Cyflwyniad Prosiect Lower Llatho: Gwella proffidioldeb ac effeithlonrwydd menter ddefaid ucheldir

Safle: Lower Llatho

Cyfeiriad: Cregrina, Llanfair ym Muallt, Powys

Swyddog Technegol: Elan Davies

Teitl y Prosiect: Gwella proffidioldeb ac effeithlonrwydd menter ddefaid ucheldir

 

Cyflwyniad i’r prosiect: 

Fferm bîff a defaid yn Cregrina, Powys, yw Lower Llatho yn cael ei rhedeg gan y teulu Davies. Gyda’r ansicrwydd cynyddol yn y farchnad ŵyn, yn arbennig ar gyfer ŵyn ysgafnach yr ucheldir, mae sicrhau dyfodol y busnes yn hanfodol i’r teulu yn Lower Llatho. Trwy ganolbwyntio ar berfformiad y ddiadell, ei heffeithlonrwydd a’i phroffidioldeb, mae’r busnes yn gobeithio dynodi’r meysydd allweddol i’w gwella gyda’r nod o fod mor barod â phosibl ar gyfer pa bynnag ansicrwydd a all fod yn wynebu’r diwydiant defaid yma yng Nghymru.

Gyda hyn mewn golwg, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar bedwar prif ddatganiad yn ymwneud â chynhyrchiant ac effeithlonrwydd defaid;

  • Pa ddiadell sydd orau o ran cynhyrchiant a pherfformiad y defaid, y ddiadell miwl neu’r ddiadell ucheldir?
  • Gwerthuso’r fantais o werthu ŵyn ucheldir yn gynharach ac yn ysgafnach
  • Sut i wneud y mwyaf o wybodaeth am bwysau ŵyn
  • Sut i leihau costau gaeafu.

Mae’r fferm hefyd yn rhan o Gynllun Hyrddod Ucheldir Hybu Cig Cymru. Daw’r cynllun hwn â’r dechnoleg ddiweddaraf i ddiadelloedd ucheldir yng Nghymru, gyda’r nod o gryfhau’r sector defaid yng Nghymru trwy welliant genetig tymor hir. Bydd bod yn rhan o’r cynllun yn cyd-fynd yn dda â’r gwaith arfaethedig trwy’r prosiect safle ffocws hwn.

 

Amcanion y Prosiect:

Prif nod y prosiect hwn yw dynodi’r meysydd allweddol fydd yn gwella perfformiad, effeithlonrwydd a phroffidioldeb ar fferm ucheldir nodweddiadol yng Nghymru. Bydd hyn yn cael ei wneud trwy fonitro a meincnodi dangosyddion perfformiad allweddol ar draws (ac o fewn) y fenter ddefaid yn Lower Llatho.

Bydd y pedwar prif ddatganiad hyn yn ymwneud â chynhyrchiant ac effeithlonrwydd defaid yn cael eu harchwilio;

  • Pa ddiadell sydd orau o ran cynhyrchiant a pherfformiad y defaid, yn ogystal ag elw; y ddiadell miwl neu’r ddiadell ucheldir?
  • Gwerthuso’r fantais o werthu ŵyn ucheldir yn gynharach ac yn ysgafnach
  • Sut i wneud y mwyaf o wybodaeth am bwysau ŵyn
  • Sut i leihau costau gaeafu.


Y Dangosyddion Perfformiad Allweddol a osodwyd:

  1. Cynyddu’r gorchudd glaswellt yn y gaeaf a’r gwanwyn (o 1,400kgDM/ha i 2,000kgDM/ha) gan reoli’r glaswelltir yn well
  2. Lleihau’r nifer o ddyddiau cyn lladd (data meincnod ar gyfer 2019/2020 ddim yn hysbys eto)
  3. Cynyddu’r kg a fegir gan bob mamog (data meincnod ar gyfer 2019/2020 ddim yn hysbys eto)

 

Llinell amser a Cherrig milltir: 

Bydd Liz Genever, ymgynghorydd bîff a defaid annibynnol yn gweithio gyda ni ar y prosiect hwn gyda’r nod o ganolbwyntio ar yr agweddau canlynol o’r fenter ddefaid.

 

Bydd y wybodaeth/data canlynol yn cael eu cofnodi;

  • Sgôr cyflwr corff y mamogiaid wrth fynd at yr hwrdd, wrth sganio, wrth ŵyna/brechu rhag afiechydon clostridiaidd, pwysau’n 8 wythnos oed a diddyfnu, gan bwyso os yn bosibl wrth fynd at yr hwrdd, wrth sganio, yn 8 wythnos oed ac wrth ddiddyfnu - o leiaf 10% o’r defaid yn cael eu dewis ar hap o’r ddiadell miwl a’r ddiadell ucheldir
  • Gwybodaeth wrth sganio, colledion ŵyn a gwerthiannau ŵyn i bob diadell
  • Pwysau’r ŵyn yn 8 wythnos oed ac wrth ddiddyfnu (o leiaf 10% o bob grŵp)
  • Patrwm marchnata ŵyn a data lladd 2021
  • Patrwm marchnata ŵyn a data lladd yn 2019 a 2020 fel cymhariaeth
  • Darlleniad gorchudd porfa misol a chyfrifiad stoc