Diweddariad Prosiect Bronllwyd Fawr: Opsiynau cynaliadwy ar gyfer rheoli cloffni a lleihau'r defnydd o wrthfiotigau mewn diadell ddwys ar lawr gwlad - Mai 2021

Cynhaliwyd ymweliad gan filfeddyg y prosiect, Joe Angell, Milfeddygon y Wern yn ystod Mawrth 2021 fel dilyniant i’r ymweliad cyntaf a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2020. Nod yr ymweliad oedd adolygu’r camau a gymrwyd a’r data a gasglwyd a gwneud addasiadau yn ôl yr angen. 

 

Datblygiad y prosiect

Ar 2 Rhagfyr 2020, derbyniodd 300 o famogiaid Suffolk croes sgan beichiogrwydd a chafodd 32 mamog eu cadw ar wahân gan eu bod yn dangos arwyddion clinigol o gloffni. Cafodd y mamogiaid hyn eu cadw mewn corlan ar wahân a rhoddwyd Bimoxyl LA i bob mamog ar y dyddiad yma. O’r diwrnod yma ymlaen, cawsant eu rhoi trwy faddon traed yn ddyddiol.  

Ar 6 Rhagfyr 2020, chwistrellwyd 20 o’r mamogiaid cloff eto gyda Bimoxyl LA. O’r diwrnod yma ymlaen, cafodd y mamogiaid eu rhoi trwy faddon traed a oedd yn cynnwys Formalin pob tri diwrnod. Pum diwrnod yn ddiweddarach, chwistrellwyd 10 o’r mamogiaid cloff eto gyda Bimoxyl LA.  

Ar 20 Rhagfyr 2020, cafodd 268 yn fwy o famogiaid Suffolk croes eu rhoi dan do.  Rhoddwyd y brechlyn Footvax i’r mamogiaid hyn ar 9 Ionawr 2021. O’r dyddiad yma ymlaen, cafodd y mamogiaid eu rhoi trwy faddon traed (Formalin) dair gwaith yr wythnos, a thra roeddent yn y corlannau trin, gwasgarwyd calch yn eu corlannau dan do gyda’r nod o sychu’r deunydd gorwedd. 
Trwy roi mesurau llym ar waith er mwyn lleihau nifer yr achosion o gloffni, fel y nodwyd uchod, mae nifer yr achosion wedi lleihau o 8-10% i 2% ers cychwyn y prosiect ym mis Tachwedd 2020. Adroddwyd hefyd fod mwy o ŵyn wedi cael eu geni a bod llai o erthyliadau gan fod y cloffni wedi cael ei reoli’n well yn gyffredinol.

Nodwyd hefyd fod arwahanu’r mamogiaid cloff oddi wrth y mamogiaid iach yn y sied ac ar borfa wedi bod yn llwyddiannus er mwyn helpu i gyfyngu lledaeniad yr haint.  


Argymhellion ar gyfer y dyfodol:

Isod mae ychydig o bwyntiau y gellid eu hystyried wrth symud ymlaen er mwyn atal achosion o gloffni pellach ac er mwyn gwella cyfraddau adfer.

  1. Gwiriwch gyfradd y gwrthfiotig a ddefnyddir. Gofalwch roi digon o wrthfiotig yn seiliedig ar bwysau’r famog sy’n cael ei thrin. Osgowch roi dos annigonol. 
  2. Gallwch roi Bimoxyl LA eto ar ôl 2 ddiwrnod (48 awr), pan fo hynny’n briodol. Gall dosio ar ôl y cyfnod yma, megis 3-6 diwrnod wedyn arwain at driniaeth lai llwyddiannus yn yr ystyr fod hynny’n rhoi amser i’r bacteria luosogi oherwydd gostyngiad yng nghrynodiad y gwaed. Mae triniaeth lai llwyddiannus yn debygol o arwain at ddefnyddio mwy o wrthfiotig yn gyffredinol a mwy o gostau, ynghŷd â mamogiaid yn arafach yn dychwelyd i gynhyrchiant.
  3. Yn ystod y cyfnod ŵyna, defnyddiwch un o’r corlannau ŵyna fel ‘corlan gloff’ er mwyn gallu arwahanu’r mamogiaid heintus, yn debyg i’r hyn sy’n cael ei wneud pan fo’r defaid ar borfa. Bydd hyn yn atal yr haint rhag lledaenu i ddefaid eraill ac yn lleihau halogiad o’r corlannau eraill gyda bacteria a all arwain at heintiad. Mae gwasgaru calch ar ddeunydd gorwedd hefyd yn fuddiol yn yr achos yma.   
  4. Ystyriwch frechu’r mamogiaid eto gyda brechlyn Footvax ar ôl cneifio ac ar ôl y cyfnod sganio. Mae tuedd i’r gwrthgyrff yn erbyn clwy’r traed bara am 5-6 mis, felly gall dos cyfnerthol fod yn ddefnyddiol er mwyn cadw niferoedd y gwrthgorff yn uchel. 
  5. Sicrhewch fod y mamogiaid cloff yn cael eu marcio mewn ffordd sy’n eich galluogi i’w hadnabod eto hwyrach ymlaen, yn enwedig wrth ystyried pa rai i’w difa (y rhai sydd wedi cael mwy nag un achos o gloffni yn y flwyddyn ddiwethaf). Mae’n debygol y caiff y mamogiaid problemus eu difa yn ystod y cyfnod diddyfnu. 

 

Y camau nesaf…

Cam nesaf y prosiect yw edrych ar statws elfennau hybrin y ddiadell.  Er mwyn gwneud hyn, bydd yn rhaid cymryd samplau gwaed o’r mamogiaid ar ôl y cyfnod diddyfnu a phenderfynu os oes angen atchwanegiad pellach mewn da bryd cyn y tymor troi’r hyrddod at y defaid.