Diweddariad Prosiect Fferm Pentre: Gwerthuso effeithiolrwydd sicori mewn systemau defaid yng Nghymru: effaith ar grynodiadau copr yn y borfa

Tybir fod sicori yn fwyd addas ar gyfer pesgi ŵyn. Mae’r prosiect presennol ar Fferm Pentref yn ymchwilio i’r modd y gallai cynnwys sicori gyda rhygwellt ar wahanol gyfraddau effeithio ar y cylchdro pori presennol yn ogystal ag ar reolaeth hwsmonaeth anifeiliaid. 

Ffigwr 1. Padogau pori ar safle arddangos Fferm Pentre

Mae ymchwil blaenorol wedi dangos cyfansoddiad uwch o lefelau hybrin, megis crynodiadau copr mewn sicori o’i gymharu â rhygwellt. Mae un agwedd ar y prosiect presennol yn canolbwyntio ar effaith cynnwys sicori yn y cymysgedd hadau glaswellt ar grynodiad copr yn y borfa, yn ogystal â lefelau copr, seleniwm a chobalt yng ngwaed yr ŵyn. 

Casglwyd samplau sicori (Ffigwr 2) a’u dadansoddi drwy ddefnyddio technegau cemeg gwlyb yn ystod mis Medi 2020. Ymgorfforwyd y sicori yn y gymysgedd a gafodd ei hau mewn cyfrannau gwahanol yn yr amrywiol badogau (1kg a 2kg). Roedd cyfanswm cynnwys y copr yn uchel yn y ddwy gyfran, 11.1 mg/km DM ar gyfer y sampl oedd yn cynnwys y gyfran isaf o sicori, a 9.03 mg/kg DM ar gyfer y sampl yn cynnwys y gyfran uchaf o sicori. Roedd cyfanswm cynnwys sylffwr y ddau sampl yn dderbyniol. Roedd y cynnwys protein crai ac egni metaboladwy (ME) yn is mewn gwirionedd yn y sampl oedd yn cynnwys y gyfran uchaf o sicori. 

Ffigwr 2. Samplu sicori ar lefel y ddaear. 

Cafodd samplau gwaed eu cymryd gan 10% o’r ŵyn ar ddau achlysur, sef ar ddechrau a diwedd y cyfnod pori, ar gyfer dadansoddi lefelau copr, seleniwm a chobalt. Roedd canlyniadau’r samplau gwaed i gyd o fewn yr amrediad arferol ar ddechrau’r cyfnod pori, gydag un oen ychydig yn isel o ran cobalt ac oen arall ar y ffin o fod yn isel ar seleniwm, ond nid oedd llawer o arwyddocâd i hynny ac ni chymerwyd unrhyw gamau gweithredu pellach. Ar ddiwedd y cyfnod pori, roedd canlyniadau’r profion gwaed yn dangos cynnydd yng nghrynodiad copr yr ŵyn oedd yn pori ar dir yn cynnwys sicori (Ffigwr 3), ac felly, roedd pori ar sicori yn arwain at lefelau uwch o gopr yng ngwaed yr ŵyn.

Ffigwr 3. Crynodiad copr yn y gwaed ar ddechrau a diwedd y cyfnod pori ar gyfer ŵyn yn pori rhygwellt a’r borfa’n cynnwys sicori               

Mae’r padogau sicori wedi cael llonydd yn ystod y gaeaf ar y cyfan er mwyn osgoi gor-bori a niwed yn ystod tywydd gwlyb, yn ogystal â sicrhau eu hirhoedledd. Yn ystod gwanwyn 2021, byddwn yn cydweithio â Rhys Williams, Precision Grazing Ltd er mwyn datblygu system bori cylchdro er mwyn cael y gorau allan o’r padogau yn ystod ail flwyddyn y prosiect.

Ffigwr 4. Padogau sicori gweddilliol