Diweddariad Prosiect: Safle Arddangos Bodwi

Mae’r teirw wedi bod yn perfformio’n wych eleni ar fferm Bodwi, gyda rhai ohonynt eisoes wedi cael eu hanfon i’r lladd-dy yn 12 mis oed. Maen nhw wedi llwyddo i gyflawni cynnydd pwysau byw (DLWG) o 1.9kg ers diddyfnu ac maent ar hyn o bryd yn pwyso 613kg ar gyfartaledd.

 

Dyddiad       

Pwysau (kg)

Cynnydd Pwysau Byw (kg)

23-Hyd     

268

 

28-Tach

316

1.3

30-Rhag

390               

2.3

30-Ion

471

2.6

17-Chwef

502

1.7

17-Maw

535

1.1

23-Ebr

613

2.1

 

Mae dau gae, gyda chyfanswm o 27 erw, o haidd gwanwyn wedi cael eu hau ar fferm Bodwi. Laureate yw enw’r rhywogaeth, sef hedyn sydd wedi perfformio'n gyson dda ar Restr Argymhellion gan AHDB ers iddi gael ei rhestru gyntaf yn 2016. Yn union ar ôl aredig cafodd y caeau eu rholio'n wastad i gadw cymaint o leithder â phosibl am fod y tywydd yn sych, ac er mwyn sicrhau gwely mân a chadarn i’r hadau. Cafodd gwrtaith 15-15-15 ei wasgaru ar gyfradd o 150kg yr erw ar y gwely hadau ac yn dilyn hynny bydd cynnyrch wedi’i seilio ar nitrogen yn cael e i wasgaru yn nes ymlaen yn y tymor. Roedd y mynegai pH yn nodi bod angen calch, felly cafodd calch wedi’i brilio ei wasgaru cyn drilio’r hadau ar gyfradd o 200kg yr erw.
Cafodd yr hadau eu drilio â dril cyfun o dan amodau da ar 9 Ebrill a hynny yn ôl cyfradd o 75kg yr erw.

Mae’r egino a’r ymsefydlu wedi bod yn dda iawn o ystyried y tywydd sych a gafwyd ym mis Ebrill. Ar 28 Ebrill, roedd yr haidd yn edrych yn dda, ond roedd dail newydd yn welw a dan straen, yn bennaf o ganlyniad i’r tywydd sych yn cyfyngu ar faint o faetholion oedd y planhigion yn gallu eu codi. Fodd bynnag, ar ôl cael glaw, disgwylir i’r haidd ddatblygu’n dda dros yr wythnosau nesaf. 

Rheoli chwyn fydd yr her nesaf a gwasgaru ffwngleiddiad am y tro cyntaf. Hyd yma, nid oes llawer o chwyn wedi egino. Mae’n hanfodol tynnu’r chwyn cyn gynted ag y byddant wedi egino er mwyn lleihau’r gystadleuaeth a straen i’r cnwd. Mae angen gwasgaru’r ffwngleiddiad cyntaf (T1) ar gam 25-31 o ran twf (diwedd y cyfnod cadeirio). Dyma’r adeg gorau ar gyfer rheoli rhyncosporiwm, er bod y gawod goch, blotyn a llwydni hefyd yn dargedau. Mae rhyw 40% o ymateb y cnwd i’r ffyngleiddiaid yn deillio o’r cyfnod hwn. Asolau, strobilwrinau, ac SDHIs sy’n cael eu defnyddio yn y cyfnod hwn. Bydd y cyfraddau’n amrywio gan ddibynnu ar y pwysau mae’r clefyd yn ei greu cyn gwasgaru. Gan nad oes ffyngleiddiaid iachau ar gael ar hyn o bryd, mae’n gwbl hanfodol bod y dull atal yn cael y flaenoriaeth, yn hytrach na mynd ati i geisio rheoli’n ofer.

Cyn sefydlu unrhyw gnwd, mae'n hanfodol bod yr holl ffactorau cyfyngol yn cael eu harchwilio, gan ddechrau drwy ddadansoddi maetholion y pridd, a’r pH yn benodol. Er enghraifft, gallech ddewis y rhywogaeth orau sydd ar gael ond fydd hi ddim yn perfformio os lefel y maetholion yn eich caeau’n isel.  Mae’r un peth yn wir os oes gennych chi fynegai P a K perffaith ond pH gwael - ni fydd y P a’r K ar gael i’r planhigyn eu cymryd

Cofiwch, mae canlyniadau unrhyw beth y byddwn ni’n ei wneud yn ddibynnol ar nifer o enillion bychain, felly mae angen i ni wella neu fynd i’r afael â’r ffactorau bychain yn y lle cyntaf er mwyn sicrhau unrhyw enillion. A bydd maint yr enillion hynny’n dibynnu i ba raddau yr ydym ni’n mynd i’r afael â’r pethau bychain. 

 

Y camau nesaf ar fferm Bodwi; 

  • Gweithio gyda’r agronomegydd, Gareth Mitchell, i gynnal cnwd iach o haidd.
  • Parhau i gofnodi costau cynhyrchiant y fenter teirw bîff wrth iddynt ddod i ddiwedd eu cyfnod ar y fferm.
  • Cofnodi a monitro’r costau sy’n gysylltiedig â thyfu haidd ar y fferm.