Dyfi Dairy - Crynodeb a chanlyniadau allweddol
Nod yr arbrawf oedd drilio gwahanol gymysgeddau gwndwn llysieuol yn uniongyrchol i’w defnyddio ar fferm laeth ucheldir yng Nghymru.
Sefydlwyd pedair llain arbrofi: tri gwahanol gymysgedd o wndwn llysieuol wedi’u drilio’n uniongyrchol i borfa rhygwellt parhaol, ac un llain gyda phorfa rhygwellt parhaol pur fel llain reoli.
Dyluniwyd y lleiniau arbrofi gyda’r nodweddion canlynol:
Llain 1: Cae Mawr – gwndwn llawn codlysiau a pherlysiau: Defnyddiwyd y llain hon i porfa i wartheg laeth, gyda ffocws ar blanhigion sy’n sefydlogi nitrogen ac yn gwreiddio’n ddwfn.
Llain 2: Cae Ffordd – gwair ac amrywiaeth: Defnyddiwyd y llain hon ar gyfer gwair/gwywair, gyda ffocws ar berlysiau, blodau gwyllt ac amrywiaeth o Llain 3: Cae Dan Helm – porfa geifr/anthelminitig: Defnyddiwyd y llain hon ar gyfer porfa ar gyfer geifr, gan ganolbwyntio ar blanhigion gyda nodweddion anthelminitig.
Rhif ac enw’r llain | Maint (Ha) | Triniaeth |
| 1 | Gwndwn llawn codlysiau a pherlysiau |
| 2 | Gwair ac amrywiaeth |
| 0.5 | Porfa ar gyfer geifr/anthelminitig |
| 1 | Dim triniaeth |
Yn gyffredinol, fe wnaeth y tywydd a ffactorau logisteg effeithio’n negyddol ar yr arbrawf. Roedd y tywydd anarferol o wlyb ym mis Ebrill a Mai yn golygu na chafodd y cymysgeddau gwndwn llysieuol eu drilio’n uniongyrchol tan fis Mehefin. Er bod y borfa wedi cael ei thocio a’i phori’n dynn cyn drilio’n uniongyrchol, roedd y borfa rhygwellt yn dal i berfformio’n well na’r cymysgeddau gwndwn llysieuol.
Pe byddai’r arbrawf yn cael ei ailadrodd, byddai’r cymysgeddau gwndwn llysieuol yn cael eu drilio’n uniongyrchol ar ddechrau mis Ebrill. Fel arall, pe byddai’r tywydd ar gyfer hau yn digwydd yn hwyrach, byddem naill ai’n defnyddio aradr a/neu og ar y caeau cyn drilio.
Fodd bynnag, fe wnaethom ni lwyddo i sefydlu’r cymysgeddau gwndwn llysieuol ar bob un o’r tair llain ac rydym yn disgwyl gweld sefydliad pellach dros y blynyddoedd nesaf (wrth i’r hadau yn y pridd gael eu symud wrth bori anifeiliaid).
Mae'r lluniau canlynol yn dangos rhai o’r planhigion a sefydlwyd ar Lain 3, gyda phob un ohonynt yn meddu ar nodweddion anthelminitig ar gyfer porfa ar gyfer geifr. Dros gyfnod yr arbrawf, hanerodd y baich llyngyr yn y geifr o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol.
Yn ystod cyfnod byr yr arbrawf (un tymor pori), mae’n rhy gynnar i weld buddion arwyddocaol o ran iechyd y pridd a thwf y borfa. Fodd bynnag, mae hyn yn rhywbeth y byddem yn disgwyl ei weld dros y blynyddoedd nesaf, ac mae rhywfaint o arwyddion o welliant i’w gweld eisoes. Cynyddodd y deunydd organig ar un llain (Llain2), gan aros yr un fath i bob pwrpas ar y llain reoli. Gwelwyd gwelliant o ran pH ar y ddwy lain arall (Llain 1 a 3), gan leihau rhywfaint ar y llain reoli.
Mewn arbrofion yn y dyfodol, o ganlyniad i pH gwael y pridd, mae’n bosibl y byddwn yn ystyried gwasgaru calch cyn hau’r gwndwn llysieuol i weld a yw hynny’n effeithio’n sylweddol ar eu sefydliad. Efallai y byddem hefyd yn ystyried ychwanegu triniaeth fycorhisol i wella bioleg y pridd.