Cyflwyniad Prosiect Cefngwilgy Fawr: Cynyddu gwerth porthiant a dyfir gartref gan ddefnyddio meillion

Safle: Cefngwilgy Fawr

Cyfeiriad: Y Gorn, Llanidloes, Powys, SY18 6LA

Swyddog Technegol: Elan Davies

Teitl y Prosiect: Cynyddu gwerth porthiant a dyfir gartref gan ddefnyddio meillion

 

Cyflwyniad i'r prosiect: 

Prif nod y prosiect ar fferm Cefngwilgy Fawr yw gwella ansawdd porthiant a dyfir gartref trwy gyflwyno meillion gwyn a choch i'r porfeydd. Trwy gyflwyno meillion i'r gwndwn presennol, mae potensial i leihau'r ddibyniaeth ar wrtaith artiffisial trwy wneud y gorau o allu’r meillion i sefydlogi nitrogen. Mae’r prosiect hefyd yn anelu at asesu effaith porthiant o ansawdd uwch ar bwysau pesgi ŵyn a nifer y dyddiau hyd lladd. 

Mae meillion (gwyn a choch) yn ffynhonnell dda o brotein yn niet anifeiliaid cnoi cil pan mae’n cael ei bori neu ei fwydo fel silwair. Bydd meillion hefyd yn sefydlogi nitrogen (N) gan olygu bod angen llai o wrtaith nitrogen er mwyn hybu twf glaswellt. Mae glaswellt sy'n llawn meillion yn gweddu’n dda gyda chylchdroadau porthiant ac o fudd i ffrwythlondeb a strwythur y pridd. Mae cynnwys meillion mewn porfeydd yn gweddu’n dda gyda systemau ffermio cynaliadwy gan fod allyriadau methan o dda byw yn cynyddu wrth i ansawdd porthiant leihau.

 

Amcanion y Prosiect:

  • Lleihau faint o ddwysfwyd a brynir i mewn drwy gynyddu ansawdd porthiant.
  • Lleihau'r defnydd o wrtaith artiffisial trwy gynyddu’r maetholion a gynigir gan y meillion.
  • Gwella pwysau ŵyn wedi’u pesgi trwy gynnig gwell opsiynau pori.
  • Lleihau nifer y dyddiau hyd lladd trwy gynnig gwell opsiynau pori.

Dangosyddion Perfformiad Allweddol a Osodwyd:

  1. Lleihau mewnbynnau gwrtaith o 40kgN/ha fesul toriad silwair.
  2. Cynyddu cynnwys meillion yn y caeau a ail hadwyd o <5% i >20%.
  3. Sicrhau lleihad o 10% o ran faint o ddwysfwyd a brynir (e.e. cynyddu’r protein crai yn y porthiant oddi ar y caeau sydd wedi cael eu hail hadu o 12% i 20% o ganlyniad i gynyddu’r cynnwys meillion [a chynnyrch o 5tDM i 10tDM] - byddai hynny’n gyfwerth â 1,400kgCP ychwanegol - sy’n gyfwerth â thua 3t o soia hipro neu £1,000 o ran gwerth ariannol).
  4. Cynyddu pwysau ŵyn ar gyfartaledd a chanran yr ŵyn sydd wedi’u pesgi erbyn 1 Medi.
     

Llinell Amser a Cherrig Milltir:

 

Gweithgareddau allweddol

Samplu’r pridd
Cynllun Rheoli Maetholion
Cynllunio cymysgeddau hadau ac ymweliad i gynllunio’r gwaith ymchwil
Ŵyna
Pwyso ŵyn
Chwistrellu’r cnwd presennol
Trin y tir
Hau’r cnwd gan ddefnyddio dril hawu
Mesur deunydd sych y cnydau
Diddyfnu
Pwyso’r ŵyn
Mesur cynnydd pwysau byw dyddiol (DLWG)
Mesuriadau gwaelodlin ar gyfer y defaid