Diweddariad Prosiect Fferm Longlands - Rheoli Mastitis: Pwysigrwydd dadansoddi patrwm mastitis

Drwy eu gwaith fel safle ffocws Cyswllt Ffermio, mae fferm Longlands wedi bod yn cydweithio â Dr James Breen (Grŵp Tystiolaeth Prifysgol Nottingham) i leihau cyfradd mastitis o fewn y fuches. Hyd at fis Medi 2018, cynyddodd y cyfrif celloedd somatig 12 mis (SCC) i gyfartaledd o 263,000 cell/ml (targed o lai na 200,00 cell/ml). Cyflwynodd Dr Breen Gynllun Rheoli Mastitis Cenedlaethol y Bwrdd Datblygu Amaeth a Garddwriaeth Llaeth (AHDB Dairy) i’r fferm yn ogystal â theclyn newydd dadansoddi patrwm rheoli mastitis AHDB. Cwblhawyd dadansoddiad manwl o’r fferm yn ogystal â dadansoddi bacterioleg llaeth, patrymau clefydau, data cyfrif celloedd somatig a gwybodaeth mastitis clinigol a gasglwyd yn hwylus o ddata cofnodi llaeth misol a data’r fferm. Cynigiodd adnodd newydd dadansoddi patrwm rheoli mastitis AHDB ddull wedi’i awtomeiddio’n llawn ar gyfer asesu’r prif batrymau heintio â mastitis ar y fferm. Ar sail y dadansoddiad, cyflwynwyd cynllun i’r fferm allu ymladd yn erbyn mastitis gyda’r bwriad o leihau nifer yr achosion newydd o fastitis clinigol, cyfrif celloedd somatig (SCC) a’r defnydd o wrthfiotigau o fewn y fuches odro. 

Doedd dim tystiolaeth ar sail cyfrif celloedd somatig gwartheg unigol fod trosglwyddiad heintus yn effeithio ar batrwm y mastitis, gan awgrymu fod y broblem yn deillio o reolaeth yr amgylchedd. Ar lawer o ffermydd llaeth, tuedda’r cyfnod sych gael ei reoli’n llai effeithiol, eto i gyd, gall rheoli’r cyfnod sych hwn fod yr un mor hanfodol â’r cyfnod llaetha o safbwynt ceisio lleihau achosion mastitis o fewn y fuches. Dangosodd yr adnodd dadansoddi patrwm y fuches nad oedd y cyfrif celloedd somatig uchel (SCC) yn datblygu yn ystod y cyfnod llaetha, ond yn hytrach yn ystod y cyfnod sych gan fod y raddfa heintio newydd yn ystod y cyfnod sych yn 21% ar gyfartaledd (gyda tharged o 10%). Dangosodd y dadansoddiad felly fod mastitis ar fferm Longlands yn cael ei effeithio’n bennaf gan reolaeth gwartheg sych, a chafodd y sefyllfa ei hadolygu gan Dr Breen, cyn iddo gynnig yr argymhellion canlynol: 

  1. Darparu gwellt glân a sych yn iard y gwartheg agos i loia o leiaf unwaith y dydd 
  2. Carthu’r holl wellt o’r iard o leiaf unwaith y mis 
  3. Sgrafellu llwybrau, llociau cadw ac ardaloedd bwydo gwartheg sych ddwywaith y dydd
  4. Adolygu gweithdrefnau sychu gwartheg i gynnwys y defnydd o swabiau gwlân cotwm ac ethyl-alcohol.

Gall cynllun adeiladau a’r system gadw’r gwartheg dan do effeithio ar iechyd a lles yr anifeiliaid, gan ddylanwadu ar heintiau megis cloffni a mastitis. Mae gwartheg sy’n agos i loia ac sy’n cael eu cadw mewn iardiau rhydd heb ardal ddigonol i orwedd yn fwy tueddol o ddatblygu mastitis. Mae amodau gorlawn, diffyg awyru a lleithder uchel hefyd yn cynyddu’r risg o fastitis, felly, yn Longlands, addaswyd y sied ar gyfer gwartheg sych i ganiatáu gofod gorwedd o 2m2 a mwy ar gyfer bob buwch. Os yw’r gofod yn brin, dylid blaenoriaethu gwartheg trawsnewidiol a gwasgaru gwellt glân yn amlach.

Ar y cyd â John, aeth Dr James Breen ati i adolygu’r drefn sychu gwartheg, gan edrych ar lendid a thechneg, a ddefnyddio gwlân cotwm ac ethyl-alcohol adeg sychu’r gwartheg. Mae agwedd reoledig at weinyddu therapi sychu gwartheg yn effeithio ar y risg o haint newydd ar yr adeg sychu. Mae’n hollbwysig glanhau’r tethi â gwrth-heintydd tethi cyn-godro a gwlân cotwm wedi ei fwydo mewn ethyl-alcohol cyn sychu’r gwartheg p’un ai os ydych yn defnyddio therapi sychu gwartheg gwrthfiotig gyda seliwr tethi, neu seliwr tethi yn unig. Er mwyn cysondeb, John sy’n gyfrifol am sychu bob buwch gan sicrhau cysondeb o safbwynt agwedd ddethol at therapi gwartheg sych gwrthfiotigol.

Gwelwyd canlyniadau cadarnhaol yn y system reoli yn sgil y newidiadau yma, gyda’r gyfradd heintio newydd yn ystod cyfnod sych y gwartheg yn gostwng i gyfartaledd o 17.6% hyd at fis Medi 2019 (gan ostwng o 21% ar ddechrau’r prosiect). Roedd y lleihad yn nifer yr heintiau newydd ymysg gwartheg yn fwy dramatig, gan ostwng i lai na 10% yn ystod y gaeaf – er i reoli heintiau newydd ymysg heffrod llo cyntaf barhau i fod yn anodd. Arweiniodd y lleihad yn nifer yr heintiau newydd yn ystod y cyfnod sych a gwelliannau yn nhechnegau therapi trwytho gwartheg sych, at gynnydd yn y gyfradd wella cyfnod sych, (y gyfran o wartheg sy’n symud o fwy na 200,000 cell/ml i lai na 200,000 cell/ml rhwng y cyfnod sychu a’r cyfnod wedi lloia), i 80%, i fyny o 69.1%. Canlyniad allweddol arall oedd gweld nifer llai o achosion clinigol yn digwydd yn ystod y 30 diwrnod cyntaf wedi lloia gan ostwng o fwy nag 1 achos ym mhob 12 buwch yn ystod 2018 a dechrau 2019 i lai nag 1 achos ym mhob 12 buwch tuag at ail hanner 2019 (gweler Ffigwr 1). Er gwaethaf ychydig welliant, mae’r fferm yn dal i drafod y diffyg gofod yn yr ardal lle nad yw’r gwartheg yn gorwedd yn iard y gwartheg sych a’r rhai sy’n lloia, yn ogystal â’r system reoli gwartheg sydd newydd loia, a mynediad y gwartheg sy’n llaetha’n gynnar i’r ciwbiclau tywod dwfn yn hytrach nag i’r grŵp ‘ysbyty’ yn yr iard rydd.

Mae mwy o bwysau ar leihau’r defnydd o wrthfiotigau wrth gynhyrchu llaeth ac mae mastitis yn effeithio’n fawr ar ddefnydd cyffredinol y fuches o wrthfiotigau. Drwy ddefnyddio therapi dethol gwartheg sych a gwella’r system reoli, cafwyd lleihad o 13.57mg/PCU yng nghyfanswm y defnydd o wrthfiotigau rhwng cofnodion 2018 a 2019 Longlands, oedd yn is na tharged 2020 RUMA o 21mg/PCU. Cafwyd lleihad sylweddol yn nifer y tiwbiau gwrthfiotig a ddefnyddiwyd i drin mastitis clinigol ac isglinigol o 7.29 i 4.34 dogn y dydd. 

Gwelir y gwelliant cyffredinol yng nghyfraddau heintio mastitis yn ystod y cyfnod sych o ddefnyddio data’r fuches o ddiwedd Ionawr 2020 gyda’r adnodd Dadansoddi Patrymau Mastitis AHDB Llaeth. Dengys data cyfrif celloedd somatig (SCC) gwartheg unigol ac achosion o fastitis clinigol ar gyfer y tri mis diwethaf leihad cyffredinol yn y cyswllt rhwng heintio yn sgil amgylchedd y fuwch a phatrwm mastitis y fuches. Yn dilyn lleihad yn yr heintio yn ystod y cyfnod sych, ymddengys fod y ffocws bellach ar ystyried rheoli’r heintio amgylcheddol adeg y cyfnod llaetha. Mae Longlands yn parhau i ganolbwyntio ar weithredu’r Cynllun Rheoli Mastitis yn ogystal â monitro cyfrif celloedd a data mastitis.

Ffigwr 1. Cyfradd mastitis clinigol sy’n datblygu adeg y cyfnod sych (TotalVet (QMMS Ltd, SUM-IT Software)