Llys Dinmael - Diweddariad Prosiect

Mae magu heffrod llaeth yn faes sy’n aml yn cael ei esgeuluso a’i danbrisio ym muchesi llaeth Cymru, oherwydd, yn hanesyddol ac yn ddigon naturiol, y fuches sy’n cael ei godro yw prif ffocws y busnes llaeth. Fodd bynnag, mae astudiaethau a thystiolaeth ddiweddar wedi dangos mai heffrod wedi tyfu’n dda sy’n bwrw lloi pan yn 23/24 mis oed yw’r anifeiliaid mwyaf proffidiol o fewn strategaeth busnes llaeth tymor hir. Gall cost gyfartalog magu heffer laeth amrywio’n sylweddol iawn, o £1,000 i £3,000.

Ni wyddys llawer am reoli heffrod llaeth fel rhan o system pori cylchdro wedi’i stocio’n drwm. Mae’r prif egwyddorion o ran defnydd a rheoli yn seiliedig ar arferion pori’r fuches laeth yn ei llawn dwf. Bydd y prosiect hwn yn monitro cyfraddau twf heffrod mewn cymhariaeth â gorchudd glaswellt cyn ac ar ôl pori, i ddatblygu dealltwriaeth well o sut gall heffrod Holstein Friesian bori fel rhan o system cylchdro ble caiff y tir ei rannu’n ‘gelloedd’ (llai na 0.5ha yr un). Y prif nod yw sicrhau’r perfformiad gorau gan yr anifail mewn system fwydo cost isel.

Mae Dafydd Jones o Lys Dinmael Isaf wedi prynu 20 o heffrod llaeth Holstein Friesian 4 wythnos oed. Mae’n bwriadu eu magu nes byddant wedi lloea a’u gwerthu fel heffrod sydd newydd gychwyn llaetha. Mae Dafydd, sydd ddim yn gynhyrchwr llaeth, yn dymuno ychwanegu menter arall at ei fusnes, ac elwa ar y cynnydd sydd eisoes wedi’i sicrhau trwy gadw defaid mewn system pori cylchdro ar y fferm ucheldir hon. Trwy newid ei ddull o reoli porfa, mae Dafydd wedi sylweddoli y gall y fferm dyfu digonedd o laswellt, ac fe hoffai wneud defnydd ychwanegol ohono. Caiff yr heffrod eu cadw allan yn ystod eu gaeaf cyntaf ar gaeau o fetys porthiant er mwyn sicrhau bod costau gwasarn, llafur a chadw stoc dan do mor isel ag y bo modd. 

Ffigwr 1. Lloi benyw yn cael llaeth powdwr mewn sied ŵyna wedi’i haddasu.

 

Ffigwr 2. Lloi benyw yn cael eu pwyso ar 10 Awst 2019.

 

Ffigwr 3. Heffrod yn pori ar 5 Medi 2019.

 

Ffigwr 4. Heffrod yn cael eu porthi â betys porthiant Geronimo ar 16 Tachwedd 2019.

 

Mae’r lloi wedi cael eu pwyso’n fisol ers iddynt gyrraedd Llys Dinmael. Ar ôl eu diddyfnu oddi ar laeth powdwr a dwysfwyd, cafodd yr heffrod eu porthi â glaswellt yn unig o ddiwedd Gorffennaf i ddiwedd Hydref. Cafodd yr heffrod eu porthi fel rhan o system pori cylchdro gan symud bob dau ddiwrnod. Roedd y gorchudd glaswellt cyn pori yn 2,500-2,700kg/ha ac roedd gorchudd o 1,500kg/ha yn weddill ar ôl pori. Dadansoddwyd samplau o laswellt ffres i gael gwybodaeth am yr ansawdd ac argaeledd mwynau, ac yn sgil hynny, rhoddwyd bolysau mwynau i’r heffrod ar ôl canfod bod lefelau copr yn isel. O’r system hon, fe wnaethant symud yn raddol i fetys porthiant trwy dreulio 21 diwrnod yn pori betys porthiant yn ystod y dydd a glaswellt yn ystod y nos. Unwaith yn rhagor, nid ydynt wedi cael eu porthi ag unrhyw ddwysfwyd wedi’i brynu yn ystod y cyfnod hwn.

Cafodd dau hectar o fetys porthiant Geronimo eu hau gan ddefnyddio heuwr manwl gywir ym mis Ebrill, ar gyfradd o 100,000 o hadau fesul hectar a bylchau o 50cm rhwng y rhesi.  Mae’r cyfrifo a wnaed yn awgrymu bod gwerth y deunydd sych yn 27 tunnell/ha, o gymharu â chyfartaledd y DU, sef 20 tunnell/ha. Gan gofio pa mor uchel yw Llys Dinmael o gymharu â lefel y môr, mae’n ganlyniad aruthrol o dda.
Mae’r lloi benyw yn hunan-borthi y tu ôl i ffens drydan ar gyfradd o 0.97 metr o fetys porthiant bob dydd o fewn stribed 40m o led, ac yn ogystal â’r betys porthiant, maent hefyd yn cael silwair byrnau crwn mewn cafnau crwn. Mae digonedd o fetys porthiant ar gael tan fis Mawrth. Mae cyfradd twf yr heffrod yn ystod y mis diwethaf wedi bod yn 0.89kg o ran cynnydd pwysu byw dyddiol (DLWG).

Roedd pwysau cyfartalog y lloi yn 246kg pan gawsant eu pwyso ddiwethaf ar 16 Tachwedd. Roedd y trymaf yn pwyso 281kg a’r ysgafnaf yn pwyso 202kg. 

Mae’r cynnydd pwysau byw dyddiol ers i’r heffrod gael eu pwyso ar 18 Hydref wedi bod yn 0.89kg DLWG ar gyfartaledd, gan ddefnyddio diet o borthiant wedi’i dyfu ar y fferm yn cynnwys betys porthiant ad lib a silwair byrnau crwn ar gyfradd o 6kg fesul anifail yn ddyddiol.

Nawr, mae cyfle ar gael i reoli’r heffrod mewn grwpiau ar wahân, gan wahanu’r rhai sydd wedi ennill pwysau yn gyflymach i’w galluogi efallai i gael tarw yn iau na’r rhai sy’n datblygu’n arafach. Fodd bynnag, efallai na fydd hyn yn ymarferol os bydd yr heffrod hyn yn cael tarw ym Mai 2020, oherwydd byddai hynny’n golygu eu bod yn bwrw lloi yn ystod y mis Mawrth dilynol, yng nghanol tymor ŵyna 2021. Ar waethaf eu datblygiad, bydd yn dal yn fwy ymarferol i roi tarw i’r heffrod hyn ym Medi 2020 i’w galluogi i fwrw lloi ym Mehefin 2021, ac i elwa ar y prisiau uwch am heffrod sy’n llaetha sydd wedi lloea yn yr haf neu’r hydref. Mae cyfraddau twf yn Llys Dinmael wedi dangos pa mor bwysig yw rheoli enillion pwysau byw dyddiol heffrod os bwriedir iddynt loea yn 24 neu 28 mis oed a beth yw’r amcan yn y pen draw. Mae’n rhaid sicrhau cydbwysedd rhwng pwysau targed, costau magu a sicrhau pris gorau’r farchnad yn y pen draw am heffer yn llaetha sydd newydd loea.
 

Ffigwr 5. Dafydd yn dangos enghraifft o’r betys porthiant Geronimo a dyfwyd eleni.