Ffeithiau Fferm Rhiwaedog

Mae Fferm Arddangos Rhiwaedog yn fferm fynydd o 142 hectar (ha) ac mae’n gweithio fel fferm bîff a defaid.

Aled a Dylan yw’r bedwaredd genhedlaeth o deulu’r Jonesiaid sydd wedi bod yn ffermio ar y daliad, sy’n 1,000 o droedfeddi o uchder yn ei man uchaf.

Mae’r teulu’n rhentu 121ha arall ar ddaliad cyfagos, ar dir sy’n codi i 1400 o droedfeddi.

Mae’r fuches bîff yn cynnwys 70 o fuchod sugno Duon Cymreig sy’n cael eu troi at darw stoc Charolais neu darw stoc Du Cymreig; o ran yr heffrod, tarw Saler sy’n cael ei ddefnyddio.

Mae epil y fuches yn cael eu gwerthu fel gwartheg stôr mewn marchnadoedd da byw.

Mae’r ddiadell o 1500 o famogiaid yn cael ei rhannu’n dri grŵp - Texel x Miwl ac Aberfields, Cheviot x mamogiaid Cymreig a mamogiaid Cymreig.

Mae’r Texel x Miwl ac Aberfields yn cael eu troi at hwrdd Texel, mae’r mamogiaid Cheviot x Cymreig yn cael eu toi at hwrdd Aberfield a Wyneblas Caerlŷr ac mae’r mamogiaid Cymreig yn cael eu troi at Cheviot.

Mae canran sganio’r Texel x Miwl ac Aberfields yn 180% ar gyfartaledd. 170% yw’r Cheviot x mamogiaid Cymreig a 150% yw’r mamogiaid Cymreig.

Mae canran fagu o 1.5 i bob mamog yn cael ei sicrhau ar draws y ddiadell gyfan.

Mae’r rhan fwyaf o’r defaid croes yn wyna o dan do o ddiwedd mis Chwefror ymlaen a bydd y mamogiaid Cymreig yn wyna yn yr awyr agored ym mis Ebrill.

Mae 80% o’r ŵyn yn cael eu gwerthu drwy’r fasnach fyw.

Un toriad silwair sy’n cael ei wneud, sef 56 hectar ar ddiwedd mis Mehefin, ac ail doriad mewn rhai o’r caeau. Mae’r silwair i gyd yn cael ei droi’n fyrnau mawr.

 

Arallgyfeirio

Mae incwm ychwanegol yn dod i mewn drwy fwthyn gwyliau hunan-arlwyo.

Mae bwyler biomas yn creu gwres i dair annedd ar y fferm.