Cynllunio Rheoli Maetholion ar Gyfer Garddwriaeth

The Fruit Farm, Llanfihangel Crucornau

Fferm arddwriaeth gymysg 7.6 hectar yw Fruit Farm Llanfihangel Crucornau sydd yn dechrau cael ei rheoli ar safonau organig (nid yw wedi ei hardystio yn organig eto). Ar hyn o bryd nid yw’r afalau yn cael eu rheoli yn organig. Y berllan yw’r brif fenter gyda 3.2 hectar o afalau melys. Tyfir tua 0.6 ha o ellyg hefyd. Tyfir ffrwythau meddal gan gynnwys mefus, mafon cochion, mafonfwyar, cyrens duon, cyrens cochion, eirin mair a mafon duon hefyd. Yn ddiweddar datblygwyd clwt llysiau 1 ha, yn tyfu amrywiaeth o gnydau gan gynnwys pwmpenni, broccoli, ffa, brassica a saladau.

Cymerwyd profion pridd yn strategol i gynnwys yr ardaloedd tyfu i gyd a’r amrywiaeth o gnydau a dyfir, a chafwyd 20 sampl i gyd.

 

Canlyniadau profi pridd

pH y pridd

Mae cael y pH gorau posibl i’r pridd yn allweddol i sicrhau bod y llwyth mwyaf o faetholion yn cael eu defnyddio. Y pH delfrydol yw 6.5 ar gyfer cnydau garddwriaethol.

 

 

  • Roedd pob un o’r 20 sampl (o’r berllan, ffrwythau meddal a llysiau) dan y targed pH a argymhellir sef 6.5 ac maent angen calch fel blaenoriaeth
  • Mae llus yn gallu tyfu mewn pridd asidig (pH 4.5-5.5); os bydd y cnwd hwn yn cael ei dyfu yn y dyfodol, gellid eu plannu yn y plotiau gyda’r pH isaf.
  • Dim ond trwy chwalu ar yr wyneb y gellir rhoi calch i berllannau a ffrwythau meddal felly rhowch haen ar y pridd o gwmpas ardal y gwreiddiau gyda’r hyn sy’n cyfateb i 5t/ha o galch mân; efallai y bydd yn bosibl palu â pheiriant i’r calch fynd i’r pridd ond mae risg y ceir niwed i’r gwreiddiau.
  • Trowch yr hyn sy’n cyfateb i 5 t/ha o galch mân i’r clwt llysiau ac ychwanegu 5 t/ha arall ar yr wyneb
  • Ail brofwch yr holl ardaloedd mewn 2 flynedd i asesu’r gwelliant

 

Ffosfforws y Pridd (P)

Mae ffosfforws y pridd yn elfen hanfodol a elwir yn facrofaethyn oherwydd bod planhigion angen cyfradd gymharol fawr o P. Mae ffosfforws yn un o’r tri maethyn a ychwanegir yn gyffredinol at briddoedd mewn gwrteithiau. Mae P yn bwysig ar gyfer:

  • trosglwyddo egni mewn adweithiau yng nghelloedd planhigion
  • ysgogi twf cynnar y planhigyn ac yn cyflymu’r broses aeddfedu

Y mynegai ffosfforws delfrydol ar gyfer cynnyrch cnwd yw 2 (16-25 mg/l) i ffrwythau a 3 (26-45 mg/l) i lysiau.

 

 

 

  • Roedd 10 (50%) o’r 20 sampl ar Fynegai targed P o 2-3
  • Roedd 3 (15%) o’r 20 sampl yn is na’r targed o ran lefel P, gyda 2 blot yn arbennig o ddiffygiol ar Fynegai P o 0
  • Roedd 7 (35%) o’r 20 sampl ar fynegai P 4 neu uwch, gan gynnwys yr 1 sampl ar Fynegai 7; ni ddylid rhoi Ffosffad (gwrtaith na thail organig) ar y caeau yma nes bydd y Mynegai P wedi gostwng i Fynegai 3
  • Mae’r eithriadau yn cynnwys cnydau fel Salad Deiliog, Merllys, Seleri Hunan-Wynnu Hopys pan all fod yn briodol rhoi ffosffad ar Fynegai 4

Potasiwm pridd (K)

Mae potasiwm (K) yn faetholyn hanfodol i blanhigion dyfu. Oherwydd bod llawer iawn yn cael ei amsugno o ardal y gwreiddiau wrth gynhyrchu y rhan fwyaf o gnydau agronomig, fe’i gelwir yn facrofaethyn. Nid yw union swyddogaeth K o ran twf planhigion wedi cael ei ddiffinio yn glir. Cysylltir potasiwm â symudiad dŵr, maetholion, a charbohydradau ym meinwe planhigion. Y mynegai potasiwm gorau ar gyfer cynnyrch cnwd a defnyddio maetholion eraill yw 2 + (181-240 mg/l).

 

  • Roedd 20% o’r 20 sampl ar y Mynegai targed K o 2+ gyda 45% ar Fynegai 3 (uchel ond addas)
  • Roedd 35% o’r samplau ychydig yn isel o ran Potasiwm y Pridd (Mynegai 2-)
  • Dan system organig, byddai angen cael rhanddirymiad gan y corff ardystio cyn prynu ffurfiau a gymeradwyir o botash e.e. sylvinite; ac fel arfer mae angen mynegai K ar 0 i ddangos yr angen am y rhanddirymiad

 

Magnesiwm y Pridd (Mg)

 

Magnesiwm yw craidd canolog y moleciwl cloroffyl ym meinwe planhigion. Felly, os yw Mg yn ddiffygiol, mae’r prinder cloroffyl yn arwain at dwf gwael a diffyg tyfiant.

Mae magnesiwm hefyd yn helpu i sicrhau bod systemau ensymau penodol yn dod yn weithredol. Mae ensymau yn sylweddau cymhleth sy’n adeiladu, addasu, neu’n torri cyfansoddion i lawr fel rhan o fetaboledd arferol y planhigyn. Y mynegai magnesiwm gorau ar gyfer cynnyrch cnwd a defnyddio maetholion eraill yw 2 (51-100 mg/l).

 

 

 

  • Roedd yr holl samplau (100%) o’r 20 ar y targed Mg o 2 neu uwch.
  • Roedd 15% o’r samplau ychydig yn uchel o ran Magnesiwm y Pridd (Mynegai Mg 4).
  • Mae’r gymhareb K:Mg yn arbennig o bwysig mewn ffrwythau gyda chymhareb dros 3:1 yn debygol o achosi diffyg magnesiwm; canfuwyd bod gan nifer o blotiau gymhareb K:Mg dros 3:1

Argymhellion chwalu maetholion

Afalau – Cynnyrch <40t/ha (16 t/erw) (Afalau Uchaf, Canolig)

 

 

Maetholyn Pridd

 

Mynegai Pridd

Gofyn y Cnwd Kg/ha (Unedau/erw)

 

Cyfraniad gan

Dail

 

Y Gweddill i’w Gyflenwi

 

 

 

 

 

Nitrogen

2

30 (24)

0

30 (24)

Ffosffad

0

80 (64)

0

80 (64)

Potash

2-

80 (64)

0

80 (64)

 

 

  • Dylid ystyried chwalu gwrtaith ffosffad sydd wedi ei gymeradwyo yn organig fel ‘GAFSA’. Bydd angen chwalu’r calch ar y wyneb yn ardal y gwreiddiau gan nad oes dewis i roi calch ar yr isbridd; byddai’r hyn sy’n cyfateb i 1,000kg/ha yn cyfateb i 1kg i bob 10 m2
  • Ni ddylid chwalu calch o fewn 6 mis o ddefnyddio GAFSA
  • Byddai chwalu’r hyn sy’n cyfateb i 125 kg/ha TSP (46%) yn cael ei argymell
  • Ni ddylai mynegai K y pridd gael ei godi yn uwch na 2 oherwydd gall chwalu llawer o botash gael effaith niweidiol ar ansawdd storio
  • Ar hyn o bryd nid yw’r gymhareb K:Mg yn fwy na 3:1

Gellyg

 

Maetholyn Pridd

 

Mynegai Pridd

Gofyn y Cnwd Kg/ha (Unedau/erw)

 

Cyfraniad gan

Dail

 

Y Gweddill i’w Gyflenwi

 

 

 

 

 

Nitrogen

2

90 (72)

0

90 (72)

Ffosffad

2

20 (16)

0

20 (16)

Potash

2+

80 (64)

0

80 (64)

 

Mae ar ellyg angen 70kg/ha yn ychwanegol o botash. Byddai defnyddio tail ‘organig a gymeradwywyd’ sy’n rhoi N, P a K yn addas yn y cnwd yma. Defnyddir pelenni tail ieir organig ar y fferm (1.5:2:2). Byddai chwalu ar gyfradd sy’n cyfateb i 1,000kg/ha yn cyflenwi 15 kg nitrogen, 20 kg ffosffad a 20 kg potash.

 

Mafon cochion

 

Maetholyn Pridd

 

Mynegai Pridd

Gofyn y Cnwd Kg/ha (unedau/erw)

 

Cyfraniad gan

Dail

 

Y Gweddill i’w Gyflenwi

 

 

 

 

 

Nitrogen

Canolig

70 (56)

0

70 (56)

Ffosffad

5-7

0

0

0

Potash

3

60 (48)

0

60 (48)

Magnesiwm

2

50 (40)

0

50 (40)

 

  • Calch yw’r flaenoriaeth i’r mafon cochion. O ystyried yr angen am fagnesiwm ar Fynegai 2, byddai defnyddio calch magnesaidd yn cael ei argymell ar gyfer y plotiau. Bydd angen chwalu’r calch ar y wyneb yn ardal y gwreiddiau gan nad oes dewis i roi calch ar yr isbridd. Byddai’r hyn sy’n cyfateb i 5 t/ha yn cyfateb i 0.5kg i bob 1 m2. Dylid ailadrodd hyn ddwywaith y flwyddyn ac ail brofi’r pridd ym mlwyddyn 2 i asesu’r newid yn y pH
  • Ar hyn o bryd mae’r gymhareb K:Mg dros 3:1 a gall hyn greu diffyg magnesiwm; ni argymhellir ychwanegu unrhyw K felly nes bydd y gymhareb K:Mg wedi mynd dan 3:1
  • Os yw’r plotiau yn mynd i gael eu rheoli yn ôl safonau organig ac na ellir rhoi tail organig oherwydd ei fod yn uchel mewn P, ychydig o ddewisiadau sydd i roi N

Ffa Llydain

 

Maetholyn Pridd

 

Mynegai Pridd

Gofyn y Cnwd Kg/ha (Unedau/erw)

 

Cyfraniad gan

Dail

 

Y Gweddill i’w Gyflenwi

 

 

 

 

 

Nitrogen

Isel

0

0

0

Ffosffad

2

100 (80)

0

100 (80)

Potash

2-

100 (80)

0

100 (80)

 

  • Nid oes gofyn am Nitrogen gyda chnydau codennau
  • Dylid ystyried chwalu gwrtaith ffosffad sydd wedi ei gymeradwyo yn organig fel ‘GAFSA’; byddai’r hyn sy’n cyfateb i 1,000kg/ha yn cyfateb i 1kg i bob 10 m2
  • Byddai chwalu 500kg/ha o sylvinite yn darparu 80 kg/ha o botash

Winwns/Nionod a chennin

 

Maetholyn Pridd

 

Mynegai Pridd

Gofyn y Cnwd Kg/ha (Unedau/erw)

 

Cyfraniad y Tail

 

Y Gweddill i’w Gyflenwi

Cyflenwir

 

 

 

 

 

Nitrogen

Isel

130-190 (104-152)

0

130-190 (104-152)

Ffosffad

2

100 (80)

0

100 (80)

Potash

2+

125 (100)

0

125 (100)

 

  • Gellid troi pelenni tail ieir organig (yn cyfateb i 1,000 kg/ha) at y gwreiddiau gyda phelenni ychwanegol (yn cyfateb i 500kg/ha) ar bridd yr wyneb
  • Fel arall dylid ystyried chwalu gwrtaith ffosffad sydd wedi ei gymeradwyo yn organig fel ‘GAFSA’; byddai’r hyn sy’n cyfateb i 1,000kg/ha yn cyfateb i 1kg i bob 10 m2
  • Byddai chwalu 500kg/ha o sylvinite yn darparu 80 kg/ha o botash

CASGLIADAU

  • Dylid profi’r pridd yn gyson er mwyn defnyddio gwrtaith, calch a thail organig yn briodol
  • Dengys y canlyniadau bod gan dyfwyr y potensial i wella cynhyrchiant cnydau pan fydd canlyniadau pridd yn dangos diffygion neu gymhareb anghywir o ran maetholion
  • Dylid hefyd ystyried dadansoddi dail neu ffrwythau fel dull o ganfod diffygion o ran maeth a photensial storio
  • Bydd y canlyniadau yn caniatáu i wrteithiau gael eu targedu ar yr ardaloedd sydd fwyaf o’u hangen
  • Dylid sicrhau ffynonellau ffosffad a photash sydd wedi eu cymeradwyo yn organig er mwyn rheoli’r plotiau yn ôl safonau organig

Mae’r Canllaw Rheoli Maetholion RB209 (a ddiweddarwyd Mai 2017) yn adnodd hanfodol i dyfwyr. Gellir ei lawrlwytho am ddim o:

https://ahdb.org.uk/projects/RB209.aspx

Mae Cynllunio Rheoli Maetholion ar gael i dyfwyr trwy raglen Cynghori Cyswllt Ffermio ac mae’n gymwys i gael ei ariannu 80%.

https://ahdb.org.uk/projects/RB209.aspx

Nutrient Management Planning for growers is available through the Farming Connect programme Advisory Service and is eligible for 80% funding.