Cyflwyniad Prosiect Fferm Arnolds Hill: Hau glaswellt o dan gnwd india corn i sicrhau buddion amgylcheddol ac economaidd

Safle: Fferm Arnolds Hill, Slebech, Hwlffordd

Swyddog Technegol: Delana Davies

Teitl y Prosiect: Hau glaswellt o dan gnwd india corn i sicrhau buddion amgylcheddol ac economaidd

 

Cyflwyniad i’r prosiect

Mae’r newid yn yr hinsawdd yn arwain at fwy o achosion o law trwm yn ystod y gaeaf, ac mae monitro afonydd wedi dangos y ceir cynnydd cyflym yn lefel ffosffadau afonydd yn sgil hynny, ffactor sydd wedi’i briodoli i ddŵr ffo o’r pridd. Felly, nid yw gadael bonion y planhigion india corn yn foel dros y gaeaf yn gynaliadwy, ond gall cynllunio i sefydlu cnwd neu orchudd ar ôl cynaeafu’r india corn fod yn broblemus yn sgil amgylchiadau’r pridd yn yr hydref a hau yn hwyr. 

Yn Nenmarc, mae hadau glaswellt bellach yn cael eu hau o dan filoedd o hectarau o india corn, ac mae gwaith arbrofi helaeth yno wedi darparu canllawiau ynghylch sut i sefydlu’r glaswellt yn dda.

 

Beth yw’r manteision?

  • Mae’n lleihau erydiad pridd
  • Mae’n cynyddu ffrwythlondeb
  • Mae’n cynyddu deunydd organig
  • Mae’n cynnal maetholion yn y pridd (+/- 40kg/ha N a K)
  • Mae’n gwella strwythur y pridd.
  • Mae’n haws paratoi gwelyau hau yn y gwanwyn
  • Arferion da o ran traws-gydymffurfiaeth 
  • Mae’n darparu cyfle i bori yn y gaeaf/gwanwyn (>1,500 o ddiwrnodau pori mamogiaid neu >300 o ddiwrnodau pori heffrod)

Mae arbrofion a wnaed yn Swydd Henffordd gan Sefydliad Gwy ac Wysg a Field Options wedi llwyddo’n effeithiol i sefydlu glaswellt trwy hau hadau o dan gnwd india corn heb effaith sylweddol ar berfformiad y cnwd india corn. Mae colledion pridd wedi lleihau a chynhyrchwyd gorchudd gaeaf yn cynnwys hyd at 4 tunnell fetrig o ddeunydd sych; gellir ymgorffori’r gorchudd hwn fel gwrtaith gwyrdd neu gall ddarparu porfa ddefnyddiol yn gynnar yn y gwanwyn.

 

Sefydlu’r cnwd gorchudd o dan y cnwd india corn

Y cyfnod targed i hau cnydau gorchudd o dan gnydau india corn yw’r cyfnod o un wythnos ar ôl chwalu chwynladdwr am y tro cyntaf hyd at y cyfnod pan fydd y cnwd tuag uchder y glun yn gynnar ym mis Gorffennaf. Dylai planhigion y cnwd india corn fod wedi cynhyrchu rhwng pedwar a deg deilen erbyn hyn.

Bydd y gwaith cynnar yn golygu naill ai chwalu’r had gwair ar y ddaear neu eu chwalu â’u hogedu gan ddefnyddio cribin â phigau dur;  gall hyn fod yn effeithiol pan fydd glaw yn dilyn, ond bydd yn llawer llai dibynadwy pan fydd hi’n sych.  Gwnaed y gwaith drilio cychwynnol gan ddefnyddio dril wedi’i haddasu i sicrhau stribedi o laswellt rhwng y rhesi o india corn (mae driliau pwrpasol yn cael eu cynhyrchu erbyn hyn). 

 

Beth fydd yn cael ei wneud

Mae cae 5 hectar (ha) wedi’i leoli ar lethr ac wedi’i hau ag india corn Augustus wedi cael ei ddewis oherwydd mae’n llai tebygol o ddioddef erydiad pridd os caiff ei adael heb gnwd dros y gaeaf.  Y nod cyffredinol fydd sefydlu rhwydwaith o wreiddiau erbyn adeg y cynhaeaf i sefydlogi’r pridd a chario traffig, gan leihau unrhyw ddŵr ffo ac erydu posibl ar adeg y cynhaeaf ac yn ystod y gaeaf. 

Caiff pedair llain arbrofol eu sefydlu trwy hau hadau gwair o dan y cnwd india corn ar ddiwedd Mehefin/dechrau Gorffennaf gan ddefnyddio cribyn pigau Zocon.

Llain 1 – Cymysgedd rhygwellt Eidalaidd (IRG) a gaiff ei hau ar gyfradd o 7kg/ac (17.3kg/ha). Dewisir IRG oherwydd mae’n gryf ac yn rhad i’w ddefnyddio fel cnwd cylchdro byr.

Llain 2 – rhygwellt tetraploid lluosflwydd a gaiff ei hau ar gyfradd o 8kg/ac (19.8kg/ha). Mae hyn yn cynnig y posibilrwydd o bori glaswellt o ansawdd well os caiff ei adael yn ei le tan y tymor nesaf (mae’n fwy deiliog ac fe wnaiff flodeuo’n ddiweddarach). Fe wnaiff bara’n hirach nag IRG a bydd yr arbrawf hwn yn ymchwilio i ganfod pa mor dda mae’n cystadlu o dan y gorchudd india corn.

Llain 3 – rhygwellt Eidalaidd a ffacbys y gaeaf a gaiff eu hau ar gyfradd o 12kg/ac (29.6kg/ha). Mae’r planhigion ffacbys yn godlys, felly mae ganddynt y gallu i sefydlogi lefelau nitrogen ar gyfer y cnwd dilynol.  Maent hefyd yn blanhigion sy’n cynnwys lefelau uchel o brotein, felly os caiff ei bori neu ei dorri, fe wnaiff roi hwb i gyfanswm y protein ar gyfer da byw.

Llain 4 – IRG a meillion Berseem a gaiff eu hau ar gyfradd o 8kg/ac (19.8kg/ha). Mae’r dewis hwn yn caniatáu i orchudd biomas gael ei sefydlu’n gyflym a gellir sefydlogi nitrogen yn gyflym. Mae’r meillion yn unflwyddiad felly gellir eu pori’n llwyr/torri neu eu gadael yn eu lle i barhau i sefydlogi nitrogen. Fe wnaiff ansawdd protein glaswellt a gaiff ei bori neu ei silweirio ei hybu gan y meillion. Er nad yw’r meillion hyn yn gallu goddef barrug yn dda iawn, gall hyn fod yn fuddiol wrth ddrilio’r cnwd gwanwyn dilynol yn uniongyrchol, oherwydd bydd y rhan fwyaf o’r gorchudd wedi diflannu erbyn yr adeg hon.

Yn dilyn cynaeafu’r india corn, y rhagwelir y bydd yn digwydd yn hwyr ym mis Medi, caniateir i’r gorchudd glaswellt gynyddu a chael ei bori gan ddefaid yn cael eu cadw ar dac o fis Tachwedd ymlaen, a chedwir cofnod o nifer y diwrnodau pori a gyflawnir.  


Diweddariad am y prosiect

Drilio’r cnwd gorchudd glaswellt ar 2 Gorffennaf

 

Y glaswellt wedi’i sefydlu ar 30 Gorffennaf