Natalie Chappelle

MAESYFED


Natalie Chappelle, un o raddedigion Prifysgol Harper Adams, yw swyddog datblygu Cyswllt Ffermio ar gyfer Sir Faesyfed. 

Magwyd Natalie ar fferm ym Sir Frycheiniog sydd wedi bod yn ei theulu ers tair cenhedlaeth, ac mae’n dal i gynorthwyo gyda’r ddiadell sy’n cynnwys defaid Texel croes yn bennaf ynghyd â nifer fechan o wartheg bîff stôr a fagwyd gan ddefnyddio geneteg cyfandirol.

Bellach, mae’r fam ifanc, Natalie a’i gwr yn ffermio fferm 100 erw ger Glasbury lle maent yn adeiladu diadell o ddefaid Berrichon pedigri sy’n ‘galed, yn wyna’n rhwydd, ac yn hawdd i ofalu amdanynt’, ac maent yn gobeithio eu defnyddio ar gyfer rhaglen fagu cyfansawdd a’u dangos yn ystod yr haf. 

“Rydw i eisiau annog ffermwyr a choedwigwyr yn fy ardal i ddefnyddio’r ystod eang o wasanaethau, digwyddiadau a hyfforddiant sydd ar gael iddynt trwy Cyswllt Ffermio. 

“Mae cymaint ar gael ar eu cyfer, gan amrywio o samplu pridd i ‘Mesur i Reoli’, rhaglen feincndi Cyswllt Ffermio, a phopeth wedi’i lunio i’w cynorthwyo i gyflawni eu potensial fel busnesau llwyddiannus a hyfyw,” meddai Natalie. 

“Byddaf hefyd yn gweithio gyda nifer o grwpiau trafod yn dilyn pynciau penodol, a fydd yn darparu fforwm perffaith i ffermwyr allu archwilio syniadau newydd a chwrdd â ffermwyr eraill,” meddai Natalie.