Cyflwyniad Prosiect Pantyderi: Defnyddio cysylltedd LoRaWAN i fonitro lefelau nitradau pridd amser real mewn cnwd gwenith gaeaf

Safle: Pantyderi

Swyddog Technegol: Delana Davies

Teitl y Prosiect: Defnyddio cysylltedd LoRaWAN i fonitro lefelau nitradau pridd amser real mewn cnwd gwenith gaeaf

 

Cyflwyniad i'r prosiect

Nitrogen (N) yw'r elfen fwyaf dylanwadol y gellir ei rheoli o ran twf yn y rhan fwyaf o systemau cynhyrchu âr. Fe'i ceir mewn sawl ffurf yn y pridd - nitrad (NO3) yw’r math o nitrogen sydd hawsaf i’r planhigyn ei ddefnyddio. Pan fydd y borfa’n tyfu’n gyflym ac yn defnyddio nitrogen, rhaid i'r cnwd ŷd gael cyflenwad digonol o’r nitrogen sydd yn y pridd bob dydd er mwyn tyfu cymaint â phosibl.

Un o gyfyngiadau profion nitradau mewn labordy yw mai dim ond cipolwg o'r lefelau nitradau yn y pridd ar yr union adeg honno a geir yn y prawf. Gall lefelau nitradau amrywio'n fawr hefyd yn sgil dŵr yn symud, dadnitreiddiad, mwneiddiad, faint fydd y cnwd yn ei ddefnyddio a ffactorau eraill.

Gellid sicrhau manteision economaidd ac amgylcheddol drwy gael gwybodaeth lawnach am lefelau nitradau yn y pridd a'u newidiadau dros amser. O safbwynt economaidd, gellir arbed costau gwrtaith drwy osgoi defnyddio mwy o nitrogen nag sydd ei angen ar y cnwd, a gellir sicrhau manteision amgylcheddol drwy leihau'r posibilrwydd o nitradau’n symud i ddŵr daear drwy osgoi gorddefnyddio gwrtaith nitrogen.

 

Nod y prosiect

Mae nod y prosiect hwn yn ddeublyg:

  1. Archwilio'r defnydd o borth presennol LoRaWAN yn Safle Arddangos Pantyderi i gasglu a monitro darlleniadau nitradau pridd amser real. Bydd y prosiect yn cysylltu â phrosiect Innovate UK sy'n datblygu'r defnydd o synwyryddion nitrad yn y pridd, sydd wedi'u lleoli yng Nghanolfan John Innes yn Norwich. 
  2. Creu cronfa ddata o wybodaeth am lefelau amser real o nitrad yn y pridd a'u newidiadau dros amser o'u cymharu â thymheredd y pridd, glawiad, twf a datblygiad y cnwd, gan wella gwybodaeth am fesurau posibl i gynyddu effeithlonrwydd y defnydd o nitrogen yn y cnwd sy'n tyfu. 

 

Beth fydd yn cael ei wneud

Mae'r cae lle caiff hyn ei dreialu’n 8ha, wedi'i hau â gwenith gaeaf lle tyfwyd cnwd o bys a ffa o’i flaen. Gan ei fod yn gnwd codlysiau, mae ganddo wreiddgnepynnau a’r gallu i sefydlogi nitrogen. Mae gan y gwreiddgnepynnau berthynas symbiotig â’r planhigyn lletyol; maen nhw’n cael carbohydrad ohono, ac yn cyflenwi nitrogen yn gyfnewid am hynny. Ni ddefnyddiwyd unrhyw wrtaith nitrogen i dyfu'r pys a'r ffa, a bydd nitrogen gweddilliol hefyd yn cael ei adael yn y pridd i'w ddefnyddio gan gnwd gwenith y gaeaf.

Bydd tair set o synwyryddion nitradau, ynghyd â synwyryddion tymheredd a lleithder, yn cael eu gosod ar dop, canol ac ar waelod y cae. Bydd y gwaith o gofnodi data yn parhau o ddiwedd mis Hydref nes caiff y cnwd ei gynaeafu ym mis Gorffennaf. 

Bydd pob math o driniaeth a roddir i'r cae, e.e. unrhyw wrtaith, chwynladdwyr, pryfladdwyr, ffwngladdwyr, a hyrwyddwyr twf, yn cael ei chofnodi. Bydd samplau pridd yn cael eu cymryd yn rheolaidd ar gyfer graddnodi’r synwyryddion. Bydd dadansoddiad NRM Pridd N-Check Plus yn cael ei wneud ym mis Ebrill ar gyfer nitrad N, amoniwm N, cyfrifir SMN, deunydd organig, amcangyfrifir N mwyneiddiadwy, cyflenwad N yn y pridd a mynegai SNS. Bydd dadansoddiad safonol o nitrogen yn y dail yn cael ei gynnal bob mis o fis Mawrth ymlaen. 

Set o synwyryddion tymheredd a lleithder a nitrad yn y pridd wedi'u gosod ym Mhantyderi