Cyflwyniad Prosiect Bryn: Gwneud addasiadau i gymeriant deunydd sych i leihau geni yn ystod y nos a rheoli iechyd a pherfformiad gwartheg sych

Safle: Bryn 

Cyfeiriad: Bryn, Tremeirchion, Llanelwy

Swyddog Technegol: Rhys Davies

Teitl y Prosiect: Gwneud addasiadau i gymeriant deunydd sych i leihau geni yn ystod y nos a rheoli iechyd a pherfformiad gwartheg sych

 

Nod y prosiect

Bydd y prosiect yn ceisio edrych ar ddwy agwedd: yn gyntaf ymchwilio i bwysigrwydd statws mwynau gwaed a statws metabolaidd y fuwch sych i’w hiechyd, ei chynhyrchiant a’i pherfformiad atgenhedlu dilynol; ac yn ail lleihau achosion o eni lloi yn ystod y nos trwy wneud addasiadau i’w chymeriant o ddeunydd sych. Bydd yr effaith ar ansawdd colostrwm lloi hefyd yn cael ei hastudio gan y bydd y fuwch yn cael ei godro ynghynt yn y lloc geni ar ôl genedigaeth a bydd colostrwm yn cael ei fwydo i'r llo newydd-anedig yn gyflymach na phe bai'n cael ei eni yn y nos.

 

Cyflwyniad i’r prosiect

Mewn unrhyw fuches lwyddiannus sy’n lloia mewn bloc, mae'r cyfnod trosiannol a geni yn hanfodol er mwyn sicrhau'r cynhyrchiant gorau o laeth a'r defnydd gorau o borthiant. Yn y mwyafrif o fuchesi sy’n lloia trwy gydol y flwyddyn, mae'r rhan hon o reoli’r fuches yn cael ei hanwybyddu’n aml gan fod y prif ffocws ar y fuches odro. Fodd bynnag, gyda mwy o fuchesi yng Nghymru yn symud eu patrwm lloia naill ai i'r gwanwyn neu'r hydref, mae'n hanfodol eu bod yn gallu cynnal iechyd y gwartheg cyn ac ar ôl geni yn ogystal ag iechyd y bloc nesaf. 

Mae Aled Potts o Fferm Bryn, Tremeirchion yn un ffermwr llaeth ifanc o’r fath sy’n rheoli buches o 90 o wartheg sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn ac sydd ar hyn o bryd yn trosi i loia mewn bloc yn yr hydref. Ei nod yw lloia ei fuches mewn bloc 12 wythnos o ddiwedd mis Gorffennaf ymlaen. Bydd y newid hwn yn y system yn caniatáu mwy o gynnyrch o borthiant gaeaf ond bydd hefyd yn symleiddio dulliau rheoli’r fuches gan y bydd rhai tasgau fel lloia, bridio a gofalu am stoc ifanc yn cael eu canolbwyntio a bydd yn caniatáu peth amser i ffwrdd ym mis Mehefin a mis Gorffennaf.

Yn wahanol i lawer o fuchesi mawr sy’n lloia mewn bloc, bydd gofyn i Aled ofalu am bob tasg ei hun fwy neu lai ac, yn y cyfnod dwys o loia, gall delio ag achosion o anhwylderau metabolaidd fel twymyn llaeth, abomaswm wedi'i ddadleoli a cetosis gymryd llawer o amser a gall hefyd leihau cynhyrchiant llaeth y fuwch a'r tebygolrwydd y bydd yn sefyll tarw eto’n gyflym. 

Gall gormod o wartheg yn geni lloi yn y nos rhwng 20:00 a 4:00 fod yn broblem ychwanegol gan fod y ffermwr yn wynebu pryder a straen yn ystod adeg o'r dydd pan ddylai fod yn gorffwys. Gorau po fwyaf o wartheg sy'n geni lloi o amgylch y ddau gyfnod godro a rhyngddynt yn ystod y dydd, oherwydd bydd yn ei gwneud hi'n haws godro a bwydo'r fuwch yn gyflym ar ôl geni, gan sicrhau hefyd bod colostrwm o safon yn cael ei fwydo i'r llo cyn gynted â phosibl. Bydd y prosiect safle ffocws hwn yn edrych ar newidiadau maethol allweddol y gellir eu gwneud i leihau gwartheg problemus yn ystod y cyfnod sych a bydd hefyd yn ymchwilio i effeithiolrwydd gwneud addasiadau i amseroedd bwydo gwartheg sych i leihau’r niferoedd sy’n geni lloi yn ystod y nos. 

Mae'r tabl isod yn tynnu sylw at rai o gostau cysylltiedig anhwylderau metabolaidd sy'n gysylltiedig â chyfnod y fuwch sych a'r fuwch ffres. Mae rhai problemau yn ganlyniad i fwydo dognau gwartheg sych sydd heb eu hystyried yn iawn trwy gydol y cyfnod sych, ac eraill yn gysylltiedig â dulliau rheoli'r fuwch a llety'r fuwch sych yn ystod amser geni ac o'i gwmpas. Bydd sicrhau bod y fuwch yn geni lloi’n rhwydd mewn lloc sych a glân a sicrhau ei bod yn gallu cael porthiant a dŵr yn gyflym ar ôl geni yn helpu i liniaru rhai o’r problemau metabolaidd fel twymyn llaeth ac LDA (abomaswm wedi’i ddadleoli i’r chwith). Bydd gwartheg sy'n geni lloi yn ystod y dydd yn cael eu rheoli a’u trin a’u trafod yn well, yn enwedig mewn gweithrediadau un dyn yn hytrach na buwch sy’n geni yn ystod y nos a allai fod ar ei phen ei hun tan y bore canlynol.

Tabl 1. Costau cysylltiedig ag anhwylderau a phroblemau metabolaidd cyffredin (Ffynhonnell: Macrae ac Esselmount R 2015)