Fferm Penrhyn - Cyflwyniad i'r Prosiect

Gellir canfod y genyn Myostatin ym mhob mamal ac mae’n dylanwadu ar gynhyrchu protein sy’n rheoli datblygiad cyhyrau. Mae mwtaniadau naturiol ar y genyn yn cynhyrchu proteinau sy’n llai effeithiol wrth reoli datblygiad cyhyrau, ac mae hynny’n arwain at gynyddu màs y cyhyrau. Ceir naw o fwtaniadau hysbys o’r genyn Myostatin mewn gwartheg, rhai ohonynt yn benodol i’r brid ac eraill sy’n effeithio ar fwy nag un brid. Mae tri phrif fwtaniad sy’n digwydd yn yr holl boblogaethau Limousin (yn ogystal â bridiau eraill), sef:

 

Amrywiolyn F94L

Mae F94L yn cynyddu maint ffibrau cyhyrau heb unrhyw gynnydd cysylltiedig o ran anawsterau lloia, llai o ffrwythlondeb na llai o hyd oes, ac mae’r mwyafrif helaeth o anifeiliaid yn y brid yn cludo’r genyn hwn. Mewn anifeiliaid homosygaidd (dau gopi o F94L), gwelir cynnydd o hyd at 19% ym mhwysau’r prif doriadau cig a chynnydd o hyd at 8% yn y mynegrif Cynnyrch Cig Eidion Manwerthu, ac mae hyn hefyd yn arwain at well cyfraddau o ran trosi porthiant. Yn nodweddiadol, bydd ansawdd y cig hefyd yn well, a bydd yn fwy brau, yn cynnwys llai o fraster a chyfran uwch o frasterau amlannirlawn. Mae anifeiliaid hynny heterosygaidd (sydd ag un copi yn unig) hefyd yn amlygu’r nodweddion hyn, ond nid i’r un graddau.  O ganlyniad i amledd y genyn hwn mewn gwartheg Limousin, mae gan y mwyafrif o anifeiliaid ddau gopi ohono ac maent yn dangos ei nodweddion; mwy o fàs y cyhyrau heb fwy o anawsterau wrth loea, llai o ffrwythlondeb nac oes fyrrach. Mae felly yn rhannol gyfrifol am y brid fel y mae heddiw ac yn un o’r rhesymau dros ei lwyddiant masnachol.

 

Amrywiolyn nt821

Mae’r amrywiolyn hwn yn enciliol ac mae cyfran lai o’r anifeiliaid yn y brid yn ei gludo. Bydd anifeiliaid sy’n homosygaidd enciliol yn dangos nodweddion o’r cyflwr: mwy o ddyfnder yn y lwynau, llai o fraster a ffolen a chluniau mawr crynion. Ond yn wahanol i F94L, gall anifeiliaid homosygaidd (h.y. y rhai sydd â dau gopi o’r genyn) bwyso ychydig yn drymach wrth eu geni, sy’n golygu fod posibilrwydd o loia mwy trafferthus yn sgil y genyn hwn. Os yw anifeiliaid yn heterosygaidd â F94L (h.y. F94L/nt821), byddant yn dal yn dangos nodweddion carcas da, ond byddant yn llai tebygol o gael eu heffeithio gan loia anos. Gelwir yr anifeiliaid hyn yn ‘gludwyr’.

 

Amrywiolyn Q204X

Mae hwn yn fwtaniad ‘rhannol drechol’ o’r genyn Myostatin, ac fel nt821, caiff ei gludo gan gyfran fechan o anifeiliaid. Bydd anifeiliaid sy’n homosygaidd (dau gopi o’r genyn Q204X) yn dangos nodweddion megis mwy o ddyfnder yn y lwynau, llai o fraster a chig sy’n fwy brau. Fodd bynnag, gallant hefyd dueddu i bwyso mwy wrth eu geni, ac yn achos benywod, efallai bydd ganddynt ychydig yn llai o allu i gynhyrchu llaeth. Bydd anifeiliaid sy’n heterosygaidd â F94L (h.y. F94L/Q204X) - a elwir hefyd yn ‘gludwyr’ - yn dangos nodweddion carcas da serch hynny, ond byddant yn llai tebygol o gael eu heffeithio gan bwysau trymach wrth eu geni a llai o allu i gynhyrchu llaeth.

Mae dau amrywiolyn arall o Fyostatin yn bodoli, ond maent yn eithaf prin. Gelwir hwy yn nt419 ac E291X, ac mae eu heffeithiau mewn anifeiliaid homosygaidd a heterosygaidd yn debyg i nt821 a Q204X yn eu trefn.

 

Beth fydd yn digwydd:

Profir DNA 60 o fuchod bridio iau a heffrod (sy’n addas i fod yn heffrod amnewid i fridio) a’r teirw stoc Limousin i bennu pa gyfuniad o amrywiolion Myostatin maent yn eu cludo.  Darperir pecynnau samplu DNA ar gyfer anifeiliaid unigol a chaiff 20-40 o flew eu tynnu o flaen cynffon bob anifail ynghyd â ffoliglau blew da, a chânt eu rhoi mewn bagiau samplau a nodir manylion yr anifail ar bob bag. Ar ôl eu hanfon at y Gymdeithas Gwartheg Limousin, caiff y samplau eu hanfon ymlaen at Weatherbys Ireland i gynnal profion DNA, ac fe wnaiff hynny bennu pa amrywiolion o Fyostatin mae’r anifeiliaid yn eu cludo.

Caiff y samplau hefyd eu cynnwys y tro nesaf y pennir Rhagfynegiad Diduedd Llinol Gorau ar gyfer y brid Limousin, a chaiff hynny ei gymharu ag allwedd SNP y brid i gynhyrchu gwerthoedd bridio genomig ynghylch y carcas a nodweddion mamol, fel a ganlyn:

 

Pwysau’r carcas (kg)

Oedran ar adeg lladd (diwrnodau)

Ffiled (kg)

Syrlwyn (kg)

Ochr orau’r forddwyd (kg)

Ffolen (kg)

Ystlys las (kg)

Coesgyn (kg)

Gwerth Manwerthu (£)

 

Oedran ar adeg y lloia cyntaf

Hyd oes

Bwlch lloia

Goroesiad lloi

 

Dangosir pob un o’r uchod fel siartiau bar a gaiff eu meincnodi mewn cymhariaeth â chanraddau brid y Limousin ar gyfer bob anifail. Os bydd yr anifail yn 50% Limousin o leiaf (ceir rhywfaint o waed Gwartheg Glas Gwlad Belg yn y fuches), bydd cymhariaeth ag allwedd SNP Limousin yn ddilys.

Bydd angen mesur pelfisau heffrod a ddewisir fel heffrod amnewid posibl i fridio, ac fe wnaeth hynny ddarparu gwybodaeth bwysig am eu gallu unigol i osgoi anawsterau lloia.