Cyflwyniad Prosiect Ffrith Farm: Adeiladu profiad cyrchfan fferm o amgylch adnoddau presennol
Safle: Ffrith Farm
Cyfeiriad: Treuddyn, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint
Swyddog Technegol: Debbie Handley
Teitl y Prosiect: Adeiladu profiad cyrchfan fferm o amgylch adnoddau presennol
Cyflwyniad i'r prosiect:
Mae Ed Swan wedi’i fagu ar fferm ei deulu, sy’n fferm fynydd draddodiadol ym mhentref Treuddyn, ger yr Wyddgrug yng ngogledd Cymru. Mae’r teulu Swan wedi bod yn ffermio yn Ffrith Farm ers 1980, ac maent yn cynhyrchu cig eidion a phorc cartref eu hunain i’w gwerthu o’u siop fferm ar y safle.
Mae gan y fferm tua 120 o wartheg bîff: Hereford, Aberdeen Angus, Glas Prydeinig, Simmental, Charolais, Duon Cymreig, Limousin a Shorthorn, a thros 100 o foch Cymreig pedigri, sydd i gyd yn rhydd i grwydro porfeydd a choetiroedd y fferm. Mae ganddynt hefyd ieir dodwy sy’n cyflenwi wyau i’r siop.
Mae cnydau âr o wenith, barlys, silwair, gwair, cêl a maip yn cael eu tyfu ar y fferm i fwydo’r da byw. Mae cynaeafu yn digwydd o fis Mehefin i fis Hydref ac yn rhoi’r holl borthiant sydd ei angen arnynt ar gyfer y 12 mis nesaf.
Cae Blodau Haul Ffrith Farm 2021
Mae Llwybr Fferm yn caniatáu’r cyhoedd o amgylch cylchedd y fferm, gan gynnig golygfeydd rhyfeddol a chyfleoedd i weld anifeiliaid yn pori yn eu caeau, y ffermwyr ar waith, y gwahanol fathau o gnydau a rhai o fywyd gwyllt anhygoel. Y rhan hon o’r fferm y mae’r prosiect yn bwriadu adeiladu arni, gan ddatblygu’r profiad cyrchfan fferm drwy dyfu blodau haul a phwmpenni, ehangu ar y cyfleoedd i’r cyhoedd ymweld â’r fferm, dod ag incwm ychwanegol i mewn, ymgysylltu mwy â’r gymuned leol a chynnwys bioamrywiaeth yng ngweithgareddau’r fferm o ddydd i ddydd.
Mae mentrau casglu pwmpenni a blodau eich hun wedi dod yn hynod o boblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf – yn enwedig ers y pandemig, gyda phobl yn awyddus i ymgymryd â phrofiadau a gweithgareddau awyr agored. Bydd y mentrau yn defnyddio’r tir o amgylch y siop fferm, lle mae cwsmeriaid yn gallu gweld a chael mynediad i’r mentrau casglu eich hun yn hawdd.
Amcanion y Prosiect:
Bydd y prosiect yn ystyried defnyddio adnoddau presennol, datblygu’r tir ger y siop, a sefydlu mentrau newydd yn unol â gofynion llafur y fferm. Mae tyfu blodau haul a phwmpenni yn gofyn am reolaeth ofalus i gynhyrchu a chlirio’r cnwd o fewn cyfnod byr iawn. Fodd bynnag, gellir eu rheoli’n hawdd ochr yn ochr â gweithgareddau ffermio arferol presennol, ac yn yr achos hwn, bydd angen mewnbwn gwerthiannau gweithredol cyfyngedig oherwydd bod y siop ar y safle.
Bydd y prosiect yn:
- Archwilio’r dewis o fathau o flodau haul a phwmpenni, gan ystyried y gofynion o ran lliw a maint ar gyfer lleoliad ‘casglu eich hun’
- Datblygu ardaloedd o amgylch y siop ar gyfer y fenter casglu pwmpenni a blodau haul eich hun.
- Canolbwyntio ar reoli chwyn a darparu’r cydbwysedd maethol cywir ar gyfer y cnydau, gan gofnodi unrhyw broblemau â chlefydau.
- Ystyried sut i gynnwys bioamrywiaeth ychwanegol yn y gweithgareddau ffermio presennol, er enghraifft, annog mwy o fywyd gwyllt a pheillwyr, defnyddio llai o gemegau.
- Ymgysylltu â’r cyhoedd a’r gymuned leol trwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a rhwydweithiau/cysylltiadau presennol, megis ysgolion, grwpiau cymunedol a grwpiau sy’n delio â’r cyhoedd.
- Darparu deunydd addysgol i helpu i hysbysu’r cyhoedd am ffermio prif ffrwd a manteision anifeiliaid i ffrwythlondeb pridd a rheolaeth fferm gyfannol.
Dangosyddion perfformiad allweddol:
I ddarparu gwybodaeth a gafwyd gan:
- Hyfywedd ariannol pob menter – llwybr fferm, pwmpenni, blodau haul
- Mewnbynnau amser/llafur a chost (nifer yr oriau a weithiwyd, sut mae’n effeithio neu’n ategu gweithgareddau ffermio presennol, cost y planhigion, yr hadau, cemegau, gwrtaith, offer, ayyb) yn erbyn incwm ychwanegol
- Ymgysylltu â’r cyhoedd/cymuned
- Effaith gweithio i gefnogi mwy o fioamrywiaeth
Llinell amser a cherrig milltir:
Chwefror 2022 - Ymchwilio i fathau addas o bwmpenni a blodau haul. Mesur arwynebedd y tir ar gyfer plannu a chyfrifo faint o hadau sydd eu hangen. Ymgynghori ynglŷn ag addasrwydd pridd, beth i’w blannu ymhle, ystyriaethau tyfu megis profi pridd, atal chwyn a gofynion maeth. Archebu planhigion pwmpenni gan gyflenwr a argymhellir, fel y trafodwyd gydag ymgynghorydd ADAS yn ystod ymweliad.
Mawrth - Paratoi’r tir. Dechrau trin y gwely hadau os mae’r tywydd yn caniatáu. Tynnu lluniau o gynnydd a’u rhoi ar gyfryngau cymdeithasol i ennyn diddordeb cwsmeriaid.
Ebrill - Trin y gwely hadau, aredig a chwynnu Ailadeiladu cwt yr ieir. Ychwanegu maetholion cyn plannu’r blodau haul. Plannu’r blodau haul unwaith y bydd y ddaear yn ddigon cynnes. Lluniau a chyfryngau cymdeithasol.
Mai - Paratoi’r tir yn barod i blannu. Plannu’r pwmpenni os yw’n ddigon cynnes ar ddiwedd y mis, neu aros tan ddechrau Mehefin os oes peryg o rew. Lluniau a chyfryngau cymdeithasol.
Mehefin - Plannu pwmpenni yn ystod wythnos olaf mis Mai neu wythnos gyntaf mis Mehefin, gan ddibynnu ar dwf y planhigion ac amodau’r tywydd. Ystyried llwybrau o amgylch y fferm, arwyddion a chynnwys ar gyfer byrddau gwybodaeth. Meddwl am gynnwys hysbysebol ar gyfryngau cymdeithasol ar gyfer y blodau haul a’r pwmpenni - ystyried system archebu a lluniaeth yn ystod amseroedd casglu eich hun.
Gorffennaf-Awst - Monitro chwyn, clefyd a dyfrhau lle bo angen. Cael gwared ag unrhyw chwyn cyn gynted ag y byddant yn ymddangos. Cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol yn amlygu pryd y bydd y blodau haul yn barod. Dechrau’r fenter casglu blodau haul eich hun ar ddiwedd mis Awst, a pharhau i hyrwyddo’r pwmpenni fel ‘dod yn fuan’.
Medi - Dechrau ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol yn ddyddiol i annog diddordeb gan y cyhoedd. Monitro cnwd pwmpen am lwydni ac ati. Ystyried triniaeth, gyda chyngor ymgynghorydd. Cynllunio lle parcio, arwyddion, toiledau ac unrhyw system archebu.
Hydref - Dechrau’r fenter casglu eich hun heb fod yn rhy bell o Galan Gaeaf. Ystyried a oes angen pecynnu unrhyw bwmpenni o flaen llaw a’u symud i’r siop i’w gwerthu.
Tachwedd - Cyfrifo canran y cnwd a adawyd ar ôl Calan Gaeaf. Clirio’r tir ar gyfer y gaeaf a gwerthu/rhoi unrhyw gnydau neu borthiant sydd dros ben i’r anifeiliaid.
Rhagfyr - Cyfuno’r holl wybodaeth a’r costau a gofnodwyd a chynhyrchu adroddiad adolygu prosiect terfynol.