a gyflawnwyd ganddi ochr yn ochr â'i hastudiaethau ei hun. Mae hi hefyd yn gwirfoddoli gyda Choleg Pen-y-bont ar Ogwr a Gwirfoddolwyr Cadwraeth Caerdydd y rhan fwyaf o benwythnosau. Dywedodd y beirniaid yr aiff syched Ffion am ddysg a sgiliau pobl â hi'n bell – dyma enillydd ar y cyd teilwng ar gyfer gwobr yr ail orau. 

Gwobr Dysgwr Ifanc y Flwyddyn – 21 oed a throsodd

Ail Orau (Enillydd ar y Cyd): Thomas Morgan Davies, Trefdraeth, Sir Benfro

Mae Morgan yn fyfyriwr rhan-amser yng Ngholeg Sir Gâr, campws Gelli Aur, lle mae eisoes wedi ennill ei radd sylfaen, ac mae bellach yn darllen ar gyfer ei BSc mewn Amaethyddiaeth. Fe'i magwyd ar fferm ei dad-cu a’i fam-gu yn y gorllewin, lle roedd yn cadw ei braidd ei hun o ddefaid Llanwenog, sy’n frid prin.

Ar hyn o bryd, mae Morgan yn ymgymryd â lleoliad gwaith â thâl gydag ymgynghoriaeth wledig, ar ôl mwynhau bod ar leoliad yn flaenorol gydag Undeb Amaethwyr Cymru a roddodd gipolwg iddo ar ochr bolisi ffermio. Mae bellach yn canolbwyntio ar gyfuno gyrfa mewn ffermio â swydd ymgynghori, ac mae'n bwriadu astudio cynllunio risg nesaf yn ogystal â dilyn hyfforddiant ymarferol ar bynciau gan gynnwys gosod gwrychoedd, chwistrellu a systemau chwynnu. Canmolodd y beirniaid ffocws ac awydd Morgan am ddysg, gan gytuno ei fod yn enillydd ar y cyd teilwng ar gyfer gwobr yr ail orau. 
 

Gwobr Dysgwr Ifanc y Flwyddyn – 21 oed a throsodd 

Canmoliaeth Uchel: Richard Bluck, Y Bont-faen, Bro Morgannwg

Nid oedd Richard yn gallu cwblhau ei radd prifysgol wreiddiol oherwydd problemau iechyd. Yn ystod cyfnod clo'r pandemig, cofrestrodd ar gyfer cwrs Diploma Cenedlaethol Uwch mewn gwyddor yr amgylchedd drwy'r Brifysgol Agored. Roedd yn ddewis da, oherwydd mae gan Richard ddiddordeb mewn rheoli coetiroedd hynafol a lled-naturiol, dŵr croyw a gwaith mapio System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS).

Mae gan Richard eisoes drwydded pathew, trwydded madfall fawr gribog ac mae wedi astudio cymorth cyntaf brys mewn coedwigaeth. Nesaf ar ei restr ‘pethau i’w gwneud’ yw mynychu cyrsiau ar dorri llwyni a llif gadwyn trwy Cyswllt Ffermio. 
Yn wirfoddolwr brwd gyda grwpiau cadwraeth, nod tymor hir Richard yw bod yn geidwad parc. Mae'n awyddus i ymwneud â'r cyhoedd, i’w helpu i ddysgu am yr awyr agored a'r cefn gwlad o'u cwmpas. Gwnaeth brwdfrydedd a phenderfyniad Richard i ennill y sgiliau a'r profiad oedd eu hangen wrth geisio ei swydd ddelfrydol argraff fawr ar y beirniaid.