Bwydo llaeth pontio wedi'i basteureiddio a'i gyfoethogi i loi Ionawr 2025 - Adroddiad terfynol
Ysgrifennwyd gan Dr Ryan C T Davies, Veterinary Technical Consulting Ltd.
Cefndir
Mae fferm Escalwen yn Sir Benfro yn cadw buches o 600 o wartheg yn seiliedig ar y borfa sy’n lloia mewn bloc yn y gwanwyn gyda hanes o forbidrwydd a marwolaethau mewn lloi
newydd-anedig dros y blynyddoedd diwethaf.
Caiff lloi eu geni o 1 Chwefror mewn tymor lloia o 10-12 wythnos. Mae oddeutu 180-200 o loi bob blwyddyn yn cynnwys anifeiliaid cyfnewid ar gyfer y fuches laeth gyda’r gweddill yn anifeiliaid bîff ar fridiau llaeth croes. Mae’r ffermwr hefyd yn rhan o fenter bîff Wagyu ac mae 100 o’r lloi bîff yn cynnwys anifeiliaid bîff Wagyu. Mae’r rhain yn cynnig gwerth ariannol ychwanegol i’r fferm.
Mae anifeiliaid cyfnewid yn cael eu bridio i gael eu geni ar ddechrau’r bloc lloia i roi cymaint o amser â phosibl i’r anifeiliaid hyn dyfu i bwysau digonol wrth baru am y tro cyntaf i gyd-fynd â’r system loia, gan eni lloi cyn iddynt fod yn 24 mis oed.
Roedd y cyfartaledd pum mlynedd ar gyfer morbidrwydd rhwng 2018-2022 yn 45% gyda’r gyfradd farwolaethau ar ei uchaf ar 19% yn 2022.
Prosiect cyllid arbrofi
Sail y prosiect Cyllid Arbrofi oedd i brofi a bwydo llaeth pontio wedi’i gronni a’i basteureiddio i’r lloi yn ystod y 10 diwrnod cyntaf er mwyn lleihau morbidrwydd a marwolaethau o ganlyniad i ddolur rhydd ymysg lloi newydd-anedig, a lleihau’r angen am driniaethau gwrthfiotig.
Roedd colostrwm y fam yn cael ei gasglu wrth odro (ddwywaith y dydd), ei storio a’i basteureiddio gan ddefnyddio offer pasteureiddio Holm & Laue MilkTaxi. Roedd y llaeth yn cael ei basteureiddio ar dymheredd o 60°C am 60 munud. Yna, roedd y llaeth pontio yn cael ei fwydo i’r holl loi o’r ail ymborth hyd at 10 diwrnod oed.
Er mwyn rhoi ystyriaeth i amrywioldeb colostrwm y fam, o safbwynt amrywiaeth mamol ac yn ddibynnol ar nifer a oedd yn cael eu godro ar ôl lloia, profwyd y gymysgedd pontio wedi’i basteureiddio gan ddefnyddio reffractomedr gweledol ar ôl y gylchred basteureiddio.
Gosodwyd safon o leiafswm o 12.5% BRIX ac os nad oedd y lefel hon yn cael ei chyrraedd, roedd colostrwm powdwr yn cael ei ychwanegu. Mae profion ar loi i asesu trosglwyddiad imiwnedd goddefol (TPI) yn cael eu cynnal gan ddefnyddio’r prawf Imiwnodrylediad Rheiddiol (RID) yn labordy DHHPS, Prifysgol Caeredin, yr Alban. Cafodd samplau o’r llaeth pontio wedi’i gronni a’i basteureiddio hefyd eu profi i bennu statws Ig gan ddefnyddio profion RID. Anfonwyd samplau o laeth pontio ar hap hefyd i’r DHHPS ar gyfer dadansoddiad RID i fonitro lefelau IgG drwy gydol y broses basteureiddio.
Canlyniadau
Cafwyd cyfradd o 31% o ddiffyg trosglwyddo imiwnedd goddefol (FPT), a oedd yn gyfrifol am y gyfradd farwolaethau uchel cyson. Dangoswyd fod ansawdd y llaeth pontio yn amrywiol, gyda’r gostyngiad mwyaf sylweddol tua diwedd y cyfnod lloia wrth i heriau pathogenau gynyddu. Gwelwyd lleihad yn y nifer a oedd yn dioddef o glefydau lloi newydd-anedig, ond yn fwyaf nodedig, o ran dolur rhydd lloi newydd-anedig (NCD). Cafwyd gostyngiad o 9.5% ar gyfartaledd yn nifer y marwolaethau o ganlyniad i ddolur rhydd mewn lloi newydd-anedig (NCD) yn y 3 blynedd hyd at 2023 i 3% yn 2023 a 2024. Defnyddiwyd llai o wrthfiotigau yn gyffredinol, ond yn fwyaf nodedig, ni ddefnyddiwyd unrhyw wrthfiotigau o bwysigrwydd hanfodol gyda blaenoriaeth uchel (HPCIA). Roedd cynnydd pwysau byw’r lloi a oedd yn derbyn llaeth pontio o ansawdd uwch hefyd yn uwch.
Ffigur 1: Cymhariaeth o farwolaethau lloi ar draws y tymhorau
Tymor Lloia
Ffigur 2: Defnydd o wrthfiotigau yn ôl categori (EMA)
Roedd pasteureiddio’r llaeth mewn swp yn llwyddiant ar fferm Escalwen. Mae pasteureiddio bagiau unigol o golostrwm buchol wedi profi’n broses ddwys o ran llafur ar systemau llaeth ar raddfa fawr. Mae pasteureiddio mewn swp yn cynnig dewis amgen addas i gynorthwyo i reoli clefydau.
Gall y cynhyrchwr gymysgu colostrwm gwartheg i’w roi i’r holl loi gyda llai o risg o drosglwyddo pathogenau megis Mycobacterium avium paratuberculosis, Mycobacterium bovis, Mycoplasma bovis, Salmonella spp. E. coli. Mae cylchred pasteureiddio o 60°C am 60 munud yn cael ei dderbyn yn eang fel ffordd effeithiol o ddinistrio bacteria colifform. Argymhellir y dylai’r bacteria hwn fod ar lefel is na 10,000 cfu/ ml mewn colostrwm er mwyn gallu trosglwyddo imiwnedd goddefol yn effeithiol.
Dylid nodi fodd bynnag na ellir ystyried y gylchred hon o basteureiddio yn gwbl effeithiol o ran rheoli rhywogaethau Mycobacterium a Mycoplasma. Mae’n debygol bod niferoedd y pathogenau yn gostwng, ond nid ydynt yn cael eu dileu’n gyfan gwbl. Er mwyn dinistrio’r pathogenau hyn, byddai angen cylchred o driniaeth gwres am gyfnod hwy ac ar dymheredd uwch. Fodd bynnag, byddai hyn yn effeithio’n negyddol ar folecylau imiwnoglobwlin o ganlyniad i gynnydd mewn dadnatureiddiad proteinau dan yr amodau hyn. Yn wir, mae’n rhaid derbyn, hyd yn oed ar gylchred driniaeth o 60°C am 60 munud, gallai molecylau imiwnoglobwlin brofi rhywfaint o ddifrod. Felly, argymhellir wrth basteureiddio llaeth mewn swp fel ffordd o fwydo llaeth pontio i loi, dylid meintoli ffigyrau Ig gan ddefnyddio profion Imiwnodryledol Rheiddiol (RID) cyn ac ar ôl pasteureiddio. Bydd hyn yn eich galluogi i asesu cyfradd gwarchod crynodiadau Ig. Gellir ychwanegu hefyd y gallai meithrin bacteria cyn ac ar ôl pasteureiddio o dro i dro eich galluogi i asesu’r broses basteureiddio ymhellach. Felly, gellir monitro bod lefelau targed ar gyfer halogiad bacteria yn cael eu cyflawni (cyfanswm cyfrif bacteriol <100,000 cfu/ml a chyfanswm cyfrif colifformau <10,000 cfu/ml).
Casgliad
Mae’r canlyniadau yn dangos bod hybu imiwnedd goddefol gyda cholostrwm buchol ar ffurf powdwr a bwydo llaeth pontio wedi’i gronni a’i basteureiddio yn ystod 10 diwrnod cyntaf bywydau’r lloi yn gallu lleihau nifer y marwolaethau o ganlyniad i ddolur rhydd newydd-anedig, yn ogystal â lleihau’r defnydd o wrthfiotigau mewn systemau cynhyrchu llaeth sy’n lloia mewn bloc. Mae llaeth pontio yn cynnwys cyfran uwch o brotein a braster na llaeth cyflawn, ac o ganlyniad, mae’n cynnig buddion maethol ychwanegol. Fodd bynnag, mae gwir fudd bwydo llaeth pontio i loi hyd at 10 diwrnod oed yn deillio o’i gyfansoddion anfaethol. Mae’r rhain yn cynnwys ffactorau bio-weithredol megis lefelau uwch o’r hormon twf a’r ffactor twf tebyg i inswlin (IGF-1), mewn perthynas â llaeth cyflawn, dros 170 o oligosaccharidaau (sy’n gweithredu fel swbstrad carbon ar gyfer bacteria cydfwytaol a hefyd yn arwydd o bathogenau ac endotocsinau) a pheptidau gwrth-facterol amhenodol megis lysosym, lactoferin a lactoperoxidase. Gwelwyd fod y lefelau uwch o wrthgyrff Ig ar ei fwyaf buddiol ar ôl 24 awr gyntaf bywyd y llo, gan ei fod yn gallu gweithredu’n lleol o fewn y perfedd i leihau’r her parasitiaid er nad ydynt wedi cael eu hamsugno i gylchrediad y gwaed.
Gall yr holl ffactorau hyn o fewn llaeth pontio weithredu i ddiogelu iechyd y perfedd a lleihau nifer yr achosion o glefydau’n deillio o bathogenau sy’n achosi dolur rhydd, hyd yn oed ymysg lloi gyda FPT (sy’n annatod mewn systemau lloia mewn bloc).
Mae bwydo llaeth pontio, os caiff yr ansawdd ei brofi a’i gynnal gan ddefnyddio colostrwm powdwr, fel y gwelwyd yn yr astudiaeth ‘Cyllid Arbrofi’ hon yn cynnig ffordd wych o leihau’r defnydd o wrthfiotigau ar ffermydd, ynghyd â chynnal safonau lles anifeiliaid a bodloni targedau cynaliadwyedd yn y diwydiant ffermio llaeth modern.