Claire Jones

Llanddewibrefi, Ceredigion

Mae Claire Jones yn ffermwr sy'n croesawu newid. Ochr yn ochr â’i gŵr, Stephen, mae hi yn ei hail flwyddyn o gynhyrchu llaeth, gan wneud y newid o ffermio bîff a defaid.

Wrth ei bod hi’n awyddus i gynhyrchu’r llaeth hwnnw mewn ffordd sy’n gynaliadwy ac sy’n cefnogi bywyd gwyllt a natur, manteisiodd Claire ar raglen Mentor Cyswllt Ffermio i gael cyngor a chymorth gan ffermwr llaeth sefydledig.

Mae Fferm Pant bellach yn gartref i 140 o wartheg, sy’n cael ei redeg ar system bori eang sy’n lloia yn y gwanwyn.

Roedd trosglwyddo i laethyddiaeth yn fodd o ddiogelu’r busnes at y dyfodol ar gyfer y genhedlaeth nesaf; y cam nesaf yw cyflwyno technegau ffermio adfywiol.

Roedd Claire yn newydd i ffermio pan gyfarfu a phriodi Stephen ac ymuno ag ef ar fferm ei deulu.

Wedi'i geni a'i magu yng Ngheredigion heb unrhyw gefndir teuluol mewn amaethyddiaeth, dechreuodd ei gyrfa fel gemydd.

Ond mae Claire wedi croesawu amaethyddiaeth, gan amsugno ei hun i redeg y fferm yn gyffredinol, y godro, gweithredu peiriannau, mesur glaswellt a'r gwaith gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r busnes.

Wrth iddi edrych i’r dyfodol, mae cynlluniau’n cynnwys gwella iechyd y pridd, lleihau’r defnydd o wrtaith, tyfu mwy o wyndwn cymysg a gwella llwybrau buchod i leihau cyfraddau cloffni'r fuches.

Er ei bod yn cydnabod bod heriau o’n blaenau i amaethyddiaeth, mae Claire yn awyddus i ddysgu sut y gall ffermydd bach cynaliadwy fel Fferm Pant gael effaith wrth fod yn broffidiol.

Bydd yr Academi Amaeth, meddai, yn helpu i herio ei meddylfryd a chaniatáu iddi ddysgu sgiliau newydd i ddatblygu'r busnes yn llwyddiannus.

“Rwy'n edrych ymlaen at ymuno â chyd-ymgeiswyr ar raglen yr Academi Amaeth i wneud cysylltiadau newydd o bell ac agos a rhannu fy mhrofiad gydag eraill.''