Cyflwyniad i’r Prosiect - Diogelu uned gynhyrchu bîff - Croesawu technoleg i gynyddu llwyddiant wrth gyflawni gofynion targed
Mae Geraint Evans, Fferm Penrallt, yn pesgi 400 o wartheg Friesian du a gwyn croes a Hereford/Aberdeen croes bob blwyddyn. Mae’r gwartheg yn cael eu prynu gan gyflenwyr gwahanol rhwng 24-30 mis oed. Mae’r gwartheg yn cael eu pwyso ar ôl cyrraedd, a bob 3-4 wythnos wedi hynny, a chyn cael eu hanfon i’r lladd-dy.
Nid yw’r fferm yn cael trafferth cyrraedd y pwysau a’r graddau gofynnol (3 neu 4L) ond byddai’r ffermwr yn awyddus i redeg system fwy effeithlon, drwy ddadansoddi DLWG a defnyddio porthiant yn y ffordd orau posibl. Bydd y prosiect yn cynnwys technoleg EID, mesur DLWG a thechnoleg delweddu thermol newydd i gynyddu pesgi a rheoli unrhyw broblemau iechyd.
Yn 2018, cymerwyd tri thoriad o silwair a phrynwyd 250 tunnell o haidd sych am £150/tunnell. Mae’r gwartheg yn cael eu bwydo ar ddognau stôr wedi’u cymysgu gyda silwair wedi’i dyfu gartref. Bydd mwyafrif y gwartheg yn dod i mewn yn ystod mis Medi, Hydref a mis Tachwedd. Maent yn cael eu cadw ar y fferm am 4-5 mis neu hyd nes y byddant wedi cyrraedd y pwysau gofynnol.
Mae ffermwyr sy’n pesgi gwartheg stôr yn aml yn wynebu prisiau ansicr ar y farchnad a phrisiau nwyddau cyfnewidiol. Mae llyfryn John Nix Farm Management Pocketbook 2016 yn amlygu’r gwahaniaeth sylweddol y mae ffermwyr pesgi gwartheg stôr yn ei wynebu drwy gydol y flwyddyn. Mae’r elw gros cyfartalog y pen ar gyfer gwartheg stôr sy’n cael eu pesgi yn yr haf yn £168, ac mae systemau gwartheg llaeth stôr yn gwneud colled o £4 y pen ar gyfartaledd. Mae pethau ychydig yn wahanol gyda gwartheg stôr sugno, gyda gwartheg sydd wedi’u pesgi yn yr haf yn derbyn elw gros o £348 y pen, a’r rhai sy’n pesgi yn y gaeaf yn derbyn £24.
Mae proseswyr bîff yn tynhau eu gofynion. Bydd cynnwys pwysau carcas gofynnol a gofynion gorchudd braster y proseswr yn y cynllun, ynghyd â chynyddu ymgysylltiad rhwng y ffermwr a’r proseswr, yn gwella canlyniadau ariannol ar gyfer y ffermwr. Bydd defnyddio’r gofynion terfynol a gweithio am yn ôl er mwyn cynllunio dognau bwyd drwy gydol y cyfnod magu a phesgi yn caniatáu’r ffermwr i gyrraedd targedau a sicrhau eu bod yn pesgi gwartheg yn fwy effeithlon heb wynebu unrhyw gosbau ariannol.
Beth fydd yn cael ei wneud:
Bydd gwaith y prosiect yn cael ei rannu’n dair rhan.
- Asesiad gwaelodlin o iechyd y fuches cyn dechrau ar y prosiect
Defnyddio milfeddyg y ffermwr i ddarparu glasbrint o gynllun iechyd ar gyfer arfer dda o ran rheoli iechyd y system gynhyrchu bîff. Ar gyfer unrhyw anifeiliaid a brynir i mewn, mae’n bosibl y byddai angen ystyried materion megis Johne’s, TB, llyngyr a pharasitiaid yn ogystal â’r angen posibl ar gyfer brechlyn IBR pan fo anifeiliaid yn cael eu cymysgu o sawl ffynhonnell.
Yn ystod y cam hwn yn y prosiect, byddai modd cynnal cyfarfodydd cynnydd i amlygu meysydd allweddol lle gallai ffermwyr asesu materion iechyd gwartheg ar gyfer y rhai a brynir i mewn.
- Cynllunio maeth
Byddwn yn cynnal asesiad o’r dogn a ddefnyddir cyn dechrau’r prosiect (Dogn Cytbwys Cymysg (TMR) ar hyn o bryd) a chymharu costau gyda dognau newydd. Bydd maeth yn cael ei werthuso’n fanwl, gyda maethegydd yn cael ei benodi i oruchwylio’r dognau bob mis. Bydd samplau silwair o’r clamp yn cael eu dadansoddi bob mis a bydd unrhyw addasiadau’n cael eu gwneud i’r dogn yn unol â hynny. Bydd data o’r system EID/pwyso yn cael ei ddefnyddio i addasu dognau a bydd costau llawn y dognau’n cael eu cofnodi er mwyn creu dadansoddiad elw o fuddsoddiad ar ddiwedd y prosiect. Byddwn hefyd yn anelu at sicrhau’r proffidioldeb gorau posibl yn ystod wythnosau olaf y broses besgi drwy edrych ar graff DLWG gyda chostau bwydo ac anelu at werthu’r anifail cyn i’r ddwy linell groesi. Byddwn yn defnyddio Hefin Richards fel Ymgynghorydd Maeth Arbenigol.
- Cyflwyno technoleg i’r system
Mae Geraint yn awyddus i weld sut y gellid integreiddio technoleg EID a phwyso rheolaidd i’r system er mwyn cynorthwyo i fonitro perfformiad ffisegol a hwyluso’r broses o wneud penderfyniadau ariannol. Bydd system a darllenydd EID newydd a gweithredol yn cael ei ddefnyddio i fonitro pwysau gwartheg bob pythefnos i fonitro DLWG. Bydd y data’n cael ei adrodd yn ôl i’r maethegydd er mwyn sicrhau bod y dogn yn cyflawni canlyniadau.
Bydd y system darllenydd pwysau/EID yn galluogi’r ffermwr i ganfod anifeiliaid sy’n perfformio’n wael yn gynt, gan ei alluogi i wneud gwell penderfyniadau rheolaeth ar y fferm.