Fferm Hardwick - Cyflwyniad i'r Prosiect

Ceir llawer o ddiddordeb o fewn y diwydiant llaeth i ganfod ffyrdd o wella’r dull o ganfod clefydau’n gynnar. Gall anhwylderau iechyd effeithio’n sylweddol ar broffidioldeb buches laeth. Gall clefydau effeithio ar effeithlonrwydd cynhyrchu mewn tair ffordd: trwy leihau cynhyrchiant llaeth, lleihau perfformiad atgynhyrchu, a lleihau hyd oes buwch laeth o ganlyniad i gynnydd mewn cyfraddau difa. Mae canfod gwartheg sâl yn rhan hanfodol o unrhyw raglen iechyd ar gyfer y fuches laeth. Yn ystod y cyfnod trosi (a nodir fel arfer fel y cyfnod o dair wythnos cyn lloia hyd at dair wythnos ar ôl lloia) mae gwartheg llaeth yn agored iawn i glefydau metabolaidd a heintus; felly, mae canfod clefydau’n gynnar yn hanfodol ar yr adeg hon. Nod y prosiect hwn yw gweld a yw ymddygiad y fuwch sych wrth fwydo ac ymddygiad cyffredinol a arsylwir gan ddefnyddio technoleg Genus ar wyneb y porthiant yn gallu rhagweld clefydau cyn geni, a thrwy hyn, a yw’n gallu cynyddu nifer y gwartheg sy’n gyflo 100 diwrnod ar ôl lloia.

Bydd y prosiect yn archwilio a oes modd rhagweld clefydau cyn geni drwy fonitro ymddygiad y fuwch sych gyda’r nod o wella cyfraddau ffrwythlondeb 100 diwrnod.  Mae’r Genus Breeder Tag yn casglu data wrth y porthiant drwy fonitro ymddygiad y fuwch wrth fwyta. Gall y dechnoleg asesu am faint fydd y gwartheg yn gorwedd, sawl gwaith mae’n mynd at y porthiant, a faint o amser mae’n ei dreulio’n bwydo.  Dylai’r data amser real hwn adrodd unrhyw newidiadau mewn ymddygiad a galluogi’r ffermwr i ymateb yn gynt i fynd i’r adael ag unrhyw broblemau iechyd cysylltiedig.

Mae’r dechnoleg hon yn gymharol newydd yn y DU a Hardwick Farm fydd y fferm gyntaf i’w gosod yn ne Cymru.