Cyflwyniad Prosiect Fferm Pentre: Rheoli anghenion maeth mamogiaid i leihau problemau iechyd wrth ŵyna

Safle: Fferm Pentre, Pentrecelyn, Rhuthun, Sir Ddinbych

Swyddog Technegol: Non Williams

Teitl y Prosiect: Rheoli anghenion maeth mamogiaid i leihau problemau iechyd wrth ŵyna

 

Cyflwyniad i’r prosiect: 

Mae’n holl bwysig rheoli cyflwr a maeth mamogiaid ym mhob cam o’r flwyddyn ddefaid, ond yn enwedig yn ystod beichiogrwydd, er mwyn osgoi problemau iechyd sy’n gysylltiedig ag ŵyna. Mae cyflwr corff y famog a’r cyflenwad egni a phrotein yn ei maeth, yn ogystal â’r cymarebau micro-fwynau yn gallu arwain at fod mamogiaid yn bwrw’r llawes goch cyn ŵyna ac wrth ŵyna.  

Mae mastitis yn broblem gyffredin arall sydd i’w gweld mewn 0-6.6% o ddiadelloedd bob blwyddyn ac amcanir ei fod yn costio dros £120 miliwn y flwyddyn i’r diwydiant defaid yn y Deyrnas Unedig. Er mai bacteria sy’n ei achosi, mae’n aml yn gysylltiedig â ffactorau maeth a geneteg. Mae problemau llawes goch a mastitis yn cael effaith fawr ar hirhoedledd a chynhyrchiant mamogiaid; mae lefelau uchel o’r naill glefyd neu’r llall yn cael effaith niweidiol ar berfformiad a phroffidioldeb diadell. 

Mae’r ddiadell gaeedig yn fferm Pentre yn cynnwys oddeutu 350 o famogiaid, a chaiff yr holl ŵyn eu pori ar laswellt, eu pesgi ar y fferm a’u gwerthu yn y farchnad leol. Cafwyd rhai achosion o broblemau llawes goch a mastitis mewn mamogiaid ar fferm Pentre dros y blynyddoedd diwethaf, gan arwain at golledion cyn, yn ystod ac yn fuan ar ôl ŵyna. Mae nifer o ffactorau yn achosi’r problemau hyn a gallant ddigwydd oherwydd bod gwahanol ffactorau’n digwydd ar yr un pryd. Oherwydd hyn, mae gofyn gwneud gwaith dadansoddi manwl i werthuso achos mwyaf tebygol y problemau hyn yn y ddiadell hon. Dylai’r prosiect hwn fod yn gyfle gwerthfawr i ddangos sut i ddelio â’r problemau y mae nifer o ffermwyr eraill yng Nghymru yn eu hwynebu.

 

Nodau ac amcanion y prosiect:

Nod y prosiect fydd targedu’r problemau llawes goch a mastitis sy’n digwydd ar fferm Pentre drwy ystyried yr amrywiol agweddau sy’n dylanwadu ar gynhyrchiant a pherfformiad y ddiadell, a chywiro’r problemau hyn. Ymysg yr agweddau y byddwn yn eu monitro y mae cyflenwad a chydbwysedd yr egni a’r protein a gaiff y mamogiaid yn ystod eu beichiogrwydd yn ogystal â’u cyflenwad mwynau. Dylai deall yr achos helpu wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â sut i reoli’r ddiadell (e.e. wrth weithredu cynllun pori/porthi a dewis ŵyn benyw cadw).

Dyma rai o’r amcanion:

  • Canfod lefel sylfaenol yr achosion o broblemau llawes goch a mastitis yn y ddiadell
  • Gwneud archwiliad llawn o gyflwr corff y mamogiaid a’r mewnbynnau maeth o ran y cydbwysedd a’r cyflenwad egni, protein a mwynau
  • Ymyrryd mewn ffordd briodol i leihau’r achosion o’r clefydau

Y Dangosyddion Perfformiad Allweddol a Osodwyd:

  • Lleihau achosion problemau llawes goch o 10% i <5%
  • Lleihau achosion o fastitis o 3% i <2%
  • Lleihau’r cyfraddau difa (gwirfoddol) blynyddol o 10% i <5%
  • Cael cyfraddau pesgi dyddiol (DLWG) o 300g i’r ŵyn (gan gysylltu ag un o’r dangosyddion perfformiad allweddol o’r prosiect cyntaf ar Fferm Pentre)