Diweddariad: Sicrhau’r gwerth gorau ar gyfer ŵyn ar gnwd Llyriad (Plantain)

Menna Williams, Swyddog Technegol Cig Coch

Y gymysgedd hadau a heuwyd yn 2014 oedd -

Roderick Special (Llyriad)

6kg/erw

ABERDAI Trifolium repens –

12.5% meillion gwyn

CRUSADER Trifolium repens –

12.5% meillion gwyn

CORVUS Trifolium pratense –

25% meillion coch

Agric TONIC Plantain Plantago –

50%

Canlyniadau’r Prosiect:

Mae’r tabl isod yn cymharu perfformiad y llyriad yn dilyn y tymor pori cyntaf a’r trydydd tymor pori.

 

 

2014

2016

Cynnydd pwysau byw fesul diwrnod (g)

223g

246g

Canran lladd yr ŵyn a oedd yn rhan o’r arbrawf

45%

46%

Graddau’r ŵyn

43% U, 57% R

6% E, 36% U, 58% R gyda 5% o fraster

Cyfanswm dyddiau pori fesul hectar

4201

3360

 

Yn gyffredinol, mae’r llyriad wedi cynnal ei berfformiad ar ôl cael ei bori deirgwaith. Mae’n amlwg bod lleihad mewn cynhyrchiant o’r llyriad, a gellir gweld hyn yng nghyfanswm dyddiau pori’r cnwd. Mae hyn o ganlyniad i leihad naturiol mewn niferoedd planhigion llyriad o ganlyniad i fwy o gystadleuaeth gan chwyn, afiechydon, plâu a da byw sy’n pori.   Gan nad yw llyriad yn cystadlu’n dda, mae angen i systemau rheoli pori sicrhau nad yw rhywogaethau eraill yn y borfa’n mygu’r llyriad.

Roedd Richard yn teimlo bod y llyriad angen mwy o ofal a sylw o’i gymharu â gwyndonnydd glaswellt a meillion, a’r prif broblem gyda llyriad yw nad oes modd ei silweirio na’i bori dros fisoedd y gaeaf. O ganlyniad, nid yw Richard yn rhagweld y bydd yn hau llyriad yn y dyfodol agos ac mae’n teimlo bod gwyndonnydd glaswellt a meillion wedi’u rheoli’n dda yn gallu cynnig perfformiad tebyg iddo gyda mwy o hyblygrwydd o ran cynhyrchu silwair a phori dros y gaeaf.