Ffeithiau Fferm Cae Haidd Ucha

Ffermwyr

  • Mae Cae Haidd yn fferm bîff a defaid ucheldir heriol yn Eryri. Mae Paul a Dwynwen Williams, ynghyd â’u teulu ifanc a’u hewythr yn ffermio’r uned 320 erw.
  • Mae ganddynt dri o blant: Brenig, yr hynaf, sy’n 7 oed, Briallen, sy’n 4 ac mae Celt newydd droi’n flwydd.

Tir

  • Mae Cae Haidd Ucha yn ymestyn dros 320 erw i gyd, gyda 306 erw yn berchen iddynt.
  • Mae tir ar y prif ddaliad yn amrywio rhwng 900 troedfedd a 1,200 troedfedd uwch lefel y môr, gyda 50 erw o dir ychwanegol dan 100 troedfedd uwch lefel y môr.
  • Mae’r rhan fwyaf o’r tir o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, ac mae’r mynydd yn rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Hiraethog.
  • Mae’r fferm ar hyn o bryd yn rhan o elfennau Glastir Uwch a Thir Comin Glastir.

Newid ar dro yng Nghae Haidd

Ers rai blynyddoedd bellach, mae Paul a Dwynwen wedi bod yn meincnodi ei busnes yn fanwl, gan gymharu'r ddwy brif fenter, sef buchod sugno a defaid. Ers rai blynyddoedd mae'r fenter buchod sugno wedi bod yn perfformio llawer gwell na'r fenter defaid o ran incwm fesul Uned Da Byw (LSU); ac yn sgil y gostyngiad mewn treuliant cig oen dros y blynyddoedd diweddar a'r ansicrwydd ynglŷn â Brexit mae'r penderfyniad wedi ei wneud i roi gorau i gadw defaid.

Bellach mae holl ddefaid y fferm wedi eu gwerthu, ac mae'r fenter newydd eisoes wedi cychwyn, sef magu lloeau eidion o'r fuches laeth. Cyrhaeddodd y lloeau cyntaf Cae Haidd bythefnos yn ôl, ac maent wedi ymgartrefu yn yr hen sied ddefaid, sydd wedi cael ei addasu gan Paul dros yr haf. Mae'r lloeau yn cael eu bwydo gyda pheiriant awtomatig, sydd yn cadw cofnod o bob dim ac yn hysbysu Paul drwy neges text os nad yw un o'r lloeau yn sugno fel y dylai. Mae'r cynllun busnes yn cynnwys cael tri chriw o loeau i mewn i'r fferm, 40 ar y tro, gyda dau fis rhwng pob criw. Mae hyn yn golygu mai ond un peiriant llaeth sydd ei angen gan leihau'r gost o sefydlu.

Bydd y lloeau yn cael eu cadw ar y fferm hyd nes byddent yn 16 mis oed, gan bori ar system gylchdro yn ystod yr haf. Unwaith bydd y lloeau wedi cyrraedd eu targed o ran pwysau byw byddent yn cael eu gwerthu ymlaen i uned fydd yn eu pesgi a'i gorffen.

Yn ychwanegol i hyn, mae'n fwriad gan Paul a Dwynwen i gynyddu'r fuches sugno i 60 o fuchod. Gallent wneud hyn heb wariant ychwanegol a'r adeiladwaith sydd yn golygu y bydd y costau sefydlog yn ôl y pen yn lleihau yn bellach.

 

Gwybodaeth ychwanegol

  • Mae’r teulu wedi arallgyfeirio tu hwnt i amaethyddiaeth dros y blynyddoedd diwethaf. Mae Dwynwen yn rhedeg busnes llogi pebyll yn yr ardal leol; ac maent hefyd wedi buddsoddi mewn tyrbin gwynt 20kv – mae’r ddau fusnes yn annibynnol i’r fenter ffermio.