Gogledd Cymru - Taith 1

  • Man codi 1 - Y Maes, Pwllheli
  • Man Codi 2 - Safle bws ger Oakley Arms,  Maentwrog
  • Bocs Bwyd, Porth Eryri
  • Teulu Jones, Fron Bellaf
  • Fferm Deuluol a Pharc Carafanau Llanbenwch
  • Gwinllan y Dyffryn

Archebwch eich lle 

Bocs Bwyd, Pentrefoelas

Mae Teleri, perchennog Bocs Bwyd, yn ffermio gyda'i phartner, Gethin, a’u pedwar o blant, ger Pentrefoelas.

Yn 2022, fe wnaethon ni agor y busnes glampio, Porth Eryri, sydd bellach yn rhedeg pedwar caban llety o fewn tair acer o goed ar y fferm.

Yn 2023, daeth y cyfle i agor y busnes caffi, Bocs Bwyd, yma ar garreg ein drws ym Mhentrefoelas. 

Elaine Rees Jones a'r teulu, Fron Bellaf, Pentrefoelas

Fferm denant ar ucheldir Pentrefoelas yw Fron Bella, sy’n cael ei ffermio gan Gari Bryn Jones. Uned bîff a defaid yw hi’n draddodiadol, er mae’r busnes wedi gweld newidiadau wrth ychwanegu mentrau amrywiol, ynni adnewyddadwy, twristiaeth, a dofednod ato.

Mae Gari yn briod ag Elaine ac mae ganddyn nhw dri o blant – Mared, 13, Ela, 11, ac Alys, 9.
Ar ôl cael ei magu ar uned Bîff a Defaid ar ucheldir Sir Drefaldwyn, mae Elaine wedi byw ar fferm Fron Bella ers 2008 ac mae’n bartner gyda Gari yn y busnes. Ond nid yw Elaine yn honni ei bod hi’n ffermwr; yn hytrach mae’n fwy o gefnogwr i ffermwr! Elaine a dau gyd-weithiwr iddi oedd y sbardun ar gyfer y digwyddiad Merched mewn Amaeth yng Nghymru; y nhw drefnodd y digwyddiad cyntaf yn 2005 pan oedd Elaine yn gweithio i Cyswllt Ffermio. 19 mlynedd yn ddiweddarach ac mae Elaine yn eich croesawu i ymuno â hi ar fferm Fron Bella i ddysgu rhagor am y system ffermio a’r heriau a’r newidiadau mae’r busnes yn eu hwynebu, yn ogystal â’i rôl yn y busnes.

Maes Carafanau Llanbenwch

Fferm deuluol yw Llanbenwch ar yr A525, rhyw dair milltir o dref Rhuthun i gyfeiriad Wrecsam. Cartref Gwion, Sara a'u merched – Eiri, 15, a Lliwen, 13 – yw Llanbenwch. Ailagorwyd y maes carafanau ym mis Ebrill 2019 ac yna’r caffi a’r siop ym mis Ebrill 2021.  Mae lle i 30 o garafanau/pebyll ar y maes sy’n cynnwys cyfleusterau a chae chwarae i'r plant ac un ar wahân i gŵn! Rydyn ni’n cynnal gwersi pilates, hyfforddiant cylchol a ras 5k ar fore Sul cyntaf y mis. Mae'r caffi a'r siop ar agor i ymwelwyr y maes a’r gymuned leol, sydd erbyn hyn yn ein cadw ni'n brysur iawn! Rydyn ni ar hyn o bryd yn brysur yn adeiladu’r caffi newydd a fydd yn agor ym mis Gorffennaf! (Croesi bysedd!)


Gwinllan y Dyffryn | Vale Vineyard

Plannwyd Gwinllan y Dyffryn yn 2019 pan ddaeth Gwen a Rhys Davies o hyd i ficrohinsawdd unigryw o amgylch eu cartref yn Nyffryn Clwyd. Mae amodau’r hinsawdd wedi profi i fod yn addas ar gyfer amrywiaeth unigryw o winwydd grawnwin sy’n tyfu mewn hinsawdd oer. Ar ôl dysgu’n gyflym am winwyddaeth a gwin, bum mlynedd yn ddiweddarach, maen nhw’n falch o gynhyrchu amrywiaeth o winoedd llonydd a phefriog o safon sy’n cipio gwobrau. Croesewir ymwelwyr hefyd i’r winllan ar deithiau tywys a digwyddiadau blasu gwin. Gallwch ddilyn eu stori ar @valevinesandwines