Cyflwyniad Prosiect Gardd Fasnachol Glebelands: Gwerthuso buddion hof olwynion Terrateck â Bio-ddisgiau i reoli chwyn mewn llysiau

Safle: Gardd Fasnachol Glebelands

Swyddog Technegol: Delana Davies

Teitl y Prosiect: Gwerthuso buddion hof olwynion Terrateck â Bio-ddisgiau i reoli chwyn mewn llysiau 

 

Cyflwyniad i’r prosiect: 

Mae Gardd Fasnachol Glebelands yn fenter organig 10 erw ger Aberteifi, ac mae’n cyflenwi llysiau ar gyfer siop fferm ar y safle, ac ar gyfer bwytai a siopau lleol a busnesau eraill. Mae’r cnydau sy’n cael eu tyfu yn cynnwys llysiau gwyrdd y gwanwyn, pak choi, sbigoglys, brocoli, dail salad, ffa, cennin, blodfresych, ffenigl, courgettes, letys, gwrdiau, ciwcymbrau a pherlysiau.

Caiff yr holl gynnyrch ei dyfu yn unol â safonau Cymdeithas y Pridd gan ddefnyddio technegau sydd wedi ennill eu plwyf, er enghraifft, compostio ar y safle, cylchdroi cnydau a chnydau gwrtaith gwyrdd i gynnal ffrwythlondeb y pridd ac iechyd planhigion. Mae’r busnes yn cyflogi deg o weithwyr yn ystod y flwyddyn, ac mae hynny’n gyfystyr â phum gweithiwr amser llawn. 

Ffigwr 1. Gardd Fasnachol Glebelands

 

Ffigwr 2. Y siop fferm ar safle Glebelands

 

Mae rheoli chwyn yn her ddiddiwedd i fusnesau tyfu llysiau bach a chanolig, ac yn aml iawn, bydd hynny’n dibynnu ar dechnegau hofio â llaw sy’n gofyn am gryn dipyn o amser a llafur. Ar hyn o bryd, mae’r busnes yn defnyddio dwy hof olwynion Glaser sy’n cael eu defnyddio ar y cyd â hofio â llaw, ond byddai’n elwa o archwilio sut i leihau hofio â llaw neu ddiddymu hynny’n llwyr.  

Bydd y prosiect hwn yn gwerthuso buddio hof olwynion Terrateck sy’n cael ei chynhyrchu yn Ffrainc ac sydd â Bio-ddisgiau wedi’u gosod arni; mae’n ymddangos fod y teclyn hwn yn mynd i’r afael â nifer o broblemau arwyddocaol ar gyfer tyfwyr llai:

  • Heriau trin yn effeithiol o amgylch cnydau wedi’u hau/priddo ger planhigion bychan wedi’u trawsblannu
  • Problemau defnyddio offer ar dractor yn achos tir sydd ar lethr neu’n anwastad
  • Y prinder offer garddwriaethol ar gyfer tyfwyr bychan a chanolig (a phrinder rhai wedi’u cynhyrchu yn y DU)
  • Cymhariaeth â’r hof olwynion Glaser lai adnabyddus (o’r Swistir) a modelau hŷn tebyg sy’n dal i gael eu defnyddio’n helaeth.

Mae ‘Hof Gerddi Masnachol Terrateck’ yn adnodd trin tir amlbwrpas ar gyfer perchnogion gerddi masnachol a phobl sy’n garddio gartref. Gellir ei defnyddio’n rhwydd i fecaneiddio’r gwaith o baratoi eginblanhigion, hofio, chwynnu a chefnu.  Mae dewis cynhwysfawr o atodiadau ar gael i hwyluso’r gwaith beunyddiol o gynnal a chadw cnydau, ac mae’n adnodd aml-bwrpas y gellir addasu ei faint, a gellir ei addasu ar gyfer unrhyw fath o bridd a chnwd. Dywedir fod yr hof yn hawdd ei thrin, yn amlbwrpas ac wedi’i hadeiladu’n dda, a gall ddarparu amrywiaeth o atebion sy’n hanfodol ar gyfer gofynion arallgyfeirio ym maes garddio masnachol.

Bydd yr hof Terrateck yn cynnwys Bio-Ddisgiau â dau osodiad: un ar gyfer gorchuddio rhes o lysiau a’r llall ar gyfer chwynnu manwl gywir. Wrth briddo, bydd y Bio-ddisgiau yn gorchuddio’r rhes â phridd, ac felly byddant yn mygu chwyn ifanc, sy’n golygu fod hyn yn ddelfrydol ar gyfer eginblanhigion ffa, nionod a chennin.  

Daw’r ddwy ddisg barabolig yn daclus at y rhesi o eginblanhigion, a byddant yn gwahanu’r pridd wrth ochr yr eginblanhigion ac yn symud y pridd ynghyd â’r chwyn ifanc sydd wrth ochr y cnwd. Felly, mae’r chwynnu yn hynod o fanwl gywir.

Mae’r Bio-ddisgiau hefyd yn cynnwys dwy ddisg syth i reoli dyfnder gweithio’r ddwy ddisg barabolig. Maent yn caniatáu gweithio’n agos at y rhes o eginblanhigion. Mae defnyddio’r dechneg hofio hon yn symud llai o bridd o gymharu â hof gwarthol gonfensiynol.

Ffigwr 3. Yr hof Terrateck yn cynnwys Bio-Ddisgiau

Bydd yr hof olwynion yn cael ei threialu’n benodol gyda chennin wedi’u trawsblannu yn Glebelands. Fel arfer, caiff 10,000 o blanhigion eu plannu, a dilynir hynny gan hofio â llaw a hofio gan ddefnyddio hof olwynion Glaser â thrin tir â pheiriant â dannedd sbrings, a gwneir hynny oll sawl gwaith. Gallai defnyddio hof olwynion Terrateck arwain at leihad sylweddol yn y gwaith hofio â llaw, a gwneir cymariaethau amser a llafur, ac arsylwir effeithlonrwydd y gwaith o reoli chwyn, rhwng y ddwy system.

Yn ychwanegol, bydd sicrhau cnwd glanach yn gynt yn golygu y gellir hau rhygwellt dan y cnwd yn gynt. Mae hyn yn ddull pwysig o amddiffyn y pridd ac mae angen ei amseru’n fanwl gywir i leihau cystadleuaeth â’r cennin ifanc, ond dylid ceisio anelu i sicrhau twf digonol i amddiffyn pridd rhag tywydd y gaeaf, yn enwedig erydiad pridd sy’n gysylltiedig ag achosion o lawiad dwys.