Dewis eich Pwmpen Eich Hun – Marchnata ac Ystyriaethau
Mae’n amlwg bod y farchnad Dewis eich Pwmpen eich Hun yn dal i dyfu’n dda yng Nghymru, lle mae’n dod yn bwynt marchnata cryf o ddechrau mis Medi hyd Galan Gaeaf. Yn rhan o’r sector twristiaeth fferm ehangach, mae cwsmeriaid yn fodlon talu prisiau llawer uwch na phrisiau’r archfarchnad i ddewis pwmpen yn y cae, yn ogystal â mwynhau amrywiaeth o weithgareddau eraill y gallwn eu cysylltu â busnes ‘Dewis Un eich Hun’. Ond, bydd angen i chi gynllunio nifer o bwyntiau’n ofalus os ydych am farchnata’r fenter Dewis Un eich Hun yn llwyddiannus, ac mae’n syniad da i dreulio amser ychwanegol yn paratoi ar gyfer cyfnod byr a phrysur o werthu.
*Nodwch fod Covid wedi effeithio’n fawr ar y ffordd yr ydyn ni wedi gallu gwneud busnes yn ddiweddar, a dylech ystyried yr arweiniad yn y ddogfen hon yng nghyd-destun y sefyllfa Covid ddiweddaraf a chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Cynllunio Ymlaen Llaw
Bydd hi’n hanfodol i chi gadw rheolaeth dda ar brofiad y cwsmer cyhyd ag y bydden nhw ar eich safle. Bydd hyn yn golygu bod cwsmeriaid yn cael profiad esmwyth a hwyliog ac yn debygol o adael adborth cadarnhaol ar y cyfryngau cymdeithasol, a byddwch hefyd yn sicrhau’r nifer orau bosib o ymwelwyr. Er enghraifft, ystyriwch roi arwyddbyst i ddangos llwybrau clir o amgylch y fferm, a rhowch gyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd y mannau agored lle’r ydych yn tyfu’r pwmpenni. Hefyd, cynlluniwch ar gyfer y mannau lle mae cwsmeriaid yn debygol o ffurfio llinell, fel mannau talu, er mwyn gwella symudiad llif y cwsmeriaid. Awgrym defnyddiol arall yw darparu slediau neu ferfâu i helpu cwsmeriaid i symud pwmpenni o’r cae. Os gallwch, mae systemau talu digyswllt yn gallu cyflymu’r broses o dalu, ac mae systemau fel Square, SumUp neu IZettle yn darparu systemau talu gyda cherdyn ar ffôn symudol am gost isel. Efallai y byddai werth gosod man gwerthu penodol (hyd yn oed os oes gennych werthiannau ar y safle at ddibenion eraill yn barod, fel siop fferm) i symleiddio’r broses – gallech chi hyd yn oed ddefnyddio cynhwysydd llong wedi’i ailbwrpasu, twnelau polythen neu ysgubor i wneud hyn (Ffigur 1). Yn olaf, efallai y byddai’n syniad mynd ati i addurno rhannau o’r safle i gyfateb â thema Calan Gaeaf, ac annog staff i wisgo gwisg ffansi yn y cyfnodau prysur – po fwyaf y mae’r cwsmer yn mwynhau’r profiad, y mwy tebygol y mae o rannu lluniau a siarad amdano, a gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn gyfrwng marchnata hynod o effeithiol.
Ffigur 1, Enghraifft o dyllau mesur pwmpenni i ganfod maint y bwmpen i’w gwerthu. Gallwch chi ddefnyddio hwn i ennyn diddordeb y cwsmer drwy adael iddyn nhw ollwng eu pwmpen drwy dwll penodol, a gallai hyn gyflymu’r broses werthu o’i gymharu â phwyso ffrwythau unigol. Roedd yr enghraifft hon mewn cynhwysydd llong ar ymyl cae o bwmpenni.
Y Cyfryngau Cymdeithasol a Hysbysebu
Mae’n bwysig eich bod chi’n rhoi gwybod i bobl am eich busnes Dewis Eich Pwmpen eich hun, ac mae hysbysebion lleol ac yn arbennig y cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod o gymorth mawr. Dylech roi neges glir yn dangos lle’r ydych chi (gan ddefnyddio tagiau Google Maps neu what3words fel enghraifft), eich amseroedd agor, beth sydd gennych i’w gynnig a sut i fynd i mewn i’ch safle (system un ffordd fyddai orau) os yw’n anodd dod o hyd iddo. Os gallech gael gwefan, gallech gynnig rhagor o wybodaeth am y ffordd y mae’r broses Dewis Un eich Hun yn gweithio, ac esbonio sut mae unrhyw system archebu sydd gennych ar waith yn gweithio. Dylech geisio postio’n rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol, ac annog pobl i rannu eu profiadau eu hunain a lluniau’n tagio eich fferm lle bo modd. Mae arddangosiadau mawr o bwmpenni neu luniau braf ar draws y cae yn gallu creu cyfleoedd atyniadol ar y cyfryngau cymdeithasol i’ch cwsmeriaid, ac yn gallu eu helpu nhw i rannu cynnwys am eich safle – mae hyn yn rhan bwysig o dwristiaeth fferm.
Systemau Archebu Lefel Uwch
Gall system archebu fod yn ddefnyddiol i reoli nifer yr ymwelwyr sy’n dod i’ch safle er mwyn osgoi llinellau aros hir, cyfleusterau parcio gorlawn, neu orfod gwrthod cwsmeriaid am nad oes digon o bwmpenni, yn ogystal â sicrhau bod pawb yn cadw pellter cymdeithasol. Gallech ddefnyddio systemau archebu ar-lein ar wefan fferm (gan ddefnyddio apiau fel WooCommerce neu BookThatApp) neu roi dolenni at wasanaethau archebu trydydd parti ar hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol (e.e. Eventbrite a Digitickets). Gallwch rannu pob dydd yn gyfres o flociau 30 neu 60 munud gyda nifer penodol o docynnau ar gyfer pob slot amser. Yna gall y rhain gael eu gwerthu fesul uned deuluol am bris penodol a bydd hynny’n sicrhau eich bod chi’n derbyn taliad o bris y tocyn o leiaf gan bob ymwelydd ac yn lleihau’r risg y gallai’r teulu beidio dod ar y diwrnod – mae’r gost fel arfer tua £5 neu £10 am grŵp teulu. Pan fydd y cwsmeriaid yn cyrraedd gallwch roi taleb iddyn nhw am werth y pris a dalwyd, a gallan nhw ddefnyddio hwn fel taliad neu randaliad am unrhyw bwmpenni y maen nhw’n eu prynu. Gallwch agor y safle archebu ddigonedd o amser o flaen llaw neu ychydig ddiwrnodau cynt er mwyn i chi allu cynllunio nifer yr ymwelwyr a ddaw ar eich safle’n fanwl gywir.
Prisio a Gwerthu
Gallwch farchnata ffrwythau am amrywiaeth o brisiau, er y bydd cwsmeriaid yn fodlon talu llawer mwy na phrisiau’r archfarchnad – bydden nhw’n disgwyl hyn yn rhan o’r profiad. Gallech werthu ffrwythau mawr am £5 yr un, gydag amrywiadau mwy am £10-£15 yn dibynnu ar y farchnad. Gallech chi werthu pwmpenni addurniadol, fel ffrwyth dafadennog neu rai pitw bach am tua £1.50 – £3.00. Gallech werthu’r ffrwythau naill ai yn ôl eu pwysau neu eu dosbarthu’n fras yn ôl eu maint – gallech chi ddefnyddio tyllau o wahanol faint wedi eu torri i mewn i ford bren. Byddai’n syniad cael amrywiaeth mawr o bwmpenni yn barod, wedi eu casglu a’u prisio a’u harddangos mewn ysgubor – byddai hyn yn creu arddangosiad atyniadol, yn caniatáu i gwsmeriaid ddewis un heb fynd i’r caeau os yw’r tywydd yn wael, ac yn rhoi syniad o’r costau tebygol cyn iddyn nhw ddewis pwmpen.
Ychwanegu Gwerth
Yn ogystal â phwmpenni, gallech chi gynnig amrywiaeth o gynhyrchion a gweithgareddau eraill ar eich safle i ddod â mwy o arian i mewn. Mae caffi neu dryc coffi sy’n gwerthu diodydd poeth a chacennau’n debygol o fod yn boblogaidd iawn gyda’r dyrfa, a byddai stondinau gwerthu siocledi a melysion ar thema Calan Gaeaf o ddiddordeb hefyd i deuluoedd ifanc. Gallech chi hefyd gynnig gorsaf olchi pwmpenni neu ddeunyddiau lapio os oes angen. Os oes gennych le, efallai y byddwch chi hefyd eisiau ystyried cynnal gwersi cerfio pwmpenni ar y safle a allai fod o fudd i rieni oherwydd bydd annibendod y cerfio’n digwydd ar y fferm! Gallech chi farchnata citiau cerfio pwmpenni, a gyda’r amser ychwanegol y maen nhw’n ei dreulio ar y safle mae’r rhieni’n debygol o dreulio amser (a gwario arian) yn y cyfleusterau eraill, fel y tryciau coffi. Dylech chi gynnig sesiynau cerfio i’w harchebu mewn slot amser penodol am bris ychwanegol (e.e. £2- £3) ar ben cost y bwmpen, a gallech chi gynnwys hwn ar adeg yr archebu. Yn olaf, mae pwmpenni’n cyd-fynd yn dda â phob math o gynigion Dewis Un eich Hun neu gnydau twristiaeth fferm, fel drysfa india-corn a dyfwyd cyn y cyfnod Calan Gaeaf neu werthiant coed Nadolig ar ôl y cyfnod.
Ystyriaethau Iechyd a Diogelwch yn ymwneud â ffermydd agored
Mynediad/allanfa i ac o ffyrdd cyhoeddus:
- Os bydd cerbydau’n dod i mewn ac yn gadael drwy’r dydd, dylid defnyddio mynedfa ac allanfa ar wahân.
- Dylid gallu gweld yn dda i’r ddwy ochr wrth drefnu mynedfa i ac o ffyrdd cyhoeddus (gallai arweiniad gan eich awdurdod lleol fod yn ddefnyddiol).
Parcio:
- Sicrhewch fod y maes parcio mor wastad a sych â phosibl.
- Dylid rheoli’r parcio (150 fesul erw os byddant yn cael eu parcio’n briodol).
- Dylai’r fynedfa o’r maes parcio i’r ardal weithgareddau fod ar wahân i fynedfa’r cerbydau (dylid gwahanu cerbydau a phobl lle bo hynny’n bosibl).
Safle diogel:
Canfyddwch yr holl beryglon posibl ar y fferm a sicrhewch eich bod yn eu gwneud yn ddiogel. Gallai’r rhain gynnwys:
- Anifeiliaid fferm, sicrhewch eu bod wedi’u gwahanu oddi wrth ymwelwyr gan ddefnyddio ffensys.
- Cerbydau a pheiriannau, sicrhewch fod y rhain yn cael eu parcio’n ddiogel gan dynnu’r allweddi ohonynt a chloi’r drysau.
- Dylai gweithdai a storfeydd tanwydd a chemegau fod at glo ac yn ddiogel.
- Dylid ffensio storfeydd slyri a thail buarth a gosod arwyddion clir.
- Mae’n bosibl y bydd angen goruchwylio ardaloedd gyda llynnoedd neu gyrsiau dŵr.
Pigo/casglu nwyddau
- Dylid marcio pob llwybr i bobl yn glir a dylid egluro gweithdrefnau’n llawn i ymwelwyr. Gellir gwneud hyn drwy gynnal sesiwn ‘cwrdd a chyfarch’ neu gydag arwyddion neu saethau clir.
- Gallai fod yn ddefnyddiol cael rhyw fath o drafnidiaeth fewnol er mwyn cludo nwyddau neu ar gyfer ymwelwyr gyda phroblemau symudedd.
- Dylai unrhyw gerbydau neu offer a ddefnyddir ar y safle fod yn ddiogel ac mewn cyflwr da, a chael eu defnyddio gan bobl cymwys.