Ffeithiau Fferm Orsedd Fawr

Ffermwyr

  • Mae Fferm Arddangos Orsedd Fawr yn cael ei rhedeg gan Morris Gwyn Parry a’i wraig Delyth. Mae ganddynt bedwar o blant, Morris Eifion sy’n 15, Cadi Elen, 14, Robin Gwyn, 12 a Guto Gwyn yw’r ieuengaf, yn 11 mlwydd oed.

Tir

  • Mae’r bartneriaeth yn ffermio cyfanswm o 700 erw, 550 erw yn berchen iddynt a 150 erw wedi’i rentu ar gytundeb tenantiaeth tymor hir.
  • Mae’r tir wedi’i rannu rhwng pedwar parsel, gyda phob un ohonynt o fewn wyth milltir i’r prif ddaliad.
  • Mae’r holl dir sy’n cael ei ffermio yn rhan o’r cynllun Glastir Organig.
     

Da Byw

 

Bîff

  • Mae’r fuches yn cynnwys 60 o fuchod magu, Limousin croes yn bennaf, sy’n lloea rhwng Ebrill a Mehefin.
  • Dros y blynyddoedd nesaf, bydd y fuches yn cael ei throi’n fuches Stabiliser trwy fagu eu buchod cyfnewid eu hunain o deirw Stabiliser.
  • Mae’r holl wartheg yn cael eu pesgi a’u gwerthu’n 18-22 mis oed.
  • Cedwir y gwartheg dan do rhwng canol mis Tachwedd hyd ganol mis Mawrth.

Defaid

  • 450 o famogiaid Cymreig wedi’u gwella (Talybont) a 200 o ŵyn benyw.
  • Defnyddir hyrddod Cymreig wedi’u Gwella a Wyneblas, gydag anifeiliaid cyfnewid yn cael eu magu gartref.
  • Mae’r cyfnod ŵyna yn cychwyn ar ddechrau mis Mawrth, ac nid yw’r mamogiaid yn derbyn unrhyw ddwysfwyd ategol yn ystod y gaeaf cyn ŵyna. Mae’r drefn fwydo ar ôl ŵyna’n ddibynnol ar y tymor, lle bydd ambell floc yn cael eu bwydo’n achlysurol os yw tyfiant y glaswellt yn araf.
  • Mae’r ŵyn i gyd yn cael eu pesgi a’u gwerthu ar y bach.
     

Cnydau

  • Mae un toriad o silwair yn cael ei wneud yng nghanol mis Mehefin, fel arfer rhwng 80 a 90 erw.

Gwybodaeth ychwanegol

  • Mae’r fferm wedi arallgyfeirio i gynnig llety gwyliau, gyda dau fwthyn hunanarlwyo a chaban bugail.
  • Mae Celloedd Solar PV wedi cael eu gosod ar y fferm i ddarparu ynni adnewyddadwy.