Cefn Amwlch - Cyflwyniad i’r Prosiect

Mae sawl rheswm dros ddefnyddio semen y mae ei ryw wedi’i bennu, ac yn wir, mae llawer o ffermydd llaeth sy’n rhedeg systemau gwahanol wedi defnyddio (ac maent yn dal i ddefnyddio) semen y mae ei ryw wedi’i bennu yn llwyddiannus. Mae rhai o brif fuddion semen y mae ei ryw wedi’i bennu yn cynnwys:

  • Gwelliannau genetig wedi’u targedu o’r buchod a’r heffrod gorau
  • Rhagor o loi benyw o anifeiliaid sydd â rhinweddau genetig gwell
  • Lloia’n haws
  • Llai o loi gwryw llai gwerthfawr
  • Gwella delwedd gyhoeddus a lles anifeiliaid yn sgil llai o loi gwryw nad oes eu hangen
  • Y dewis o ddefnyddio semen o fridiau bîff yn achos anifeiliaid sydd â rhinweddau genetig salach a chynyddu nifer y lloi a werthir

Fodd bynnag, er bod y buddion yn niferus, ceir anfanteision hefyd. Gall celloedd sberm gael eu difrodi yn ystod y broses sytometreg llif (didoli semen), a hefyd, mae cyfanswm y celloedd sydd wedi’u didoli fesul dos gryn dipyn yn is nag yn achos semen confensiynol. Fe wnaiff rhewi a dadmer hefyd achosi rhywfaint o niwed i’w hyfywedd fel sy’n digwydd yn achos semen confensiynol. Pan gychwynnwyd defnyddio semen â’i ryw wedi’i bennu ar ddiwedd y 90au, awgrymwyd y dylid ei ddefnyddio yn achos heffrod sydd heb gael tarw. Fodd bynnag, mae datblygiadau o ran didoli a thrin a thrafod wedi’i wella’n sylweddol, a bellach, mae llawer o fuchesi yn defnyddio semen â’i ryw wedi’i bennu yn achos buchod sydd â rhinweddau genetig gwell sydd wedi cyrraedd eu trydydd neu eu pedwerydd cyfnod llaetha, os nad oes unrhyw anawsterau crothol neu fetabolaidd amlwg.             

Fe ddaw gwella buchesi yn bwysicach wrth i faint buchesi a phrisiau tir ddod yn ffactorau sy’n cyfyngu ar allbwn, ac hefyd o gofio bod rhai proseswyr bellach yn talu fesul kg o solidau llaeth a gynhyrchir yn hytrach nag ar sail cyfaint. Mae cofnodi llaeth wedi dod yn ofynnol yn ddiweddar yn achos rhywfaint o’r cymorth ariannol amodol sydd wedi dod ar gael i ffermwyr, a dylid elwa ar y cyfle i amlygu manteision cofnodi llaeth i wella’r enillion genetig sy’n bosibl yn achos buchesi sy’n lloia yn ystod y gwanwyn sy’n cael eu cadw mewn systemau sy’n seiliedig ar borfa.

Bydd canlyniadau ar gael ar ôl i’r heffrod gael eu sganio ym mis Mehefin.