Cyflwyniad Prosiect Gardd Gegin Mostyn
Safle: Gardd Gegin Mostyn
Cyfeiriad: Neuadd Mostyn, Treffynnon
Swyddog Technegol: Debbie Handley
Teitl y Prosiect: Astudiaeth Achos Datblygu Menter Pigo eich Pwmpenni eich Hun
Cyflwyniad i’r Prosiect:
Mae Gardd Gegin Mostyn yn ardd furiog Fictoraidd ar dir Neuadd Mostyn yn Sir y Fflint. Mae yno berllan fawr a defnyddir y 2.5 erw i dyfu amrywiaeth eang o ffrwythau a llysiau gan gynnwys aeron, riwbob, tomatos, betys coch, ffa, perlysiau a chnydau salad.
Gan ganolbwyntio ar wneud y gorau o bob cyfle i ychwanegu gwerth, mae llawer o’r cynnyrch yn cael ei rewi ar ôl ei gynaeafu ac yn cael ei ddefnyddio i wneud jam a siytni sy’n cael eu gwerth drwy’r flwyddyn mewn siopau fferm lleol a siopau bychain
Ffigwr 1. Awyrlun o’r ardd gaeedig
Mae galw cynyddol am brofiadau yn yr awyr agored, ac mae hynny wedi cynyddu ymhellach dros y cyfnod Covid-19, felly mae datblygu eich menter casglu eich hun yn ffordd wych o fanteisio ar y galw hwn. Gall tyfu pwmpenni ar gyfer Calan Gaeaf fod yn ffrwd incwm da, ond mae angen ei reoli’n ofalus er mwyn sicrhau cynhyrchiant a’r gallu i glirio’r cnwd o fewn cyfnod byr iawn. Un fantais yw bod modd rheoli menter tyfu pwmpenni’n rhwydd ochr yn ochr â gweithgareddau arferol ar y fferm, ac mae’r gofynion o ran llafur yn isel.
Amcanion y Prosiect:
Y prif nod yw edrych ar fuddion ariannol sefydlu menter casglu pwmpenni ar raddfa fechan ac i werthuso unrhyw fuddion ychwanegol drwy ymgysylltu gyda’r gymuned leol, megis cynnydd mewn gwerthiant cynhyrchion eraill a chynyddu proffil ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Dewis yr amrywiaethau gan ystyried y gofynion o ran lliwiau a maint
- Cymharu tyfu o had dan do gyda phlannu’n uniongyrchol yn yr awyr agored
- Dwysedd plannu mwyaf addas
- Darparu’r cydbwysedd cywir o ran maetholion
- Rheoli chwyn
- Cofnodi unrhyw broblemau iechyd, yn enwedig Pydredd o Waelod y Ffrwyth
- Pennu a oes angen dyfrhau
Dangosyddion Perfformiad Allweddol:
Darparu gwybodaeth ynglŷn â’r canlynol:
- Elw cyffredinol uwchben costau
- Mewnbynnau llafur ac amser
- Cymharu plannu dan do gyda phlannu uniongyrchol
- Ymgysylltiad gyda’r cyhoedd/y gymuned
Amserlen a Cherrig Milltir:
Ionawr 2021 - Ymchwilio i amrywiaethau addas o bwmpenni. Mesur y tir sydd ar gael i’w blannu a chyfrifo faint o hadau sydd eu hangen.
Chwefror - Ymgynghori ynglŷn â maeth y pridd/profi’r pridd.
Mawrth - Dechrau trin y gwely hadau os mae’r tywydd yn caniatáu.
Ebrill - Trin y gwely hadau. Defnyddio techneg i waredu chwyn o’r gwely hadau cyn hau’r cnwd.
Mai - Defnyddio techneg i waredu chwyn o’r gwely hadau cyn hau’r cnwd. Hau mewn modiwlau o dan wydr. Drilio uniongyrchol a gorchuddio’r cnwd. Gofalu am yr eginblanhigion o dan wydr. Paratoi’r tir yn barod i blannu.
Mehefin - Plannu yn yr awyr agored yn ystod wythnos olaf mis Mai neu wythnos gyntaf Mehefin, gan ddibynnu ar dwf y planhigion ac amodau’r tywydd.
Gorffennaf - Awst Monitro chwyn, clefydau a dyfrhau lle bo angen. Chwynnu pan fo’r chwyn yn ymddangos.
Medi - Dechrau ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol i ennyn diddordeb y cyhoedd. Monitro’r cnwd i chwilio am unrhyw lwydni ayb. Ystyried rhoi triniaeth yn unol â chyngor yr ymgynghorydd. Cynllunio mynediad, parcio, arwyddion, toiledau, man gwerthu, trefniadau talu, staffio, offer ac unrhyw system archebu ar gyfer y fenter casglu eich hunain.
Hydref - Dechrau’r fenter casglu eich hunain, ystyried ychwanegu gwerth at y profiad (e.e. cerfio pwmpenni, afalau taffi, cawl pwmpen, te/coffi a chacen, gwerthu jam a siytni). Ystyried a oes angen symud unrhyw bwmpenni i gael eu cadw dan do.
Tachwedd - Cyfrifo pa ganran o’r cnwd sy’n weddill ar ôl Calan Gaeaf. Clirio’r tir ar gyfer y gaeaf a hau tail gwyrdd os mae’n ddigon cynnes. Gwerthu unrhyw gynnyrch sydd dros ben neu ei roi am ddim yn yr ardal leol.
Rhagfyr - Adolygiad terfynol a chostau